91Ï㽶ÊÓƵ

En
learners receive medals at the skills competition wales watch party

Myfyrwyr 91Ï㽶ÊÓƵ yn fuddugol yn rowndiau terfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru


10 Mawrth 2023

Myfyrwyr 91Ï㽶ÊÓƵ yn fuddugol yn rowndiau terfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru

Mae myfyrwyr 91Ï㽶ÊÓƵ wedi cystadlu yn erbyn cannoedd o gystadleuwyr eraill ar draws y wlad fel rhan o Gystadleuaeth Sgiliau Cymru. Eleni, arddangosodd 113 o fyfyrwyr eu gallu, eu cymhwysedd a’u gwybodaeth gan ennill cyfanswm o 17 o fedalau yng nghategorïau aur, arian ac efydd.

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid herio, meincnodi a chynyddu eu sgiliau trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau.

Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chynnal gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu yn y gweithle a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, mae’n cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol sydd wedi’u halinio â WorldSkills ac anghenion economi Cymru.

Esboniodd Rheolwr Cystadleuaeth Sgiliau, Richard Wheeler, “Mae cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau, nid yn unig, yn ffordd wych o wella eich sgiliau technegol ond, hefyd, y sgiliau cyflogadwyedd allweddol sy’n angenrheidiol ar gyfer cystadleuaeth megis perfformio dan bwysau, rheoli amser, cynllunio a datrys problemau.

Yn amlwg, caiff y sgiliau hyn eu profi yn ystod cystadleuaeth a, gyda chymorth eich tiwtoriaid yn 91Ï㽶ÊÓƵ, gallwch chi eu hymarfer ynghyd â’r sgiliau technegol yn ystod y cyfnod cyn y gystadleuaeth. Mae 91Ï㽶ÊÓƵ yn gweithio’n galed i ymgorffori cystadlaethau yn rhan o’r cwricwlwm a chodi’r safon ar draws ei ddarpariaeth o lefel cymhwysedd i lefel rhagoriaeth.â€

Trwy Gystadleuaeth Sgiliau Cymru, gall myfyrwyr fagu eu hyder, ennill profiad gwerthfawr, dysgu gan arbenigwyr diwydiant ac, yn bennaf, ddod yn fwy cyflogadwy ar ôl gadael y coleg. Bydd cynnwys Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ar eich CV yn eich amlygu wrth gyflwyno cais am swydd ac, nid oes gennym unrhyw amheuaeth, y bydd ein myfyrwyr yn llwyddiannus yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol!

Dathlu’r rhai o 91Ï㽶ÊÓƵ a enillodd fedalau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2023

Llongyfarchiadau i’n 17 o fyfyrwyr a enillodd fedalau aur, arian ac efydd a da iawn i bawb a gymerodd ran eleni:

Aur:

  1. Kvle Gooding – Gwaith Metal Adeiladu
  2. Loren Payne – Hyfforddwr Personol
  3. Mitchel Bradbury – Sgiliau Cynhwysol: Gwasanaeth Bwyty

Arian:

  1. Nicole Westmeckett – Celf Gemio 3D
  2. Lucie Price – Colur Creadigol
  3. Brandon Chetnik – Bricwaith
  4. Joseph Bennet – Plymio a Gwresogi
  5. Emily Bond Wright – Sgiliau Cynhwysol: Sgiliau Bywyd
  6. Trin Gwallt – Chantelle Gleed

Efydd:

  1. Dominik Kandrac – Atgyweirio Corff Cerbydau
  2. Alfie Bannister – Celf Gemio 3D
  3. Laura James – Colur Creadigol
  4. Aimee Critchley – Dylunio a Thechnoleg Ffasiwn
  5. Ryan Fouweather – Hyfforddwr Personol
  6. Jay Hale – Sgiliau Cynhwysol: Atebion Meddalwedd TG i Fusnes
  7. Shaun Davies – Sgiliau Cynhwysol: Bwyd
  8. Isabel Coulson – Ymarferydd Therapi Harddwch (Corff)

O harddwch a thrin gwallt i gelf gemio 3D ac atgyweirio corff cerbydau, rydym yn falch bod ein myfyrwyr wedi rhoi 110% wrth arddangos y sgiliau y maent wedi’u datblygu wrth astudio ar gwrs yn 91Ï㽶ÊÓƵ.