CBAC Cerddoriaeth UG Lefel 3
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Lefelau A
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
01 Awst 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg/Rhifedd. Mae TGAU gradd B mewn Cerddoriaeth neu radd 5 mewn Theori Cerddoriaeth yn ofynnol. Y gallu i ddarllen nodau cerddorol. Yn ogystal, mae perfformiad i safon gradd 5 (ASRSM, Trinity, Rockschool, etc) yn ofynnol.
Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn eich caniatáu chi i astudio, perfformio, cyfansoddi a datblygu'ch sgiliau cerddoriaeth.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych am gyfuniad o astudiaeth ymarferol a damcaniaethol
... Ydych yn frwdfrydig ac yn gallu cymell eich hun
... Yw cerddoriaeth a/neu'r theatr yn agos at eich calon
Beth fyddaf yn ei wneud?
Cynigiwn hyfforddiant o fath conservatoire o safon uchel. Ar lefel UG, byddwch yn astudio perfformiadau unigol ac ensemble, cyfansoddi a thechnegau cyfansoddi. Yn ogystal, byddwch yn datblygu sgiliau clywedol, a dadansoddiad cerddorol trwy astudio cyfuniad o weithiau yn mynd i'r afael â dau faes astudio (symffoni 1760-1830 a naill ai theatr gerdd, neu roc a phop, neu jas). Mae'r fanyleb gerddoriaeth UG yn cynnwys tair uned astudio:
- Perfformio (30% o UG)
- Cyfansoddi (30% o UG)
- Gwerthuso (40% o UG)
Yn A2 byddwch yn astudio tair uned bellach. Mae perfformio a chyfansoddi yn cael eu hastudio’n ddyfnach ac mae dealltwriaeth gerddorol yn cael ei datblygu drwy weithiau gosod newydd wedi eu seilio ar dri maes testun (Y Symffoni 1830 i 1910, Argraffiadaeth a Theatr Gerdd Americanaidd). Mae'r fanyleb gerddoriaeth A2 yn cynnwys tair uned sy'n adlewyrchu'r rheiny ar lefel UG ond sy’n rhoi hyblygrwydd pellach o ran dyfnder yr astudio mewn Perfformio a Chyfansoddi.
Bydd unedau yn cael eu hasesu naill ai drwy waith cwrs neu drwy arholiad. Mae staff offerynnol a lleisiol gwadd hefyd yn cynorthwyo i baratoi am arholiadau gradd ym mherfformiad. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn ennill:
- Cerddoriaeth Lefel UG
- Cerddoriaeth Lefel U
- Gweithgareddau sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg/Rhifedd Mathemateg ac mae angen TGAU Gradd B mewn Cerddoriaeth neu Radd 5 mewn Theori Cerddoriaeth, yn ogystal â'r gallu i ddarllen nodiant cerddoriaeth. Yn ogystal, mae angen perfformiad i safon Gradd 5 (ASRSM, Trinity, Rockschool, etc).
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Gallwch fynd ymlaen i'r brifysgol, conservatoires neu golegau arbenigol y celfyddydau perfformio.
Gwybodaeth Ychwanegol
Lle bynnag sy'n bosibl, gwneir trefniadau i weld perfformiadau sy'n addysgol a phleserus, a fydd yn costio. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi fynychu.
Mae 91Ï㽶ÊÓƵ wedi ymrwymo i gynnig cwricwlwm amrywiol a chyfoethog i'w ddysgwyr Lefel A ac UG ac mae'n awyddus i sicrhau bod dysgwyr ar draws Gwent yn gallu cyrchu pynciau sy'n hanesyddol yn recriwtio niferoedd bach. Er mwyn sicrhau lle, mae Sbaeneg a Ffrangeg yn cale e cynig ar ein Campws Crosskeys a chynigir Cymraeg ar ein campysau Crosskeys a Parth Dysgu Blaenau Gwent. Bydd Cerddoriaeth a Mathemateg Bellach yn cael eu cynnig ar bob un o'n campysau. Os yw eich dewis o bynciau yn golygu bod angen teithio rhwng campysau, cysylltwch â'n hadran dderbyn i gael mwy o wybodaeth.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EFAS0140A1
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 01 Awst 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr