21 Mehefin 2023
Anrhydeddwyd Adran Celfyddydau Creadigol 91Ï㽶ÊÓƵ â Gwobr Arian Tîm Addysg Bellach y Flwyddyn am eu hymrwymiad rhagorol i newid bywydau’r plant y maent yn gweithio gyda nhw bob dydd. Ìý
Mae adran y Celfyddydau Creadigol yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, o ffotograffiaeth a chynhyrchu cyfryngau i ddylunio gemau a cherddoriaeth. Cydnabyddwyd yr Adran Celfyddydau Creadigol, sydd gyda dros 40 aelod o staff, am ei chynnig o ddysgu arloesol, sy’n cynnwys cyfleoedd ar gyfer dysgu yn y diwydiant mewn lleoliadau megis Porsche automotive ac Opera Cenedlaethol Cymru, teithiau maes cyffrous, gweithgareddau allgyrsiol cyfoethog a chymorth gyda llesiant. Ìý
Mae Adran y Celfyddydau Creadigol bellach wedi cyrraedd y rhestr fer i ennill un o dim ond 16 Gwobr Aur, a byddant yn cael eu cyhoeddi a dathlu mewn digwyddiad gala yn Llundain ar 25 Tachwedd a’u darlledu ar y BBC, gyda’r enillwyr yn cael eu harddangos ar The One Show. Ìý
Cyhoeddwyd yr anrhydeddau ar Ddiwrnod Cenedlaethol Diolch i Athro, digwyddiad blynyddol sy’n dathlu rôl werthfawr mae addysgwyr ledled y DU yn ei chwarae mewn cymunedau a siapio pobl ifainc. Eleni, ymunwyd enwogion gan gynnwys Syr Michael Morpurgo, Edith Bowman, Bobby Seagull, Ore Oduba a Nadiya Hussain â myfyrwyr i nodi cyflawniadau eu hathrawon.Ìý
Mae Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson yn ddathliad blynyddol o ragoriaeth mewn addysg sy’n cael ei redeg gan yr Ymddiriedolaeth Gwobrau Addysgu, elusen annibynnol sydd bellach yn ei 25ain blwyddyn, ac sy’n cydnabod y gwaith bywyd-newidiol sy’n digwydd ym myd addysg, gan amlygu’r rôl hanfodol y mae addysgwyr yn ei chwarae a’r gwaith a gyflwynir mewn ysgolion a cholegau bob dydd.Ìý
Dywedodd Maria Retter, Pennaeth yr Ysgol — Celfyddydau Creadigol:Ìý
Meddai Sharon Hague, Uwch Is-lywydd Ysgolion yn Pearson UK: ÌýÌý
Llongyfarchiadau ¾±â€™r ³Ùî³¾ ar ennill y wobr o fri.