91Ï㽶ÊÓƵ

En

Celfyddydau Perfformio

Croeso i adran Theatr a Chelfyddydau Perfformio 91Ï㽶ÊÓƵ, lle nad oes ffiniau ar greadigrwydd a dychymyg. Mae gennym dair theatr berfformio uwchfodern ym Mharth Dysgu Torfaen, Parth Dysgu Blaenau Gwent a Champws Crosskeys, a ddefnyddir yn rheolaidd ar gyfer theatr gerdd, drama a dawns wrth i’n myfyrwyr celfyddydau perfformio arddangos eu doniau, gan ddefnyddio’r technolegau goleuo a sain diweddaraf.

Os oes gennych chi’r ddawn, gallwn eich ysbrydoli a’ch helpu i ddilyn gyrfa yn y stiwdio, ar y llwyfan neu y tu ôl i’r llenni.

Perfformiadau blynyddol

  • Sioeau Cerdd ar raddfa lawnÌý
  • Arddangosiadau RheolaiddÌý
  • DramâuÌýÌý
  • Digwyddiadau Gwobrwyo ProffesiynolÌý
  • Ymddangosiadau ac Adloniant gan WesteionÌý
  • Arddangosiad Paent Corff ÌýÌý

Mae perfformiadau cynharach y theatr gerdd yn cynnwys Shrek, The Wedding Singer, Mary Poppins, 9 to 5, Dracula Spectacular, Sweet Charity, Spring Awakening, Starlight Express a Made in Dagenham.

Mae dramâu cynharach yn cynnwys West, Pavilion, Happy Meal, Dramâu Rhufeinig Shakespeare, James and the Giant Peach a Peter Pan.

Yn ogystal, rydym yn cynnig gweithdai diwydiant mewn cydweithrediad â rhai o’r ysgolion theatr uchaf eu parch yn y DU, megis Ysgol Actio Guildford, Arts Ed a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Nod y gweithdai hyn yw helpu actorion ifainc i ennill y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn y diwydiant.

Ysgol Haf

Oherwydd galw mawr, byddwn yn cynnig ein trydedd Ysgol Haf i holl fyfyrwyr Bl11 — 13, gyda gweithdai gwadd gan ein cyn-fyfyrwyr proffesiynol, Gareth David Lloyd (actor) a Mitchell Harper (Coreograffydd). Bydd hwn yn gyflwyniad perffaith i gwrdd â staff a myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod.

Partneriaethau

Rydym yn lwcus iawn i fod yn bartneriaid gyda Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd ac mae disgyblion yn profi theatr fyw arloesol yn rheolaidd.

Mae teithiau pellach yn cynnwys mordaith flynyddol ym Môr y Canoldir, nifer o berfformiadau gan London Theatre, Watermill Theatre, a Theatre Royal.

Dewch i ymuno â’n cymuned fywiog o artistiaid a pherfformwyr a darganfod popeth sydd gan ein coleg i’w gynnig.Ìý