91Ï㽶ÊÓƵ

En

Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Ceffylau

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
13 Medi 2025

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

I ymgeiswyr rhwng 18-21 oed: CC-DDD mewn Lefelau A.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C): Cymraeg neu Saesneg, Mathemateg neu bwnc Gwyddoniaeth.

Diploma Cenedlaethol BTEC: MMP.

Rhoddir ystyriaeth i fyfyrwyr hyn (21+ oed) yn unigol ac er nad oes gofyn cymwysterau ffurfiol, mae diddordeb mewn ceffylau ac awydd i ddysgu yn hanfodol.

Yn gryno

Mae’r cwrs FdSc Astudiaethau Ceffylau yn cynnwys cymysgedd damcaniaethol ac ymarferol neilltuol o ddarlithiau sy’n astudio pob agwedd o’r ceffyl mewn perthynas â gofal, rheolaeth, bridio, cystadleuaeth a busnes.

Ìý

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych chi am ennill cymhwyster a phrofiad gwerthfawr yn y diwydiant ceffylau

... Rydych chi eisiau cymysgedd astudio damcaniaethol ac ymarferol

... Mae gennych ddiddordeb ac angerdd brwd dros y diwydiant ceffylau

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd nifer o fodiwlau gwyddoniaeth yn eich symud tuag at gyrsiau BSc ceffylau os ydych chi’n dymuno symud ymlaen ar ôl graddio’n llwyddiannus. Gan fod cyfleusterau ceffylau Campws Brynbuga hefyd yn cynnwys canolfan arholiadau BHS bydd y potensial i sefyll arholiadau BHS yn y coleg.

Byddwch yn cael eich dysgu trwy raglen gytbwys o ddarlithiau, seminarau, gweithdai, gwaith ymarferol, ymweliadau maes a gwaith labordy. Gall dulliau asesu gymryd ffurfiau amrywiol fel traethodau, ymarferiadau ymarferol, cyflwyniadau llafar, arholiadau, adroddiadau labordy, taflenni gwaith, astudiaethau achos, adroddiadau ymarferol, portffolios, erthyglau cylchgrawn, gwe-dudalennau a phodlediadau.

Byddwch yn ennill Gradd Sylfaen sy’n cyfateb i’r ddwy flynedd gyntaf o astudio ar raglen radd (Lefel 4 a Lefel 5).

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Gofynion mynediad ar gyfer ymgeiswyr 18-21 oed: Safon Uwch CC-DDD

Gofynion TGAU (isafswm gradd C): Saesneg neu Gymraeg, Mathemateg neu bwnc Gwyddoniaeth

BTEC Diploma Cenedlaethol: MMP

Ymdrinnir â myfyrwyr aeddfed (21+ oed) ar sail unigol a thra nad oes gofyn am gymwysterau ffurfiol, mae diddordeb mewn ceffylau ac awydd i ddysgu yn hanfodol.

Mae’r amserlen arferol ar gyfer y cwrs hwn yn rhedeg dros ddau ddiwrnod yr wythnos a bydd disgwyl i fyfyrwyr fynychu pob sesiwn. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gwblhau o leiaf 20 awr yr wythnos o astudio ac ymchwil annibynnol. Yn ychwanegol at hyn bydd modiwl lleoliad gwaith lle bydd disgwyl i’r myfyriwr ddarganfod ei leoliad(au) gwaith ei hun i gwmpasu’r chwe wythnos sy'n ofynnol, bydd cyfarwyddyd tiwtor ar gael os oes angen.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Cynigir mynediad yn awtomatig i fyfyrwyrÌý sy’n cwblhau’r radd Sylfaen yn llwyddiannus i’r ail flwyddyn o raglen radd addas ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd y Brifysgol hefyd yn cynnig mynediad i’r flwyddyn olaf o raglen radd addas i fyfyrwyr sy’n arddangos perfformiad da yn gyson

Bydd eich gradd mewn astudiaethau ceffylau yn rhoi sylfaen ardderchog ar gyfer gyrfa yn y canlynol:

  • Rheolaeth a goruchwyliaeth
  • Mentrau ceffylau
  • Rheolwr stablau
  • Hyfforddwr
  • Swyddog ymchwil maeth
  • Swyddog pasbort ceffyl
  • Arolygydd RSPCA

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r cwrs hwn o dan fasnachfraint Prifysgol Aberystwyth.

Costau ychwanegol:

Blwyddyn 1

Ar gyfer Iechyd a Diogelwch bydd angen i chi brynu dillad ac esgidiau addas i weithio ar yr iard ar gyfer pethau ymarferol:

Het reidio (i safonau cyfredol BHS), esgidiau uchel, jodhpurs a menig (bydd y costau'n amrywio). Ìý Bydd angen i chi hefyd brynu pecyn dyraniad a chôt labordy (tua £ 20 yr un). Ìý Blwyddyn 2 Ìý Maeth ymarferol (tua £ 50) Ìý Taith astudio (tua £ 250)

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Ceffylau?

UFDG0058AA
Campws Brynbuga
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 13 Medi 2025

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr