Croeso i 91Ï㽶ÊÓƵ i Gyflogwyr, cyrchfan un stop ar gyfer sefydliadau yn Ne Ddwyrain Cymru
P’un a ydych eisiau hyfforddiant i’ch staff, yn ceisio canfod prentis neu’n chwilio am unigolion ifanc addawol i lenwi bwlch sgiliau, wrth weithio gyda ni gallwch gael mynediad i ystod eang o wasanaethau a manteision.
Un pwynt cyswllt ar gyfer gwasanaethau aml fusnes.
Mynediad ar gyfer nifer o ffrydiau ariannu’r llywodraeth.
Cyrsiau cynhwysfawr yn ymdrin â phob sector.
Siapiwch weithlu lleol y dyfodol.
Ein gwaith
Nod 91Ï㽶ÊÓƵ i Gyflogwyr ydi cefnogi twf economaidd lleol, rhoi hwb i’n cymuned fusnes leol tra’n hyrwyddo cymaint o gyfleodd â phosib i’n myfyrwyr. Rydym yn adfywio cysylltiadau hefo diwydiant yn ein hardal leol ac yn meithrin myfyrwyr ysgogol sy’n barod am waith unwaith y maent yn gadael y coleg.
Rydym yn gwneud hyn drwy gyfres o fentrau sy’n cynnwys prentisiaethau, darparu mynediad i arian y llywodraeth, hyfforddiant achrededig i sefydliadau a’r cyfle i ddod yn gyflogwr partner gan chwarae rhan yng ngweithlu lleol y dyfodol.
Pwy ydyn ni
Mae’r gwasanaethau a chyfleoedd y mae 91Ï㽶ÊÓƵ i Gyflogwyr yn eu cynnig yn debyg i’r rhai sydd ar gael gan 91Ï㽶ÊÓƵ Busnes. Pan gaeodd 91Ï㽶ÊÓƵ Busnes ei ddrysau yn 2018, symudodd y gwasanaethau yr oedd y sefydliadau yn ein cymuned leol wedi eu defnyddio ac wedi dod i’w disgwyl, i 91Ï㽶ÊÓƵ i Gyflogwyr, gan ddod yn rhan o’r coleg ei hun.
Felly crëwyd 91Ï㽶ÊÓƵ i Gyflogwyr, gyda gwelliannau i’r strwythur blaenorol yn bosib drwy’r cysylltiadau gwaith agos sydd gennym o fewn y coleg ei hun. Nod ein tîm yw cryfhau’r cysylltiadau rhwng addysg a diwydiant tra’n cefnogi twf busnes lleol ar yr un pryd. Rydym eisoes wedi sicrhau manteision i nifer fawr iawn o sefydliadau lleol, o enwau adnabyddus i fusnesau bach annibynnol newydd.
Cwrdd â'r Tîm
Abigail Bassie
Ymgysylltu Cyflogwyr a Rheolwr Cynnydd
Cyfrifoldeb Abigail yw meithrin a chynnal perthnasoedd gweithio â chyflogwyr er mwyn cefnogi gweithgareddau ehangach y Tîm Ymgysylltu Cyflogwyr a diwallu amcanion strategol cyffredinol. Ymgysylltu â chyflogwyr i gynnal rhwydwaith o gysylltiadau cyflogwyr perthnasol er mwyn cefnogi gyda datblygu cyfleoedd cwricwlwm a datblygu addas a chydlynu blaenoriaethau a gweithrediadau gyda thimau’r Cwricwlwm.
Claire Reardon
Cynghorydd Ymgysylltu â Chyflogwyr ar gyfer Astudiaethau Creadigol a Thechnegol
Os ydych mewn diwydiant sy’n ymwneud ag Adeiladu a Pheirianneg, byddwch yn gweithio’n agos â Claire Mae ei chyflogwyr partner presennol yn cynnwys sefydliadau megis Wilmott Dixon, St Modwen, Melin Homes, Pro Steel Engineering i enwi dim ond rhai.
Jessica Pike
Cynghorydd Ymgysylltu â Chyflogwyr ar gyfer Menter ac Astudiaethau Academaidd
Mae Jess yn edrych ar ôl sefydliadau yn y sectorau technoleg a chorfforaethol, ac yn gweithio gydag enwau adnabyddus megis Admiral, Fujitsu, Thales, LANTRA a’r ONS. Os ydych yn y gofod digidol bydd Jess yn gallu dod o hyd i gyfleoedd gwaith i chi.
Allison Werner
Cynghorydd Ymgysylltu â Chyflogwyr ar gyfer Astudiaethau Gofal a Chymuned
Mae Allison yn gweithio gyda sefydliadau megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB), Bwrdd Iechyd Powys a Gofal Cymdeithasol Cyngor Casnewydd. Mae hi’n gweithio gyda sefydliadau bach a mawr ac yn awyddus i greu cysylltiadau a darparu cymaint o gyfleoedd cydweithredol â phosib.
Gennych unrhyw gwestiynau?