VTCT Diploma mewn Gwallt a Cholur Cyfryngau Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
I gael mynediad i’r cwrs, bydd angen i chi feddu ar o leiaf 3 chymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 perthnasol A meddu ar ddawn greadigol neu dystiolaeth o waith celf.
Rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar isafswm y cymwysterau TGAU yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.
Yn gryno
Mae artistiaid colur yn dyfeisio ac yn rhoi colur i gyfleu ymdeimlad o ddrama, p’un a yw ar gyfer ffilm, theatr, ffotograffau neu lwyfan cyfryngau cymdeithasol. Bydd cymhlethdod a’r math o gysyniad yn amrywio yn dibynnu ar y cynhyrchiad a'r cymeriad, ond gall artistiaid colur da gyfleu ystod eang o edrychiadau ar draws amrywiaeth o genres.
Wrth weithio fel artist colur, ceir amrywiaeth o lwybrau dilyniant. Mae natur lawrydd y proffesiwn yn golygu y gallwch symud rhwng bod yn gynorthwyydd colur dan hyfforddiant, artist colur, prif artist colur a rolau dylunio, yn dibynnu ar eich profiad.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych ddyheadau o fod yn artist colur
... Oes gennych ddiddordeb arbennig mewn theatr neu ffilm
... Ydych chi’n greadigol a gweithgar
Beth fyddaf yn ei wneud?
Fel artist colur, rydych chi’n gyfrifol am roi colur ar bobl a steilio gwallt ar gyfer pobl sy’n ymddangos mewn ffilmiau, rhaglenni teledu, sesiynau ffotograff neu ddigwyddiadau byw fel cyngherddau, dramâu neu sioeau ffasiwn. Mae trin gwallt yn chwarae rhan fawr yn y cwrs hwn ac mae’r diwydiant yn cyflogi unigolion amryddawn sy’n gallu rhoi colur ymlaen a steilio gwallt mewn un sesiwn.
Eich swydd fyddai creu’r edrychiad mae’r person ei angen ar gyfer y math o gynhyrchiad neu ddigwyddiad.
Byddwch yn dysgu technegau trin gwallt sylfaenol a sgiliau colur penodol i’r cyfryngau gan gynnwys:
- Colur ar gyfer y llwyfan
- Heneiddio ar gyfer y llwyfan
- Effeithiau arbennig
- Lleoliad gwaith
- Gwneud wig
- Trin gwallt sylfaenol
- Defnyddio darnau gwallt
- Colur ffasiwn
- Colur ffotograffig
- Colur cyfnod
- Peintio wynebau
- Dylunio celf corff
- Darparu celf ewinedd
Byddwch yn cael eich asesu trwy aseiniadau ymarferol ac aseiniadau ar thema, portffolio o waith a chwestiynau prawf amlddewis. Ar ôl cwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Lefel 2 Trin Gwallt a Cholur y Cyfryngau
- Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Saesneg a Mathemateg (os nad ydych wedi ennill gradd C neu uwch ar lefel TGAU)
- Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau cymunedol ac arddangosiadau)
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gael mynediad i’r cwrs, bydd angen i chi feddu ar o leiaf 3 chymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 perthnasol A meddu ar ddawn greadigol neu dystiolaeth o waith celf.
Rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar isafswm y cymwysterau TGAU yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Diploma Lefel 3 mewn Colur Theatrig ar Cyfryngau, Â cyflogaeth neu addysg bellach.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae cod gwisg ac ymddangosiad yn agwedd bwysig iawn ar y cwrs hwn ac rydym yn gofyn i chi gadw at y canlynol:
- Mae’n rhaid gwisgo tiwnig gyda throwsus ac esgidiau du synhwyrol yn y salonau
- Rhaid i wallt gael ei glymu yn daclus yn ôl o'r wyneb a rhaid gwisgo colur er mwyn creu delwedd broffesiynol
- Dim tyllau corff gweladwy
- Modrwy briodas yn unig a ganiateir ei gwisgo yn yr ystafell colur.
Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy, cost i'w gadarnhau.
I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon 91Ï㽶ÊÓƵ y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.
Gall fod costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFDI0197AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr