27 Gorffennaf 2018
Roedd ein Diwrnodau Myfyrwyr Newydd yn llwyddiant ar bob un o’n pum campws!
Ar ddydd Mawrth 3 a dydd Mercher 4 Gorffennaf croesawyd ychydig o dan 2,500 o fyfyrwyr i’r Coleg i gael cipolwg ar fywyd myfyrwyr, cyn iddynt ymuno â ni ym mis Medi.
Cymerodd y myfyrwyr ran mewn gwersi ‘blasu’, cawsant gwrdd â’u darlithwyr a rhoi cynnig ar yr her Total Wipeout a’r Bucking Bronco.
Peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig, edrychwch ar yr hyn bu’r myfyrwyr yn ei wneud drwy wylio’r fideo isod:
Ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent</a>, cawsom sgwrs gyda dwy ferch ifanc a fydd yn ymuno â ni ym mis Medi, Teri-Marie Williams ac Ellie Barnes.
Dywedodd Ellie, a fydd yn astudio cyrsiau Safon Uwch, “Mae 91Ï㽶ÊÓƵ mor lleol ac rwy’n adnabod llawer o bobl sy’n mynd i astudio yno”.
Ychwanegodd Teri, “Dewisais Goleg Gwent am fod yna amrywiaeth o opsiynau. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â phobl newydd”.
Ydych chi’n mynd i fod yn astudio gyda ni ym mis Medi?
Gwnewch gais heddiw.