Gwneud cais am gwrs gyda 91Ï㽶ÊÓƵ
Pe bynnag yw’r cwrs rydych eisiau ei hastudio gyda ni, mae gwneud cais yn hawdd. Mae’r broses yn newid ychydig o gwrs i gwrs, ac o sefyllfa i sefyllfa.
Dyma grynodeb, gyda dolenni i chi fedru dod o hyd i’r manylion llawn.
Cyrsiau llawn amser
Am ragor o wybodaeth neu atebion i unrhyw gwestiynau ynghylch y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, ffoniwch ni ar 01495 333777 – a phan fyddwch yn barod i wneud cais, cliciwch ar y ddolen ar dudalen y cwrs i ddechrau.
Ar ôl i chi wneud cais, byddwn yn adolygu’ch cais ac yn seiliedig ar eich graddau a ragwelir – byddwn yn gwneud cynnig i chi. Os ydych chi wedi derbyn eich cynnig, byddwch fel arfer yn derbyn manylion am gofrestru ar eich cwrs ym mis Gorffennaf / Awst.
Cyrsiau addysg uwch
Os ydych yn penderfynu eich bod eisiau astudio un o’n cyrsiau Addysg Uwch, efallai er mwyn ennill cymhwyster gradd, dewiswch eich cwrs o’n hystod lawn o gyrsiau ac yna gwneud cais :
- Ar-lein ar ein tudalennau Addysg Uwch neu ffurflen gais
- Ffonio 01495 333777
Cyrsiau rhan amser
Wedi ichi ddewis eich cwrs rhan amser, mae pedair ffordd syml i wneud cais:
- Ar-lein ar ein tudalennau cyrsiau rhan amser
- Gwneud cais gan ddefnyddio ein ffurflen archebu ar-lein
- E-bostio helo@coleggwent.ac.uk
- Ffoniwch 01495 333777
Bydd angen ichi darparu manylion pan fyddwch yn cofrestru, fel ID, dull o dalu a’ch rhif Yswiriant Gwladol.
Prentisiaethau
Os ydych eisoes mewn cyflogaeth neu mewn swydd Prentis, gallwch wneud cais am un o’n nifer o gyrsiau. Dechreuwch drwy lenwi ffurflen gais, sydd ar gael o’r canlynol:
- Ffonio 01495 333777
- E-bostio apprenticeships@coleggwent.ac.uk
Byddwn yn trafod eich Prentisiaeth ddewisol gyda chi tra bod gofyn i’ch cyflogwr lofnodi Cytundeb Tair Ffordd a bodloni’r gwiriadau iechyd a diogelwch priodol, ac wedi hynny, byddwn yn anfon manylion ynghylch sut i gofrestru.
Myfyrwyr rhyngwladol
Os ydych yn dod i astudio gyda ni o dramor, byddwn angen Visa Cyffredinol haen 4. I gael gafael ar un, byddwch angen arddangos eich safon Saesneg a dangos bod gennych ddigon o arian i fyw y tu allan i Lundain dros flwyddyn gyntaf eich cwrs (£8000 ar hyn o bryd) yn ogystal â ffioedd y cwrs.
Yna, gallwch gyflwyno ffurflen gais ryngwladol, ynghyd â chopïau electronig o’ch pasbort, tystysgrifau addysg a thystysgrif Prawf iaith Saesneg Diogel (SELT), wedyn, byddwn yn cynnal cyfweliad Skype cyn cynnig lle ichi.