91Ï㽶ÊÓƵ

En

CBAC Tystysgrif mewn Troseddeg Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd, Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gradd teilyngdod gyda TGAU yn cynnwys gradd C neu uwch mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd, Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Mae Troseddeg yn gymhwyster cyffrous a diddorol sy'n datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth mewn cyd-destunau pwrpasol sy’n gysylltiedig â'r system cyfiawnder troseddol.

Mae'r cymhwyster yn berthnasol i nifer o swyddi o fewn y sector cyfiawnder troseddol, gwaith cymdeithasol a phrawf, cymdeithaseg a seicoleg.

Mae cymhwyster Troseddeg Gymhwysol Lefel 3 CBAC yn cynnwys elfennau o seicoleg, y gyfraith a chymdeithaseg sy'n cyd-fynd ag astudiaethau mewn dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol.

Dyma'r cwrs i chi os...

...ydych eisiau dilyn gyrfa yn y Gyfraith

...ydych yn gweithio at gyflogaeth neu'n gweithio ar hyn o bryd o fewn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd neu'r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr

...oes gennych ddiddordeb mewn astudio llwybr yn y Gyfraith, Gwyddorau Cymdeithasol neu Ddyniaethau

Beth fyddaf yn ei wneud?

Yn ystod eich cwrs troseddeg, byddwch yn astudio’r unedau gorfodol canlynol:

  1. Newid Ymwybyddiaeth o Drosedd
  2. Damcaniaethau Troseddegol
  3. O Leoliad y Drosedd i'r Llys
  4. Trosedd a Chosb

Bydd Uned 1 - Newid Ymwybyddiaeth o Drosedd - yn eich galluogi i ddangos dealltwriaeth o wahanol fathau o drosedd, dylanwadau ar ganfyddiadau o drosedd a pham nad adroddir am rai troseddau.

Bydd yr ail uned orfodol - Damcaniaethau Troseddegol - yn eich galluogi i ennill dealltwriaeth o pam fod pobl yn cyflawni trosedd, gan dynnu ar yr hyn a ddysgoch yn Uned 1.

Bydd Uned 3 - O Leoliad y Drosedd i'r Llys - yn darparu dealltwriaeth o'r system cyfiawnder troseddol o'r eiliad y mae trosedd yn dod i’r amlwg i’r rheithfarn. Byddwch yn datblygu’r ddealltwriaeth a’r sgiliau i archwilio gwybodaeth er mwyn adolygu cyfiawnder rheithfarnau mewn achosion troseddol.

Yn yr uned olaf - Trosedd a Chosb - byddwch yn defnyddio’ch dealltwriaeth o’r ymwybyddiaeth o droseddoldeb, damcaniaethau troseddol a'r broses o ddod ag unigolyn a gyhuddwyd i'r llys er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd rheolaeth gymdeithasol i ddarparu polisi cyfiawnder troseddol.

Sut fyddwch chi'n dysgu?

Mae gan bob uned ei phwrpas cymhwysol o fewn y cymhwyster, sy'n ffocws i ddysgu'r uned. Mae'r pwrpas cymhwysol yn gofyn am ddysgu yn gysylltiedig ag astudiaethau achos go iawn. Mae hefyd yn gofyn i chi ystyried sut mae defnyddio a chymhwyso eich dysgu yn dylanwadu ar eich hunan, unigolion eraill, cyflogwyr, cymdeithas a'r amgylchedd. Bydd y pwrpas cymhwysol hefyd yn eich caniatáu i ddysgu mewn modd sy'n datblygu:

  • sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu a datblygu'n annibynnol
  • amrywiaeth o sgiliau cyffredinol a throsglwyddadwy
  • y gallu i ddatrys problemau
  • sgiliau ymchwil, datblygu a chyflwyno ar sail prosiect
  • y gallu sylfaenol i weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol eraill, mewn amgylchedd proffesiynol
  • y gallu i roi dysgu ar waith mewn cyd-destunau galwedigaethol

Sut y cewch eich asesu?

Asesir y cymhwyster Troseddeg Gymhwysol Lefel 3 CBAC gan ddefnyddio cyfuniad o asesiadau mewnol ac allanol.

Bydd yr unedau canlynol yn cael eu hasesu'n allanol:

  • Uned 2: Damcaniaethau Troseddegol
  • Uned 4: Trosedd a Chosb

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn cael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen:

  • o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
  • NEU gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar Radd Teilyngdod gyda TGAU yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg ar Radd C neu uwch.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn eich caniatáu i wneud astudiaeth bellach neu fynd yn syth i gyflogaeth

Mae llwybrau dilyniant yn cynnwys:

  • Addysg Uwch mewn pynciau yn ymwneud â'r gyfraith a dyniaethau megis y gyfraith, cymdeithaseg, troseddeg neu seicoleg.
  • Cyfleoedd cyflogaeth o fewn cwmni cyfreithiol, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd neu'r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr a llawer mwy

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi gyfrannu at gostau tripiau ac ymweliadau yn ystod eich cwrs.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Tystysgrif mewn Troseddeg Lefel 3?

CFAS0181A1
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr