91㽶Ƶ

En
Lloyd Sheppard running

Cwrdd â'r Dysgwr: Lloyd Sheppard yn Rhoi ei Yrfa Chwaraeon ar Waith


20 Chwefror 2023

Enw: Lloyd Sheppard
Cartref: Coed Duon
Cwrs: Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon BTEC (Diploma Estynedig) Lefel 3
Campws: Campws Crosskeys

Mae’r dysgwrBTEC Hyfforddiant Chwaraeon a Datblygiad, Lloyd Sheppard, yn athletwr dygnwch sy’n arbenigo mewn rhedeg 10km. Mae wedi ei restru yn ar gyfer ei grŵp oedran, ac ar sail cariad gwirioneddol at chwaraeon, penderfynodd ddilyn BTEC yn y pwnc sydd ar ei fryd ar Gampws Crosskeys.

Pam ddewisoch chi astudio BTEC Chwaraeon Lefel 3 ar Gampws Crosskeys?
”Mae chwaraeon yn rhywbeth rwy’n ei fwynhau, felly dewisais gwblahu’r BTEC Lefel 3 gan nad oeddwn erioed yn hoff o arholiadau ac roeddwn yn grediniol y byddai’r BTEC yn fy ngweddu’n well gyda’r elfennau ymarferol. Dewisais Gampws Crosskeys gan fy mod yn teimlo mai hwn oedd y lle gorau i mi- roedd cyfleusterau da yno a’r math o gwrs roeddwn yn chwilio amdano.”

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich cwrs?
“Rwyf yn mwynhau ymchwilio i’r elfennau unigol ar chwaraeon, a dysgu am y gwahanol feysydd fel chwaraeon a’r corff. Rwyf hefyd yn mwynhau elfen ymarferol y cwrs a’r gefnogaeth y mae’r tiwtoriaid yn ei rhoi. Byddwn yn dweud mai’r peth gorau am astudio yn 91㽶Ƶ yw’r gefnogaeth gan y tiwtoriaid, yn ogystal â’r ffrindiau rwyf wedi eu gwneud yn sgil y cwrs hefyd.”

Beth yw eich cyflawniad mwyaf hyd yma yn y coleg, a beth yw eich amcanion tymor hir?
“Hyd yma, fy nghyflawniad mwyaf yn 91㽶Ƶ yw cwblhau fy ngwaith cwrs ac ennill fy nghymwysterau y llynedd ar gyfer BTEC Chwaraeon a Bagloriaeth Cymru. Ar ôl cwblhau’r flwyddyn hon, rwyf yn ymchwilio i fynd i’r brifysgol i gwblhau gradd mewn gwyddoniaeth chwaraeon ac ymarfer corff. Mae’r coleg wedi fy helpu i gael y graddau sydd eu hangen arnaf ar gyfer hyn, yn ogystal â bod o gymorth i mi ddysgu sgiliau cyflogadwyedd.”

Gradd Sylfaen Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon

Sports coaching and development

Os oes gennych ddiddordeb mewn chwaraeon ac iechyd corfforol fel Lloyd, mae’r BTEC mewn Hyfforddiant Chwaraeon a Datblygiad yn gwrs ymarferol a fydd yn eich helpu i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn dilyn gyrfa yn y maes hwn.

Mae’r cwrs ar gael ar Gampws Crosskeys, Campws Uska Pharth Dysgu Blaenau Gwent ac mae’n cynnwys dewis eang o fodiwlau fel: archwilio gyrfaoedd yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden Gweithredol; Iechyd a Lles; Sgiliau Hyfforddi; Datblygiad Chwaraeon; Seicoleg Chwaraeon, Maethiad, Anatomeg a Ffisioleg, Anafiadau Chwaraeon, Profi a Hyfforddiant Ffitrwydd, Rheolau a Rheoliadau Chwaraeon; Sgiliau Technegol a Thactegol; Materion Cyfoes mewn Chwaraeon; a llawer mwy.

I goroni eich profiad dysgu, bydd gennych fynediad at gampfeydd, offer chwaraeon o safon uchel a chyfleusterau awyr agoreddrwy gydol eich cwrs, felly gallwch feithrin eich sgiliau i berffeithrwydd. Yn ogystal, caiff dysgwyr eu hannog i ymuno â’r academïau chwaraeon fel Academi Rygbi Iau Dreigiau 91㽶Ƶ, sydd o fudd i fyfyrwyr gydag oriau hyfforddi bob wythnos gyda hyfforddwyr rygbi’r Dreigiau!

Wrth eich bodd â chwaraeon ond yn ansicr ai Hyfforddi a Datblygiad yw’r trywydd cywir i chi? Mae gennym hefyd Radd Sylfaen mewn Cyflyru Chwaraeon, Adsefydlu a Thylino sy’n cychwyn ar Gampws Crosskeys y mis Medi hwn!

Felly, dilynwch ôl troed eich arwyr chwaraeon a rhoi eich gyrfa ym myd chwaraeon ar waith. Darganfyddwch ein cyrsiau Chwaraeon ar-lein neu cofrestrwch ar gyfer ein digwyddiad agored nesafi ddarganfod mwy.