91Ï㽶ÊÓƵ

En

VTCT Gwobr mewn Amlder Radio am Estheteg Lefel 4

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£441.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Chwefror 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
16:00

Hyd

Hyd
8 wythnos

Yn gryno

Mae'r Dyfarniad VTCT (ITEC) Lefel 4 mewn Amledd Radio yn gymhwyster therapi uwch a anelir at ymarferwyr cymwys ar lefel 3 sydd yn 18 oed neu'n hÅ·n gyda'r nod o ychwanegu'r therapi hwn at eu repertoire o driniaethau i'w cynnig. Prif bwrpas y cymhwyster yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant esthetig uwch drwy gynnig technegau amledd radio.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

  • y rheini sydd am gyflwyno triniaethau anfeddygol i'w busnes
  • y rheini sydd yn meddu ar gymhwyster Therapi Harddwch Lefel 3 neu'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Mynediad at Therapïau Esthetig
  • y rheini sydd yn 18 mlwydd oed neu'n hÅ·n.

Cynnwys y cwrs

Amledd Radio yw un o'r technolegau anfewnwthiol gwrth-heneiddio mwyaf diogel yn y diwydiant. Technoleg brofedig sydd wedi bodoli am lawer o flynyddoedd yw Amledd Radio, ac mae'n addas ar gyfer pob math groen a chyflwr corfforol. Mae amledd radio yn teimlo'n debyg i dyliniad cynnes yn ystod triniaeth ac mae'n gweithio i annog cynhyrchu colagen a lleihau llacrwydd drwy dynhau eich croen, sydd yn lleihau braster ac yn gwella ffyrfder.

Mae'r cwrs yn cynnwys:

  • Mesurau Iechyd a Diogelwch i'w hystyried
  • Cynllunio Triniaethau ar gyfer yr wyneb a'r corff
  • Gwybodaeth ynghylch offer
    • Cymhwyso triniaeth mewn modd ymarferol
    • Cyngor cyn ac ar ôl triniaeth
    • Anatomeg, ffisioleg a phatholeg

    Cynhelir asesiadau drwy arholiadau ymarferol a theori ac astudiaethau achos clinigol a byddwch yn ennill dyfarniad VTCT Lefel 4 mewn Amledd Radio.

    Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn byddwch yn symud ymlaen i gyrsiau Lefel 4 a 5 eraill megis:

    • Dyfarniad Lefel 4 mewn Plicio Croen
    • Dyfarniad Lefel 5 mewn Micro-lafnu Amledd Radio
    • Dyfarniad Lefel 4 mewn Micro-lafnu Aeliau
    • Dyfarniad Lefel 4 mewn Dermaplanio (Dermaplaning)
    • Dyfarniad Lefel 4 mewn Nodwyddo Croen

Gofynion Mynediad

Bydd rhaid i chi feddu ar gymhwyster Lefel 3 mewn Therapi Harddwch neu Dystysgrif Lefel 3 mewn Mynediad i Estheteg a bod yn 18 mlwydd oed neu'n hÅ·n.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd gofyn i chi wisgo gwisg glinig ac esgidiau addas.

Mae cost y cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu a chofrestru. Mae ffioedd dysgu yn ddyledus ar adeg cofrestriad/ymrestriad. Os bydd angen, gellir gwneud hyn trwy ddebyd uniongyrchol dros bum rhandal. Os yw eich cyflogwr yn ariannu eich cwrs, bydd cadarnhad o hyn yn ofynnol er mwyn i'r coleg allu trefnu i'w anfonebu.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio VTCT Gwobr mewn Amlder Radio am Estheteg Lefel 4?

CPAW0629AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 03 Chwefror 2025

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr