91Ï㽶ÊÓƵ

En

BTEC Diploma Sylfaen Cenedlaethol mewn Cyfrifiadura (Technolegau Digidol) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Bydd dysgwyr yn datblygu craidd cyffredin o wybodaeth gyfrifiadurol a meysydd astudio megis rheoli systemau cymorth, dadansoddi systemau, dylunio a graffeg ddigidol i ddatblygu gwybodaeth arbenigol ychwanegol ar gyfrifiaduro. Nod y cwrs yw darparu cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau mewn cyfrifiadureg, gan alluogi dysgwyr i symud ymlaen i astudio ymhellach yn y sector cyfrifiadureg.

Dyma'r cwrs i chi os...

... ydych eisiau cyfuno dysgu academaidd a hyfforddiant ymarfero

... Ydych chi'n mwynhau gweithio fel rhan o dîm

... Ydych chi'n frwdfrydig dros dechnoleg

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn dysgu profiadau ymarferol trwy gymryd rhan mewn prosiectau a bennir gan gyflogwyr ac, wrth gwrs, cyfleoedd profiad gwaith o ansawdd.

Cwblhau prosiect yn seiliedig ar dechnolegau digidol gydag Ymddiriedolaeth CyberHub a phartner diwydiant.

Mae’r prosiectau’n cynnig:

  • Dysgu cyffrous, arloesol a gweithredol, yn ymwneud yn uniongyrchol â gwaith go iawn
  • Dysgu o ansawdd da gan staff cymwys mewn meysydd academaidd craidd (yn cynnwys TGAU Saesneg, Mathemateg neu Sgiliau Hanfodol Llythrennedd/Rhifedd)
  • Hyfforddiant uchel ei fri ac arbenigedd diwydiant
  • Cyfleusterau ac adnoddau sy’n cyd-fynd â safonau’r diwydiant i gynorthwyo eich dysgu
  • Dysgu wedi’i deilwra i weddu i’ch sgiliau a’ch diddordebau arbennig chi
  • Cysylltiadau gwych â chyflogwyr lleol
  • Llwybr clir ar gyfer y byd gwaith a’ch gyrfa yn y dyfodol
  • Help i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol
  • Addysg a chyngor o ansawdd uchel ar gyfer eich gyrfa
  • Y disgwyliad y byddwch naill ai’n symud yn eich blaen at swydd, neu brentisiaeth neu addysg bellach/uwch ar ôl cwblhau eich cwrs
  • Cyfleoedd i gwrdd a chysylltu â phobl ifainc eraill ledled y wlad drwy Ymddiriedolaeth CyberHub
  • Cymorth, cyngor a mentora arbenigol ar gyfer ehangu eich gorwelion a meithrin uchelgeisiau

Byddwch yn ennill cyfuniad o wybodaeth gyfrifiadurol a sgiliau ymarferol i gwrdd â gofynion technolegol newidiol y diwydiant.

Bydd y cwrs yn cymryd agwedd uned-wrth-uned a chewch eich asesu trwy aseiniadau, tasgau ac arholiadau ysgrifenedig. Y cymwysterau y byddwch yn eu hennill yw:

  • Diploma Sylfaen Lefel 3 mewn Cyfrifiadura
  • Sgiliau Cyflogadwyedd Ehangach
  • AON Sgiliau Hanfodol a Chyfathrebu Lefel 3

Mae modiwlau Cyfrifiadura BTEC yn cynnwys:

Blwyddyn 1

  • Egwyddorion Cyfrifiadureg (arholiad)
  • Hanfodion Systemau Cyfrifiadurol (arholiad)
  • Systemau Diogelwch TG ac Amgryptio
  • Cymwysiadau Busnes Cyfryngau Cymdeithasol
  • Datblygu Gemau Cyfrifiadurol
  • Datblygu Gwefan

Blwyddyn 2

  • Cynllunio a Rheoli Prosiectau Cyfrifiadurol (arholiad)
  • Prosiect Dylunio a Datblygu Meddalwedd
  • Effaith Cyfrifiadura
  • Graffeg Digidol ac Animeiddio
  • Datblygu Cronfeydd Data Perthynol
  • Rhwydweithio Cyfrifiadurol
  • Dadansoddi a Dylunio Systemau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I ymuno â’r cwrs, byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gradd Teilyngdod gyda TGAU Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch.

Bydd angen ichi ymrwymo i’ch astudiaethau a symud yn eich blaen at brentisiaeth neu swydd yn y sector. Bydd angen ichi baratoi i astudio a gweithio mewn amgylchedd dysgu sy’n adlewyrchu gwaith yn hytrach na’r ystafell ddosbarth, yn cynnwys oriau estynedig, dillad busnes ac ymddwyn mewn modd pwrpasol.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Gwaith mewn meysydd cysylltiedig, fel:

  • Peiriannydd rhwydwaith
  • Rhaglennydd
  • Dylunio a datblygu gwefannau
  • Cynorthwyo systemau TGCh
  • Prentisiaethau uwch mewn Cyfrifiadura
  • Astudio pynciau cyfrifiadurol ar lefel prifysgol

Gwybodaeth Ychwanegol

Byddwch yn cael y cyfle i gael profiad gwaith, cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar broblemau a'r cyfle i gymryd rhan yng nghynllun Erasmus.

Ìý

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Sylfaen Cenedlaethol mewn Cyfrifiadura (Technolegau Digidol) Lefel 3?

CFBE0040AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr