91Ï㽶ÊÓƵ

En

Gyrfaoedd a Dilyniant

Uchelgeisiau CG

CG Ambitions logo

Eich cefnogi gyda'ch camau nesaf ar ôl y coleg

P’un a ydych chi’n ystyried mynd i’r brifysgol, cael swydd, ymgymryd â phrentisiaeth neu hyd yn oed ddechrau eich busnes eich hun, gall ein tîm Uchelgeisiau CG helpu.

Gall ein tîm o hyfforddwyr dilyniant gefnogi gyda cheisiadau UCAS, datganiadau personol a chyllid myfyrwyr yn ogystal â sgiliau cyflogadwyedd fel ysgrifennu CV, chwilio am swyddi a chanllawiau ar gyfer cyfweliadau i’ch paratoi ar gyfer y byd gwaith.

Mae gennym hefyd hyrwyddwr menter a all eich cefnogi ar eich taith tuag at ddod yn entrepreneur, p’un a ydych newydd ddechrau neu’n edrych i dyfu eich busnes.

Polaroid photo of Abby on blue background
play

Cwrdd â Thîm Uchelgeisiau CG

Dysgwch ragor am y tîm a’r hyn y gallant ei wneud i chi ar bob campws:

Parth Dysgu Blaenau Gwent

Hannah Cadman

Hannah Cadman

Hyfforddwr Dilyniant

Gallaf eich cefnogi gyda beth bynnag fydd eich camau nesaf ar ôl y coleg. Rydw i’n trefnu sgyrsiau ac ymweliadau fel eich bod yn gallu deall Addysg Uwch, prentisiaethau a chyflogaeth yn well.

Ffaith hwyl: Roeddwn i’n gadeirydd y clwb awyrblymio pan oeddwn yn y brifysgol.

E-bost: hannah.cadman@coleggwent.ac.uk

Campws Dinas Casnewydd

Rhian Rees

Rhian Rees

Hyfforddwr Dilyniant

Gallaf eich helpu i benderfynu ar eich gyrfa yn y dyfodol a sut i’ch cael chi yno. O ddewis prifysgol neu gwrs i ysgrifennu CV a thechnegau cyfweliad.

Ffaith hwyl: Roeddwn i wrth fy modd yn byw a gweithio yn Efrog Newydd!

E-bost: rhian.rees@coleggwent.ac.uk

Campws Crosskeys

Hayley Jenkins-Davies

Hayley Jenkins-Davies

Hyfforddwr Dilyniant

Gallaf eich helpu gydag UCAS, sesiynau cyflogadwyedd ac arweiniad gyrfa un-i-un i’ch cefnogi gyda’ch camau nesaf ar ôl y coleg. Gallai hyn fod cyflogaeth, prentisiaethau, hyfforddiant neu astudio mewn Addysg Uwch.

Ffaith hwyl: Rwy’n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn gallu siarad ychydig o Almaeneg!

E-bost: hayley.jenkins-davies@coleggwent.ac.uk

Parth Dysgu Torfaen a Champws Brynbuga

Sally Parkinson-Cribb

Sally Parkinson-Cribb

Hyfforddwr Dilyniant

Gallaf eich cefnogi gyda’ch camau nesaf ar ôl y coleg. Gallai hyn fod ymchwilio a gwneud cais am y brifysgol, chwilio am brentisiaethau neu weithio allan ffyrdd o gael swydd eich breuddwydion.

Ffaith hwyl: Dwi’n snob coffi hunan-gyfaddef, dim coffi instant i mi!

E-bost: sally.parkinson-cribb@coleggwent.ac.uk

Traws-gampws

Zoë Binning

Zoë Binning

Hyrwyddwr Menter

Rydw i yma i helpu os ydych chi eisiau dechrau eich busnes eich hun neu dyfu’ch busnes ar yr ochr. Byddaf yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau entrepreneuraidd neu’n eich cynghori a’ch cefnogi i ddechrau ar eich busnes. Rwyf hefyd yn darparu cymorth ar gynllunio busnes, grantiau, marchnata, cyllid neu unrhyw beth arall a fydd yn eich helpu i fynd â’ch syniad busnes i’r lefel nesaf!

Ffaith hwyl: Rwy’n eiriolwr enfawr dros faterion amgylcheddol. Rwy’n hyfforddi busnesau priodas, digwyddiadau a lletygarwch i fod yn fwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar.

E-bost: zoe.binning@coleggwent.ac.uk

Danielle Hubbard

Danielle Hubbard

Hyfforddwr Dilyniant

Gallaf eich cefnogi gyda phopeth sy’n ymwneud â chyflogadwyedd – rwy’n cynnig sesiynau 1 i 1, sesiynau grŵp a gallaf arwain dosbarthiadau ar greu CV, ymgeisio a chwilio am waith rhan amser a pharatoi ar gyfer cyfweliadau. Gallaf hefyd gynnig arweiniad a chyngor ar feddwl am eich camau nesaf.

Ffaith hwyl: Yn 10 oed, fi oedd y person ieuengaf ym Mhrydain i nofio 10 milltir.

E-bost: danielle.hubbard@coleggwent.ac.uk

Kelly Gallier-Morgan

Kelly Gallier-Morgan

Hyfforddwr Dilyniant

Rwy’n trefnu digwyddiadau i’ch cefnogi chi ar gyfer eich camau nesaf ar ôl y coleg, gan gynnwys ffeiriau addysg uwch ym mis Hydref, ffeiriau swyddi ym mis Rhagfyr a ffeiriau dilyniant ym mis Mawrth. Rwyf hefyd yn gofalu am y sesiynau ar-lein y gall unrhyw un ymuno â nhw ar draws pob campws, megis sgyrsiau gan brifysgolion, cymorth cyflogadwyedd ac opsiynau camau nesaf.

Ffaith hwyl: Roeddwn yn arfer bod yn nofiwr brwd ac yn bencampwr Cymru yn fy ngrŵp oedran.

E-bost: kelly.gallier-morgan@coleggwent.ac.uk

Clare Brooks

Clare Brooks

Cynorthwy-ydd Gweinyddol a Chyfathrebu

Rwy’n cefnogi’r tîm Uchelgeisiau CG i sicrhau bod y tîm yn rhedeg yn esmwyth er mwyn iddynt eich cynorthwyo chi hyd yn oed yn fwy effeithiol. Rwyf hefyd yn hyrwyddo gwaith gwych y tîm, gan gynnwys ein holl ddigwyddiadau a gweithdai ar y campws.

Ffaith hwyl: Rwy’n canu fel ail soprano yng nghôr menywod fy nhref.

E-bost: clare.brooks@coleggwent.ac.uk

Abigail Bassie

Abigail Bassie

Rheolwr Ymgysylltu Cyflogwyr A Chynnydd

Rwy’n rheoli ac yn cefnogi Tîm Uchelgeisiau CG i wneud yn siŵr bod gennych gam nesaf ar ôl cwblhau eich astudiaethau. Byddaf yn gweithio’n agos gyda chi a chyflogwyr i greu cyfleoedd gwerthfawr gan sicrhau eich bod yn cael y gorau allan o’ch amser yn y coleg.

Ffaith hwyl: Rwy’n dod o Gernyw yn wreiddiol ond wedi byw yng Nghymru ers dros ddeng mlynedd hyd yma!

E-bost: abigail.bassie@coleggwent.ac.uk

Cyflogadwyedd, Menter ac Entrepreneuriaeth

Sgiliau Cyflogadwyedd

Gall ein tîm CG Uchelgeisiau gynnig arweiniad a chyngor ar gynllunio ar gyfer gyrfa, ysgrifennu CV a thechnegau cyfweld i wella eich cyflogadwyedd. Rydym hefyd yn cynnig cymorth ar greu a datblygu syniadau busnes newydd a chynnig cysylltiadau â sefydliadau allanol i’ch helpu chi wneud y mwyaf o’ch profiad yma yn y coleg – boed hynny’n atgyfeirio cyfleoedd ariannu, profiad gwaith, interniaethau neu sgyrsiau gyda’r diwydiant.

Gallwch drefnu apwyntiadau 1:1 am brofiad mwy personol, gofyn am sesiwn grŵp, neu gallwn gwrdd â chi mewn dosbarth (yn dibynnu ar amserlen).

Menter ac Entrepreneuriaeth

Ydych chi’n gweld eich hun fel y Richard Branson neu’r Arglwydd Sugar nesaf?

Mae llwyddiant busnesau bach a sefydliadau mawr yn dibynnu ar feddyliau arloesol a meddylwyr sionc. Felly fel rhan o’ch cwrs llawn amser, byddwn yn ceisio rhoi’r sgiliau a’r meddwl a fydd yn eich helpu i fod yn entrepreneur gwych!

Bydd hyn yn cynnwys:

  • Dros 130 o arbenigwyr o’r diwydiant (siaradwyr gwadd) yn dod i sesiynau tiwtorial i godi ymwybyddiaeth ac ysbrydoli myfyrwyr i ddechrau eu busnes eu hunain
  • Cystadlaethau entrepreneuriaeth – gan gynnwys Her Syniadau Mawr Cymru, Her y Farchnad Stoc, y Rhaglen Tafflab (i dderbyn cyllid a mentora)
  • Yr Wythnos Fenter Fyd-eang yn arddangos y gorau mewn dosbarthiadau meistr menter ac entrepreneuriaeth
  • Bod yn rhan o’r Prosiect Arloesi’r Cymoedd a chyfle i weithio gyda briffiau go iawn gydag ystod o fusnesau a sefydliadau
  • Tair her gyfoethogi – Menter a Chyflogadwyedd, Cymuned a Dinasyddiaeth
  • Cyfoethogi personol trwy CG Extra

Adolygiad Effaith Blynyddol Menter ac Entrepreneuriaeth

Nod 91Ï㽶ÊÓƵ yw ceisio:

  • Hwyluso uchelgais entrepreneuraidd a chefnogi busnesau myfyrwyr ar bob cam o daith eu busnes newydd
  • Annog cymuned y coleg i gynnig amgylchedd mentrus a chefnogol
  • Ysbrydoli myfyrwyr gyda chyfleoedd i gwrdd ag entrepreneuriaid lleol a chlywed eu hanesion
  • Datblygu a meithrin gallu dysgwyr, gan eu helpu i gydnabod aÌý manteisio ar eu nodweddion entrepreneuraidd nad ydynt efallai yn sylweddoli eu bod eisoes yn meddu arnynt
  • Ysgogi ein myfyrwyr i ddilyn eu nodau entrepreneuraidd eu hunain ac i ystyried hunangyflogaeth fel rhagolwg realistig.

Darganfyddwch fwy am ein heffaith:

Lawrlwytho’r adroddiad 2023-2024.

Cyngor Gyrfaol

´¡²Ô²õ¾±³¦°ùÌý²â²Ô²µ±ôÅ·²ÔÌýâÌýphaÌýyrfaÌýfyddai’²ÔÌýgwedduÌýorauÌýiÌýchi?ÌýNeu’²ÔÌýcaelÌýtrafferthÌýgwybodÌýpaÌýgwrsÌýi’wÌýddily²ÔÌýi’chÌýhelpuÌýiÌýgaelÌýswyddÌýeichÌýbreuddwydion? Gall 91Ï㽶ÊÓƵÌýhelpu!ÌýÌý

GwnewchÌýei²ÔÌýCwisÌýBuzzÌýiÌýsefydluÌýeichÌýmath oÌýbersonoliaethÌýaÌýchaelÌýargymhellio²ÔÌýpersonolÌýarÌýgyferÌýswyddi,ÌýpynciauÌýi’wÌýhastudioÌýaÌýhydÌýy²ÔÌýoedÌýcynghorio²ÔÌýi’chÌýhelpuÌýiÌýweithio’²ÔÌýwell.Ìý

NeuÌýedrychwchÌýarÌýei²ÔÌýtecly²ÔÌýLlwybrauÌýGyrfaÌýsy’²ÔÌýrhoiÌýllawerÌýoÌýwybodaethÌýarÌýyÌýgwahanolÌýswyddiÌýsyddÌýarÌýgaelÌýiÌýchi aÌýgwybodaethÌýynglÅ·²ÔÌýâ’rÌýpynciauÌýgorauÌýi’wÌýdewisÌýi’chÌýhelpuÌýiÌýgyrraeddÌýyno.ÌýÌý