VTCT Gwobr mewn Aeliau Microblading Lefel 4
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
4
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£1686.00
Dyddiad Cychwyn
22 Ionawr 2025
Dydd Mercher
Amser Dechrau
09:30
Amser Gorffen
16:00
Hyd
17 wythnos
Yn gryno
Mae Dyfarniad VTCT (ITEC) mewn Gwella Aeliau gan ddefnyddio Technegau Microlafnu yn gymhwyster proffesiynol ac yn gymhwyster therapïau uwch wedi’i anelu at ddysgwyr sy’n 18 oed a hŷn sy’n dymuno datblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau ymarferol wrth ddefnyddio microlafnu.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...y rhai â diddordeb mewn colur
...y rhai sy’n 18 oed a hŷn
...y rhai sy’n dymuno ychwanegu triniaethau uwch at eu portffolio triniaethau presennol
...y rhai sy’n dymuno dechrau eu busnes eu hunain
Cynnwys y cwrs
Mae microlafnu yn fath o golur lled-barhaol sy’n cael ei ddefnyddio ar aeliau trwy osod pigment lliw i mewn i’r croen i greu llinellau mân i ddylunio siâp aeliau cleientiaid.
Bydd y cwrs yn cynnwys pynciau megis:
- Anatomeg a Ffisoleg
- Iechyd a Diogelwch
- Deddfwriaeth
- Y broses ymgynghori
- Lliw croen a mathau o groen
- Creu aeliau trwy strociau gwallt
- Theori lliw
- Cymhwyso ymarferol
- Ô±ô-´Ç´Ú²¹±ô
Byddwch chi’n ymarfer ar groen ffug yn yr achos cyntaf ond bydd gofyniad i chi ddarparu 6 chleient fel astudiaethau achos ac ar gyfer asesu yn ystod eich cwrs.
Mae’r dosbarthiadau’n fach ac ni fydd mwy na 4 dysgwr er mwyn i’r tiwtor allu sicrhau addysgu un i un dwysach.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn ac nid oes angen i chi feddu ar unrhyw brofiad na chymwysterau ym maes harddwch.
Gwybodaeth Ychwanegol
Sylwer, o 2024, mae’n ofyniad gan awdurdodau lleol eich bod chi’n cwblhau hyfforddiant gorfodol i dderbyn cofrestriad ymarfer microlafnu. Bydd y cwrs hyfforddiant gorfodol undydd mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gael i chi yn 91Ï㽶ÊÓƵ.
Bydd gofyniad i chi wisgo gwisg clinig y gallwch chi ei phrynu o’ch cyflenwyr gwallt a harddwch lleol neu drwy’r coleg.
Mae ffioedd y cwrs wedi’u nodi ar frig y dudalen hon. Maent yn cynnwys addysgu, cofrestriad a chit llawn sy’n cynnwys pigmentau lliw.
Telir y ffioedd dysgu wrth gofrestru. Os bydd angen, gallwch wneud hyn trwy ddebyd uniongyrchol dros pum rhandaliad.
Os yw’ch cyflogwr yn ariannu eich cwrs, bydd angen derbyn cadarnhâd o hyn yn ysgrifenedig er mwyn i’r coleg drefnu anfoneb ar ei gyfer.
Ìý
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CPAW0585AB
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 22 Ionawr 2025
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr