91Ï㽶ÊÓƵ

En

CBAC Lefel A Astudiaethau Ffilm Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2025

Hyd

Hyd
2 flynedd

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg, Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Ìý

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o astudiaethau ffilm i'ch galluogi chi i benderfynu ble mae eich angerdd.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych eisiau mynd ymlaen i addysg uwch yn y pwnc
... Ydych eisiau gweithio yn y diwydiant ffilm
... Ydych am gwrs astudio ymarferol a damcaniaethol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi os ydych am fynd ymlaen i addysg uwch, gweithio yn y diwydiant ffilm neu os oes gennych ddiddordeb yn y pwnc. Mae'r cwrs hwn yn cynnwys astudio nodweddion:

  • Ffilmiau (yn cynnwys setiau, celfi, gwisgoedd, colur, gwaith camera, goleuo, golygu, sain, perfformio)
  • Naratif, genre a chynrychioli
  • Gwahanol lwyfannau gwylio ac ymatebion cynulleidfaoedd i ffilmiau
  • Diwydiannau ffilm Hollywood a Phrydeinig
  • Sinema'r byd
  • Astudiaeth feirniadol ar ffilmiau

Mae'r cwrs Lefel UG yn cynnwys un cynhyrchiad ymarferol, gan eich caniatáu chi i greu sgript, bwrdd stori â ffotograffau, neu ffilm fer.

Mae'r cwrs Lefel U yn dilyn patrwm tebyg, gan eich caniatáu chi i greu cynhyrchiad ymarferol arall (sgript ffilm ar gyfer ffilm ffuglen, sgript ar gyfer rhaglen ddogfen neu ffilm fer) sy'n gysylltiedig â phrosiect ymchwil.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Lefel A Astudiaethau Ffilm Lefel 3?

PFAL0120Y1
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2025

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr