91Ï㽶ÊÓƵ

En

Signature Gwobr mewn Iaith Arwyddion Prydain Lefel 1

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar

Lefel

Lefel
1

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£300.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
18 Mawrth 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
17:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
21:00

Hyd

Hyd
16 wythnos

Yn gryno

Mae'r cwrs ‘Signature’ achrededig hwn yn sylfaen ardderchog ar gyfer unrhyw un sydd am ddysgu Iaith Arwyddion Prydain. Bydd y cwrs hwn yn darparu’r wybodaeth sylfaenol a'r hyder i allu cynnal sgyrsiau sylfaenol gyda phobl Fyddar

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Y rheini sydd am ddysgu’r sgiliau iaith sylfaenol i allu cynnal sgyrsiau syml â phobl fyddar am resymau personol neu broffesiynol.

Cynnwys y cwrs

Mae dysgu Iaith Arwyddion Prydain, fel unrhyw ail iaith, yn mynnu ymrwymiad ac ymroddiad i ennill y sgìl sydd ei angen mewn modd effeithiol. Bydd angen i chi astudio'n annibynnol y tu allan i oriau ysgol yn ogystal â fel rhan o grŵp mewn lleoliad addysgol.

Byddwch yn astudio tair uned orfodol o'r cwrs 16 wythnos o hyd:

Cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain

Iaith Arwyddion Prydain sgyrsiol

Cyfathrebu am fywyd bob dydd drwy Iaith Arwyddion Prydain.

Rhaid cwblhau'r tair uned er mwyn ennill y cymhwyster. Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i ddangos i ddysgwyr sut i gyfathrebu gyda phobl Fyddar drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain (British Sign Language - BSL) ar ystod o themâu sydd yn cynnwys defnydd syml, bob dydd o'r iaith. Byddant yn ennill sgiliau sylfaenol a hyder wrth gynhyrchu a derbyn BSL.

Fe'ch asesir drwy sesiynau ymarferol yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â thri asesiad fideo byr a recordiwyd ar ddiwedd y cwrs sydd yn cwmpasu ystod o themâu bob dydd. Ar ôl eu cwblhau, byddwch yn ennill Dyfarniad ‘Signature’ Lefel 1 mewn Iaith Arwyddion Prydain.

Gofynion Mynediad

Nid oes yna ofynion ffurfiol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ar ôl y cwrs hwn, gallwch symud ymlaen i Ddyfarniad 'Signature' Lefel 2 mewn Iaith Arwyddion Prydain.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Signature Gwobr mewn Iaith Arwyddion Prydain Lefel 1?

CPAW0108AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 18 Mawrth 2025

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr