91Ï㽶ÊÓƵ

En

VTCT Gwobr mewn Dermablaenio Lefel 4

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£202.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Mehefin 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
18:00

Hyd

Hyd
2 wythnos

Yn gryno

Llywir y cymhwyster Dyfarniad Lefel 4 mewn Dermaplanio (Dermaplaning) gan gyflogwyr a safonau harddwch esthetig gwladol a rhyngwladol ac mae'n cynnwys yr holl elfennau sy'n ofynnol i weithio'n effeithiol fel ymarferydd dermaplanio hollol fasnachol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

  • y rheini sydd am gyflwyno triniaethau anfeddygol i'w busnes
  • y rheini sydd yn meddu ar gymhwyster Therapi Harddwch Lefel 3 neu'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Mynediad at Therapïau Esthetig
  • y rheini sydd yn 18 mlwydd oed neu'n hÅ·n.

Cynnwys y cwrs

Mae dermaplanio yn cynnig diblisgiad dwfn gan dynnu celli croen marw oddi ar haen uchaf y croen drwy'r defnydd o gyllell llawfeddyg. Mae 'eillio' arwyneb y croen yn ysgafn fel hyn hefyd yn tynnu blew mân (ffluwch) o'r wyneb gan roi ymddangosiad adnewyddol a thywynnol i'r croen.

Mae'r cwrs yn cynnwys:

  • Iechyd a Diogelwch
  • Cynllunio Triniaethau
  • Asesu Nodweddion y Croen
  • Cyngor cyn ac ar ôl triniaeth
  • Cynhyrchion dermaplanio
  • Paratoi a dewis offer a chynhyrchion
  • Cymhwyso triniaeth mewn modd ymarferol

Cynhelir asesiadau trwy arholiadau ymarferol a theori ac astudiaethau achos clinigol a byddwch yn ennill 

Dyfarniad VTCT Lefel 4 mewn Dermaplanio (Dermaplaning).

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn byddwch yn symud ymlaen i gyrsiau Lefel 4 a 5 eraill megis:

  • Dyfarniad Lefel 4 mewn Plicio Croen
  • Dyfarniad Lefel 4 mewn Nodwyddo Croen
  • Dyfarniad Lefel 4 mewn Amledd Radio
  • Dyfarniad Lefel 4 mewn Micro-lafnu Aeliau

Gofynion Mynediad

Bydd rhaid i chi feddu ar gymhwyster Lefel 3 mewn Therapi Harddwch neu Dystysgrif Lefel 3 mewn Mynediad i Estheteg a bod yn 18 mlwydd oed neu'n hÅ·n.

Gwybodaeth Ychwanegol

Noder, o 2024 ymlaen, ei fod yn ofynnol yn ôl awdurdodau lleol i chi gwblhau hyfforddiant gorfodol er mwyn ennill cofrestriad i ymarfer Micro-lafnu. Mae'r cwrs hyfforddi gofynnol mewn Rheoli Heintiau, sydd yn para un diwrnod, ar gael i chi yn 91Ï㽶ÊÓƵ.

Bydd gofyn i chi wisgo gwisg glinig ac esgidiau addas.


Mae cost y cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu a chofrestru. Mae ffioedd dysgu yn ddyledus ar adeg cofrestriad/ymrestriad. Os bydd angen, gellir gwneud hyn trwy ddebyd uniongyrchol dros bum rhandal. Os yw eich cyflogwr yn ariannu eich cwrs, bydd cadarnhad o hyn yn ofynnol er mwyn i'r coleg allu trefnu i'w anfonebu.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio VTCT Gwobr mewn Dermablaenio Lefel 4?

CPAW0584AE
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 03 Mehefin 2025

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr