Gradd Atodol BSc (Anrh) - Nyrsio Milfeddygol
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Brynbuga
Dyddiad Cychwyn
11 Medi 2025
Gofynion Mynediad
Mae'r Radd BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol (Atodol) ar gyfer ymgeiswyr Blwyddyn 3 yn unig. Mae angen llwyddo yng Ngradd Sylfaen Nyrsio Milfeddygol yn 91Ï㽶ÊÓƵ, neu un o raddau FdSc mewn Nyrsio Milfeddygol eraill sydd ag achrediad RCVS.
Yn gryno
Mae’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol a enillir trwy’r cwrs hwn yn ddymunol yn y Proffesiwn Milfeddygol ac amrywiaeth eang o ddiwydiannau amaethyddol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych chi’n dymuno uwchraddio eich Gradd Sylfaen i Radd Anrhydedd lawn mewn Gwyddor Nyrsio Milfeddygol
... Ydych chi’n dymuno anelu at swydd raddedig yn eich dewis faes
... Ydych chi’n awyddus i gyfuno eich astudio gyda phrofiad ymarferol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd cwblhau’r radd atodol BSc (Anrh) mewn Gwyddor Nyrsio Milfeddygol blwyddyn o hyd hon yn eich galluogi i gystadlu am swyddi graddedig yn y Proffesiwn Nyrsio Milfeddygol a diwydiannau iechyd a lles Anifeiliaid eraill. Bydd ein BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol yn datblygu eich gallu i ymgysylltu ag ymarfer seiliedig ar dystiolaeth, gan eich galluogi i wneud cyfraniadau blaengar at y Proffesiwn Nyrsio Milfeddygol.
Bydd y cwrs 120 credyd yn cynnwys:
- Modiwl ymchwil o dan arweiniad prifysgol
- Swoleg fertebraidd
- Moeseg a lles anifeiliaid
- Gwelliannau mewn iechyd ac ymddygiad anifeiliaid
- Maeth clinigol datblygedig.
Mae’r darlithwyr yn cynnwys Bethan Lewis, Kate Beavan RVN, Rhiannon Stundon RVN, Michelle Cooper, Jess Ingleson, Clare Clift RVN.
Bydd asesu yn amrywiol a pharhaol trwy gydol blwyddyn y cwrs, i gynnwys trafodaethau a beirniadaethau grwp, prosiectau ymchwil, gwaith portffolio, cyflwyniadau, asesu ac adroddiadau ymarferol.
Byddwch yn ennill BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Mae’r Radd Atodol BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol yn gwrs mynediad Blwyddyn 3 yn unig. Mae angen llwyddo yn y Radd Sylfaen mewn Nyrsio Milfeddygol yng Ngholeg Gwent, neu mae angen un o’r RCVS achrededig FdSc Nyrsio Milfeddygol.
Mae’r amserlen arferol ar gyfer y cwrs hwn yn rhedeg dros un/dau ddiwrnod yr wythnos a bydd disgwyl i fyfyrwyr fynychu pob sesiwn. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gwblhau o leiaf 20 awr yr wythnos o astudio ac ymchwil annibynnol. Bydd rhai sesiynau dysgu yn cael eu cynnal ar Gampws Glyntâf Prifysgol De Cymru, Pontypridd, er y bydd y mwyafrif yn cael eu cyflwyno ar gampws Brynbuga 91Ï㽶ÊÓƵ.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd cwblhau’r radd atodol BSc (Anrh) Gwyddor Nyrsio Milfeddygol blwyddyn o hyd yn eich galluogi i gystadlu am swyddi graddedig yn y proffesiwn Nyrsio Milfeddygol a Diwydiannau iechyd a lles Anifeiliaid eraill. Pe byddech yn dymuno parhau â’ch Addysg uwch gallech symud ymlaen at Radd Meistr berthynol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Byddwch yn cael eich dysgu trwy ddarlithiau, tiwtorialau a gwaith ymarferol. Gall rhywfaint o’r cyflwyno gael ei ddarparu gan siaradwyr gwadd. Mae astudio hunangyfeiriedig yn chwarae rhan ym mhob modiwl ac mae’n cael ei gefnogi gan amgylchedd dysgu rhithiol y Brifysgol. Mae cyfran yr astudio hunangyfeiriedig yn dibynnu ar y modiwl a gall amrywio o 50% i 80%. Mae’r cwrs hwn yn cael ei gyflwyno ar y cyd gan Goleg Gwent, ar ein Campws ym Mrynbuga a Phrifysgol De Cymru, Trefforest a bydd cyflwyno gwersi yn cael ei rannu rhwng Brynbuga a Threfforest, gofynnwch am fanylion pan ymwelwch ag un o’n digwyddiadau agored.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
UFDB0002AA
Campws Brynbuga
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 11 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr