91Ï㽶ÊÓƵ

En

HNC Peirianneg Sifil

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Adeiladu

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
£2200.00

Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
24 Medi 2025

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, byddwch angen:

  • 2 Safon Uwch neu gyfwerth, neu
  • Gradd Teilyngdod mewn BTEC Lefel 3 ac uwch mewn Peirianneg Sifil/Adeiladu
  • Derbynnir Diplomâu a NVQ Masnach gyda lefel briodol o brofiad
  • Cyfweliad gyda thiwtor i drafod amgylchiadau personol, ac asesu'r lefel o brofiad sydd gennych eisoes mewn maes cyffelyb.
  • Cyflawni diploma atodol lefel 3. (Blwyddyn 1 diploma genedlaethol)

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi astudio cymhwyster sy'n gydnabyddedig o fewn y diwydiant Peirianneg Sifil, ac sy'n cael ei gydnabod yn broffesiynol gan ICE, ISE, CIAT, RICE, CIOB, CIBSE a CIPHE.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Mae gennych ddiddordeb brwd mewn Peirianneg Sifil

... Rydych eisiau cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol

...Rydych yn gweithio'n dda mewn astudiaethau ymarferol a damcaniaethol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Cyflwynir y cymhwyster gan Pearson Edexcel, ac mae'n cael ei ddarparu'n uniongyrchol gan weithwyr arbenigol y diwydiant yng Nghampws Casnewydd. Mae'r modiwlau rydym yn eu darparu yn cynnwys datblygiad cynaliadwy a darparu'r technegau a phrosesau diweddaraf mewn modiwlau graffig sy'n seiliedig ar brosiect.

Ymhlith y modiwlau mae:

  • Prosiect Unigol
  • Technoleg Adeiladu
  • Gwyddoniaeth a defnyddiau
  • Rheolaeth ac Ymarfer Adeiladu
  • Dadansoddiad a dyluniad strwythurol
  • Hydroleg
  • Mathemateg mewn adeiladu

Mae'r sesiynau yn gymysgedd o ddarlithoedd, stiwdios dylunio ac arbrofi ymarferol, yn seiliedig ar sefyllfaoedd prosiect go iawn a phroblemau efelychol.

Rydym yn cynnig yr HNC dros gyfnod o 1 -2 flynedd, gydag 8 modiwl i'w cwblhau. Bydd myfyrwyr Rhan Amser yn cael eu rhyddhau ar ddydd Mawrth, a myfyrwyr Llawn Amser yn cael eu rhyddhau ar ddydd Mawrth a dydd Iau.

Gellir darparu ar gyfer sefyllfaoedd personol.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Wedi cychwyn y cwrs, rydym yn disgwyl ymrwymiad a diddordeb llawn ar gyfer eich astudiaethau, a byddwch angen astudio yn eich amser eich hun i gefnogi eich gwaith yn y coleg.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Os ydych yn cwblhau eich HNC yn llwyddiannus, gallwch gwblhau'r HND mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig ar gampws Casnewydd.

Mae nifer o'r unigolion sy'n gweithio mewn swyddi rheoli o fewn cwmnïau adeiladu a pheirianneg sifil wedi cymhwyso hyd at lefel HNC. Drwy gwblhau HNC, ac o bosib, HND, byddwch yn cael cyfleoedd i ddilyn gyrfaoedd mewn rheoli, yn ogystal ag astudio a gwneud cynnydd yn y dyfodol.

Y llwybr naturiol i'w dilyn ar ôl cwblhau'r HNC a/neu HND yw manteisio ar ein cysylltiadau gyda Phrifysgolion lleol, a thrafod yr opsiynau ar gyfer astudio BEng, neu BSE Eng mewn Peirianneg Sifil. Gallwch hefyd ddefnyddio'r cwrs llwybr at Beirianneg Strwythurol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Byddwch yn elwa o fod â mynediad at liniadur, er mwyn dod yn gyfarwydd â'r broses Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur.

Argymhellir i chi brynu pren mesur graddfa, pensiliau/pinnau graffig ac offer ysgrifennu cyffredinol (cost oddeutu £150.00)

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio HNC Peirianneg Sifil?

NPHC0040YO
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 24 Medi 2025

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr