91Ï㽶ÊÓƵ

En

City & Guilds Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
£220.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
21 Ionawr 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
18:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
21:00

Hyd

Hyd
15 wythnos

Yn gryno

Er mwyn datblygu eich sgiliau Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur i lefel uwch, mae’r cwrs hwn yn rhoi dewis i chi o gynllunio 2D neu 3D.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…unrhyw un sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur i lefel uwch.

Cynnwys y cwrs

Bydd y cwrs Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur Uwch hwn yn eich dysgu am y canlynol:

  • Modelu rhannau a nodweddion datblygedig
  • Modelu cydosodiadau datblygedig
  • Cysylltu â thaenlenni allanol er mwyn creu rhannau a chydosodiadau cymhleth ar sail tablau
  • Graffeg cyflwyniad datblygedig

Mae’n rhoi’r opsiwn i chi ddewis rhwng cynllunio 2D neu 3D drwy gymorth cyfrifiadur gyda’r naill neu’r llall o’r canlynol:

Dyfarniad Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur Lefel 3 City & Guilds – Cynllunio 2D drwy Gymorth Cyfrifiadur

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys:

  • System haenu a gwahanol ddulliau o ffurfio symbolau llinell
  • System ar gyfer grwpio gwrthrychau i ffurfio blociau neu lyfrgelloedd
  • Darluniau Isomedrig o fewn yr amgylchedd 2D
  • Cydlynu system yn seiliedig ar anghenion y defnyddiwr
  • Trefnau dimensiynu cymhleth
  • Dylunio gofodau a mannau aml-wylio cymhleth
  • Trefnau dylunio a golygu cymhleth
  • Cynhyrchu copïau caled o ddyluniadau

Ìý

Dyfarniad Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur Lefel 3 City & GuildsÌý - Cynllunio 3D drwy Gymorth Cyfrifiadur

Bydd y cymhwyster hwn yn datblygu eich gallu i ddefnyddio gweithdrefnau drafftio i greu ac addasu gwrthrychau 3D sy’n bod yn barod, arwynebau neu solidau, mewn unrhyw bwynt o fewn gofod tri dimensiwn.

Mae’n cynnwys:

  • Trefnau er mwyn gosod yr amgylchedd modelu 3D
  • Creu a defnyddio haenau sy’n gweithio yn yr amgylchedd modelu 3D
  • Adeiladu modelau 3D yn y dull gorau sydd ar gael – modelu arwyneb neu ÌýÌýÌýÌý solid
  • Golygu ac addasu gwrthrychau solid ac arwyneb 3D
  • Edrych ar fodel 3D ar amrywiaeth o ffurfiau arddangos
  • Argraffu/plotio/allforio modelau 3D
Ar ôl i chi gwblhau eich cymhwyster, gallwch symud ymlaen i un o’r canlynol:
  • Dyfarniad Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur Lefel 3 City & Guilds – Modelu Parametrig – defnyddio’r sgiliau a enillwyd yn y gweithle
  • Dyfarniad Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur Lefel 3 City & Guilds – Cynllunio 2D drwy Gymorth Cyfrifiadur i Lefel 1 City & Guilds – CynllunioÌýdrwy Gymorth Cyfrifiadur - Modelu Parametrig
  • Dyfarniad Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur City & Guilds Lefel 3 – Cynllunio 3D drwy Gymorth Cyfrifiadur – defnyddio’r sgiliau a enillwyd ynÌýy gwaith

Gofynion Mynediad

Er mwyn cofrestru ar y cwrs hwn, mae’n rhaid i chi fod â’r naill neu’r llall cyfuniad canlynol:

  • Dyfarniad Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur Lefel 3 City & Guilds – Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur – Lefel 2 City & Guilds – Cynllunio 2D drwy Gymorth Cyfrifiadur neu brofiad perthnasol
  • Dyfarniad Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur Lefel 3 City & Guilds – Cynllunio 3D drwy Gymorth Cyfrifiadur – Lefel 3 City & Guilds Ìý– Cynllunio 2D drwy Gymorth Cyfrifiadur neu brofiad perthnasol

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur Lefel 3?

NPAW0077JA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 21 Ionawr 2025

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr