91Ï㽶ÊÓƵ

En

City & Guilds Diploma NVQ mewn Trin Gwallt (Oedolion) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2025

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
Er mwyn dilyn y cwrs yma, bydd angen i chi fod yn gyflogedig mewn lleoliad addas.

Yn gryno

Cynhelir y diploma yn eich gweithle a choleg, lle bo’n angenrheidiol. Nid yn unig y mae hwn yn gam perffaith yn eich gyrfa trin gwallt, ond mae hefyd yn rhoi amrywiaeth o sgiliau hanfodol i’ch helpu i ddatblygu eich gyrfa.

Dyma'r cwrs i chi os...

…brentisiaethau trin gwallt sydd am wella eu sgiliau a datblygu’n uwch steilydd.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Fel arfer, fe gymer y City & Guilds Diploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt

8 mis i’w gwblhau, ac mae’n ymdrin â nifer o bynciau gorfodol a dewisol, gydag asesydd yn ymweld i gwblhau asesiadau yn y gweithle ac adolygiadau cynnydd.

Ìý

Y pynciau gorfodol yw:

  • Darparu gwasanaethau ymgynghori ar drin gwallt
  • Hyrwyddo gwasanaethau ychwanegol neu gynhyrchion i gwsmeriaid
  • Torri gwalltÌýyn greadigol gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau
  • Monitro gweithdrefnau i reoli gweithrediadau gwaith yn ddiogel

Ìý

Gall pynciau dewisol gynnwys:

  • Lliwio gwallt gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau
  • Triniaethau gwallt a chroen y pen
  • Gwasanaethau cywiro lliw
  • Gwasanaethau ymestyniadau gwallt creadigol
  • Steilio a gwisgo gwallt yn greadigol
  • Gwasanaethau ymgynghori arbenigol i gyflyrau gwallt a chroen y pen
  • Gwisgo gwallt hir yn greadigol
  • Datblygu a gwella sgiliau trin gwallt yn greadigol
  • Cyfrannu at effeithiolrwydd ariannol y busnes
  • Creu amrywiaeth o effeithiau a bermiwyd
  • Cyfrannu at gynllunio a gweithredu gweithgareddau hyrwyddo
  • Cefnogi gwella gwasanaeth i gwsmeriaid.

Hefyd, mae’r cwrs yn cynnwys amrywiaeth o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) a fwriadwyd i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud y gorau o’ch dysgu, eich gwaith a’ch bywyd. Maent yn cynnwys:

  • Cymhwyso Rhif Lefel 2 – bydd y cymhwyster hwn yn eich helpu i wella eich sgiliau rhif, gan gynnwys rhoi dealltwriaeth o ddata rhifiadol i chi, gwneud cyfrifiadau, dehongli canlyniadau a chyflwyno canfyddiadau.
  • Cyfathrebu Lefel 2 – bydd hwn yn eich helpu i wella eich sgiliau cyfathrebu wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu.
  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) Lefel 1 – fe’i bwriadwyd i wella eich sgiliau TGCh, gan gynnwys canfod, dewis a chyfnewid gwybodaeth a datblygu a chyflwyno gwybodaeth.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r cwrs yma, gallech symud ymlaen i Lefel 4 mewn Rheolaeth Salon, neu gyrsiau perthnasol tebyg i therapi Harddwch neu Golur Theatrig a’r Cyfryngau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy.ÌýY gost am hyn yw tua £140,Ìýyn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.

I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon 91Ï㽶ÊÓƵ y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd.Ìý Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45,Ìýyn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.

Gall fod costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma NVQ mewn Trin Gwallt (Oedolion) Lefel 3?

NFDI0011AB
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2025

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr