UAL Diploma mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol (Esports) Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch. Dylai'r rhain gynnwys Celf/pwnc creadigol/TGCh a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg. Fel arall, rydym yn derbyn gradd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar yr ochr amlgyfrwng a busnes o e-chwaraeon Byddwch yn dysgu mewn amgylchedd ymarferol a thechnegol, gan ganolbwyntio ar hyrwyddo, rheoli ac adeiladau cynnwys i unigolion/tîmau.
Dyma'r cwrs i chi os...
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu am sut mae'r diwydiant gemau yn gweithio.
Ydych chi'n dwli ar y sgiliau marchnata, ymchwil a chyfryngau sy'n ofynnol i’r maes e-chwaraeon.
Ydych chi am fagu sgiliau unigryw ar gyfer y diwydiant e-chwaraeon/cyfryngau.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Y diwydiant e-chwaraeon yw un o'r diwydiannau gemau fideo sy'n tyfu gyflymaf yn y DU.
Byddwch yn cael cyfle i ddatblygu gwybodaeth hanfodol am y diwydiant a'i sylfaen o gefnogwyr, yn ogystal ag archwilio'r gemau a chwaraeir yn y sector cyffrous a chyflym hwn.
Byddwch yn datblygu'r sgiliau i allu gwneud cynnydd o fewn ystod o bynciau sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau, yn bennaf rheoli a chynhyrchu e-chwaraeon, graffeg, golygu a newyddiaduraeth.
Os ydych chi’n dwli ar chwarae gemau ac yn meddu ar ddiddordeb brwd yn y diwydiant, dyma gyfle i chi ddilyn cwrs unigryw.
Fe’ch asesir drwy waith cwrs (a gyflwynir drwy gydol y flwyddyn). Ar ôl gorffen, byddwch yn ennill y canlynol:
Blwyddyn 1
- Diploma Lefel 3 mewn E-chwaraeon ac Amlgyfrwng
- Y cymwysterau ategol sy’n briodol i ehangu eich setÌýsgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Saesneg a Mathemateg(Os nad ydych eisoes wedi ennill Gradd C neu’n uwch ar lefel TGAU, bydd gofyn i chi fynychu gwersi ychwanegol).
Blwyddyn 2
- Diploma Estynedig Lefel 3 mewn E-chwaraeon ac Amlgyfrwng
- Y cymwysterau ategol sy’n briodol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
Saesneg a Mathemateg. (Os nad ydych eisoes wedi ennill Gradd C neu’n uwch ar lefel TGAU, bydd gofyn i chi fynychu gwersi ychwanegol).
Ìý
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Bydd angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu’n uwch arnoch chi i allu cofrestru. Dylai'r rhain gynnwys Celf/pwnc creadigol/TGCh a naill ai Mathemateg / Rhifedd Mathemateg neu Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf. Fel arall, byddwn yn derbyn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar Radd Teilyngdod, gyda TGAU sy’n cynnwys naill ai Mathemateg / Rhifedd neu Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf.
Byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch synnwyr cyffredin i gychwyn a chwblhau tasgau a gweithdrefnau lled-gymhleth (i raddau rhesymol). Byddwch chi’n delio â phroblemau gyda lefel o annibyniaeth, ond bydd ymwybyddiaeth arnoch chi o ran gwahanol safbwyntiau a dulliau o fewn eich maes o astudiaeth neu waith.
Fe’ch asesir drwy waith cwrs (a gyflwynir drwy gydol y flwyddyn). Ceir Prosiect Mawr Terfynol ar ddiwedd y ddwy flynedd.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd cwblhau Diploma 90 Credyd Blwyddyn 1 yn llwyddiannus yn eich caniatáu i fynd ymlaen i'r ail flwyddyn a chwblhau'r Diploma Estynedig llawn. Wedi hynny, gallwch symud ymlaen i'r canlynol:
- Gradd Sylfaen mewn Celf aÌýDylunio Gemau
- Graddau eraill mewn pynciauÌýtebyg
- Cyflogaeth yn y diwydiant ÌýÌýÌýÌý gemau/e-chwaraeon
Prifysgol: Mae'r cymhwyster hwn yn darparu pwyntiau tariff UCAS ac yn cefnogi eich dilyniant i addysg uwch mewn pwnc sy'n ymwneud â dylunio gemau, megis y Radd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau yn 91Ï㽶ÊÓƵ.
Cyflogaeth: Wedi cwblhau'r cymwysterau hyn, gallech symud ymlaen i swyddi amrywiol, yn dibynnu ar eich llwybr dewisol. Mae dewisiadau gyrfa'n cynnwys Rheolwr Cymunedol, Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus, Newyddiadurwr, Rheolwr Cynnyrch, Hyfforddwr, Sgowt, Gwerthiant, Gemydd Proffesiynol, Person Camera, Golygydd Ffilm, Cynhyrchydd, Sgriptiwr, Criw Ffilm, Technegydd/ Cynhyrchydd Radio, Animeiddiwr neu Gyhoeddi Digidol.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EFBE0002AB
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr