VTCT Diploma mewn Therapi Harddwch gyda Lleoliad Gwaith Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Mae rhaid i chi meddu ar o leiaf 3 TGAU gradd D ac yn uwch
Yn gryno
Mae'r cwrs Therapi Harddwch Lefel 2 ar gyfer y rheini sydd am ddechrau yn y diwydiant harddwch neu symud ymlaen o Therapi Harddwch Lefel 1 i'r rhan fwyaf o driniaethau Therapi Harddwch Sylfaenol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes ydych chi'n meddu ar ddiddordeb brwd mewn Therapi Harddwch
... Os ydych chi am ddysgu sgiliau a thechnegau harddwch newydd i wella eich set sgiliau presennol
... Ydych chi'n ystyried gyrfa fel Therapydd Harddwch
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch chi'n dysgu am ymgynghoriadau ac unedau megis:
- Trin dwylo
- Trin traed
- Trin wyneb
- Wacsio
- Colur
- Dyletswyddau derbynfeydd salonau
- Iechyd a diogelwch
- Gofal cleientiaid
- Trin amrannau ac aeliau
- Lliw haul
- Codi Aeliau
- Cyflwyniad i godi aeliau
O fewn pob un o'r unedau hyn byddwch chi'n cymryd asesiadau ymarferol i ddangos eich cymhwysedd ymarferol yn ogystal ag arholiadau ac aseiniadau sy’n cwmpasu pob canlyniad meini prawf i allu sicrhau y cyflawnir popeth.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Bydd disgwyl i chi fynychu pob sesiwn, gweithio'n galed a chwblhau asesiadau ymarferol ar gleientiaid sy'n talu gan fod y salon yn sefydliad hyfforddi realistig.
Bydd rhaid i chi: fod yn hunan-gymhellol ac yn weithgar, ymfalchïo yn eich edrychiad, bod yn rhifog a meddu ar bersonoliaeth gyfeillgar.
Bydd disgwyl i chi weithio ar gleientiaid sy'n talu, y gellir rhywfaint o'r rhain fod yn deulu neu ffrindiau i allu cwblhau asesiadau ymarferol lle bo angen. Fodd bynnag, os oes yna apwyntiadau allanol a drefnwyd, bydd rhaid iddyn nhw ddod yn gyntaf bob tro.
Bydd disgwyl eich bod chi'n mynychu lleoliad gwaith fel rhan o'r rhaglen.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cod gwisg:
- Gwisg unffurf
- Rhaid clymu gwallt yn daclus i ffwrdd o'r wyneb
- Defnyddio colur bob dydd
- Ni chaniateir tyllu, a dim ond modrwy briodas y caniateir ei gwisgo yn y salon
Fel amod o'ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r cit priodol, o'n cyflenwr cymeradwy, sydd yn costio tua £86 yn amodol ar adolygiad/costau yn cynyddu oherwydd chwyddiant.
I allu adlewyrchu disgwyliadau y diwylliant, bydd disgwyl i chi wisgo gwisg salon 91Ï㽶ÊÓƵ y gellir ei harchebu o'n cyflenwr cymeradwy. Gellir cael gafael ar fanylion ar sut i archebu eich gwisg, gydag opsiynau i dalu'r cyflenwr, o'ch Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Cost 2024/2025 yw tua £45, yn amodol ar gynyddu oherwydd chwyddiant.
Gall costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae pob cost dan adolygiad ac yn amodol ar newid.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EFDI0446AB
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr