91Ï㽶ÊÓƵ

En

Hyfforddiant Cam 3 a 4 BHS (Gofal ac Arwain)

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Ffioedd

Ffioedd
£300.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
01 Mai 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Iau
Amser Dechrau

Amser Dechrau
18:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
20:00

Hyd

Hyd
6 wythnos

Yn gryno

Er mwyn datblygu eich sgiliau marchogaeth a gwybodaeth am ofalu am geffylau y tu hwnt i Gam 2 BHS, bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer y cymhwyster Cam 3 BHS ac yn cwmpasu ystod o bynciau ymarferol a damcaniaethol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... Y rheini sydd yn chwilio i symud ymlaen drwy'r llwybrau BHS

... Yn berchnogion ceffylau angerddol sydd yn chwilio i ddatblygu eu sgiliau

... Unrhyw un sydd yn chwilio i hyfforddi ar gyfer asesiadau Cam 3 a 4 Gofal ac Arwain Cymdeithas Ceffylau Prydain (British Horse Society - BHS)

... Y rheini sydd yn symud ymlaen i rôl uwch yn y diwydiant ceffylau

Cynnwys y cwrs

Gan symud ymlaen o Gam 2 BHS, bydd y cwrs hwn yn cynnwys:

Gofalu am Geffylau

  • Dewis, ffitio a gwerthuso ystod o offer arbenigol
  • Maeth, ffitrwydd a ffisioleg ceffylau
  • Cydymffurfiad ac iechyd ceffylau
  • Gofalu am wahanol grwpiau o geffylau, gan gynnwys cesig, ebolion a stoc ifanc

Arwain (Lunging)

  • Arwain ceffyl fel ymarfer corff
  • Dangos gwelliant mewn symudiad y ceffyl
  • Arwain dros bolion
  • Defnyddio cymhorthion arwain yn gywir

Bydd angen i chi feddu ar eich het farchogaeth eich hun i safonau cyfredol y BHS yn ogystal â chlôs pen-glin ac esgidiau marchogaeth. Bydd y cwrs yn eich paratoi ar gyfer adrannau Gofal ac Arwain yr asesiadau Cam 3 a 4 BHS.

Gofynion Mynediad

Er nad oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, dylech fod wedi ennill y cymhwyster Cam 2 BHS neu feddu ar sgiliau a phrofiad ar y lefel hon.

Dylai dysgwyr fod yn 19 mlwydd oed o leiaf.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r cwrs hwn yn cael ei redeg gan un o'n hyfforddwyr BHS cymwysedig ac mae'n rhedeg gyda'r nos.

Bydd rhaid i chi feddu ar het farchogaeth wedi'i ffitio'n gywir sydd yn bodloni safonau diogelwch cyfredol, esgidiau iard neu esgidiau trwm a menig.

Noder y dyluniwyd y cwrs hwn i baratoi dysgwyr ar gyfer adrannau Gofal ac Arwain y cymwysterau Cam 3 a 4 BHS, fodd bynnag, nid yw'r cwrs hwn yn cynnwys asesiadau.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Hyfforddiant Cam 3 a 4 BHS (Gofal ac Arwain) ?

UCCE3794AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 01 Mai 2025

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr