Undeb Myfyrwyr 91Ï㽶ÊÓƵ - CGSU
Mae bywyd yn y coleg yn troi o gwmpas Undeb y Myfyrwyr – ac yn 91Ï㽶ÊÓƵ, mae yna undeb sydd wedi ennill nifer o wobrau!
Pan fyddwch chi’n cofrestru yn y coleg, byddwch yn dod yn aelod o Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) yn awtomatig a gallwch gael mynediad i gyfleusterau a gwasanaethau Undeb y Myfyrwyr. Gallwch hefyd fanteisio ar ystod eang o ostyngiadau ar y stryd fawr ac ar-lein, trwy gerdyn .
Mae Undeb Myfyrwyr 91Ï㽶ÊÓƵ yn cynrychioli eich barn yn y coleg a’r tu allan, yn ymgyrchu ar faterion sy’n effeithio ar fyfyrwyr, yn cynnig cefnogaeth gydag unrhyw broblemau sydd gennych ac yn cynnal digwyddiadau hyfforddi i helpu swyddogion Undeb y Myfyrwyr.
Fel aelod o'r Undeb Myfyrwyr gallwch gymryd rhan mewn pob math o ffyrdd, a chewch gyfle i:
- Gynrychioli’r myfyrwyr yng nghynadleddau’r NUS
- Cwrdd â phobl newydd
- Gwneud newidiadau cadarnhaol yn y coleg ac yn genedlaethol
- Ennill sgiliau a phrofiadau newydd
- Gwella eich CV
Swyddog Cyntaf Undeb y Myfyrwyr
Vanessa Janes-Evans yw eich Swyddog Cyntaf llawn amser. Ei gwaith yw eich annog i gymryd rhan, eich helpu i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, cefnogi ac arwain yr Undeb Myfyrwyr ar bob campws, hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a helpu i sefydlu clybiau a chymdeithasau.