91Ï㽶ÊÓƵ

En

ILM Dyfarniad mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Lefel

Lefel
5

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Mae'r cymhwyster hwn yn ddelfrydol at ddatblygu eich sgiliau a'ch profiad, gwella'ch perfformiad a pharatoi ar gyfer cyfrifoldebau rheoli uwch. Fe'i cyflwynir gan diwtoriaid profiadol sydd eu hunain wedi dal swyddi rheoli, ac mae hyfforddiant yn ymarferol, yn gyfranogol ac yn gysylltiedig â'r gweithle.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Cynlluniwyd y cymhwyster hwn ar gyfer penaethiaid adran a rheolwyr canol gweithredol eraill.

Cynnwys y cwrs

Bydd unedau y cymhwyster hwn yn cwmpasu ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth. Gall cyflogwr eu dewis i ddiwallu eu hanghenion hyfforddiant. Fel arall, rydym yn argymell dwy uned a fydd yn galluogi dysgwyr i ennill y Dyfarniad llawn:

- Datblygu ac arwain timau i gyflawni amcanion sefydliadol: i ddatblygu dealltwriaeth a gallu o ran datblygu ac arwain timau.
- Dod yn arweinydd effeithiol: i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o arweinyddiaeth effeithiol.

Bydd dysgwyr yn mynychu gweithdai dan arweiniad hyfforddwyr ar gyfer pob uned a byddant yn cyflwyno aseiniad ysgrifenedig 2500 o hyd ar gyfer pob uned.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyflwynir y cymhwyster hwn ar safle cyflogwr i grŵp o'i weithwyr, nid ar y campws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau ei gyflyniad gyda'r cyflogwr ymlaen llaw.

Cyflwynir y ddwy uned a argymhellir uchod dros bum diwrnod. Gellir cyhoeddi dyfynbris ffurfiol ar ôl ennill dealltwriaeth o’ch anghenion hyfforddiant.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio ILM Dyfarniad mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5?

BCEM0004AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.