91Ï㽶ÊÓƵ

En

Cymorth Dysgu

Support staff on yellow background
play

Ein darpariaeth cymorth cyffredinol

Rydym yma i helpu pawb i ddysgu a chyrraedd eu potensial llawn yn 91Ï㽶ÊÓƵ. Felly, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth cyffredinol i bob dysgwr.

Mae hyn yn debygol o ddiwallu anghenion y mwyafrif helaeth o’n dysgwyr, yn cynnwys rhai ag ystod o gyflyrau cyffredinol, penodol a/neu niwro-amrywiol a rhai sydd angen cymorth bugeiliol. Ond os oes gennych Anghenion Dysgu Ychwanegol, mae cefnogaeth bellach ar gael hefyd.

Tutor helping ILS student

Arlwy’r ddarpariaeth ddysgu

Canllawiau cymorth dysgu cyffredinol ac ychwanegol

Lawrlwythwch

Mae gan bob dysgwr fynediad at:

Tiwtorial wythnosol gyda’ch tiwtor personol

Fel myfyriwr llawn amser byddwch yn cael eich Tiwtor Personol eich hun a fydd yn cyfarfod â chi i adolygu eich datblygiad academaidd, darparu cymorth, cynnig arweiniad ac anogaeth i sicrhau eich bod yn cwblhau holl agweddau eich cwrs yn llwyddiannus. Yn ogystal â gofalu am eich iechyd a’ch llesiant cyffredinol a bod yn rhywun gallwch ymddiried a dibynnu arnynt, byddant hefyd yn eich paratoi ar gyfer eich camau nesaf yn y coleg, y brifysgol neu gyflogaeth.

Llyfrgelloedd

Gall pob myfyriwr yn 91Ï㽶ÊÓƵ ddefnyddio ein llyfrgelloedd. Ym mhob canolfan mae yna lyfrau, cyfnodolion, e-lyfrau a DVDs, a gallwch ddefnyddio’r cyfrifiaduron neu gysylltu eich dyfais eich hun â’n Wi-Fi am ddim. Mae’r staff wrth law i’ch helpu i ddod o hyd i adnoddau a chael gafael ar wasanaethau eraill megis llungopïo, lamineiddio a rhwymo, ac mae arbenigwyr ar gael i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh yn ogystal â’ch sgiliau astudio, gan gynnwys deall aseiniadau, chwilio am wybodaeth a chwrdd â therfynau amser.

Meddalwedd hygyrchedd

Mae gan bob cyfrifiadur myfyrwyr feddalwedd hygyrchedd, yn cynnwys:

  • Vu-Bar – bar ar y sgrin sy’n ddefnyddiol i ddysgwyr dyslecsig sy’n neidio dros linellau neu’n cwympo o un llinell i’r llall wrth ddarllen.
  • Thunder Screenreader – yn helpu dysgwyr sy’n ddall neu’n rhannol ddall i ddefnyddio cyfrifiadur lle mae’r dangosydd yn cael ei optimeiddio ar gyfer hygyrchedd hawdd.
  • ssOverlay – troshaen lliw ar gyfer y sgrin lle gellir addasu’r lefelau lliw a thryloywder i weddu i’r dysgwr.
  • Balabolka – rhaglen Testun i Leferydd lle gallwch chi gopïo a gludo testun i mewn i Balabolka a bydd y rhaglen yn darllen y testun yn ôl i chi.
  • Microsoft Immersive Reader – technoleg gynorthwyol Testun i Leferydd, ar gael yn Word, Teams ac One Note, ac ar gael yn PowerPoint yn fuan.
  • Apiau EdTech megis Canvas a Wakelet – edrychwch am yr eicon Immersive Reader.
  • Gallwch gael mynediad at e-lyfrau technoleg gynorthwyol drwy’r Porth Dysgwr – dangosfyrddau ‘Sut I’ a ‘Gwybodaeth’. Mae gan yr e-lyfrau swyddogaeth ‘Darllenwch i mi’.

Trefniadau mynediad ar gyfer arholiadau

Efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol yn ystod arholiadau – dywedwch wrth eich Tiwtor Personol os ydych wedi cael trefniadau mynediad ar gyfer arholiad o’r blaen (er nad yw trefniadau a ddyfernir yn yr ysgol yn cael eu rhoi yn awtomatig yn y coleg).

Gallai trefniadau mynediad fod yn amser ychwanegol, ystafell ar wahân, mynediad at ddarllenydd, ysgogwr, ysgrifennydd, defnyddio cyfrifiadur, neu gyfuniad o’r rhain neu argymhellion eraill.

Ardaloedd tawel

I ddysgwyr sydd â materion gorsensitifrwydd, sy’n dioddef o orbryder neu’n ei chael yn anghyfforddus i ddefnyddio cyfleusterau ffreutur prysur, mae gan bob campws ardal dawel i’w defnyddio amser egwyl ac amser cinio.

Gofalwyr ifanc

Rydym yn deall pa mor anodd y gall fod i gael cydbwysedd rhwng eich addysg a gofalu am rywun. Os ydych chi’n ofalwr ifanc, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhoi gwybod i ni am fod gennym ni lawer o gymorth ar gael yn y Coleg. Byddwn ni’n gwrando ar eich anghenion penodol ac yn cymryd hyn i ystyriaeth o ran hwyrni, galwadau ffôn, estyniadau ar gyfer eich gwaith ac amser allan os ydych chi’n teimlo’n orbryderus neu’n ypset.

Gall ddysgwyr gael cymorth a chefnogaeth bellach gyda’r canlynol: