HND mewn Colur Arbenigol

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
11 Medi 2025
Gofynion Mynediad
I gael mynediad at y cwrs hwn, bydd angen i chi feddu ar 4 cymhwyster TGAU, graddau A*i C, gan gynnwys Saesneg a Chelf, cymhwyster Lefel 4/HNC mewn Coluro Arbenigol Theatryddol a’r Cyfryngau.
Disgwylir i’r dysgwr feddu ar rinweddau ymroddedig, creadigol ac ysbrydoledig.
Yn gryno
Y cwrs lefel uwch hwn yw’r ail flwyddyn o raglen ddwy flynedd ac mae’n cynnwys y sgiliau technegol a’r wybodaeth uwch sy’n angenrheidiol ar gyfer gweithio yn y diwydiant coluro ym meysydd ffilm, teledu a theatr.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Bydd gennych chi ddiddordeb proffesiynol ym maes coluro ar gyfer y theatr a’r byd ffilmiau
... Rydych chi’n greadigol
... Rydych chi’n gweithio’n galed ac yn ymroddedig
... Rydych chi’n meddu ar gymhwyster Lefel 4 ym maes arbenigol Coluro.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae artistiaid coluro effeithiau arbennig yn gweithio gyda modelau byw neu berfformwyr i’w gweddnewid yn gymeriadau neu’n greaduriaid (fel arfer at ddibenion act neu ddrama yn unol â’r disgrifiad mewn sgriptiau ffilm neu deledu). Mae eu gwaith yn cynnwys rhoi colur a/neu brostheteg i gyflawni’r effaith theatryddol a ddymunir.
Mae’r cwrs hwn yn berffaith i chi os oes gennych chi ddiddordeb ym maes coluro ffilmiau neu deledu, os ydych chi’n bwriadu dilyn gyrfa yn y diwydiant ac os ydych chi wedi ennill cynhwyster Lefel 4 mewn Coluro Theatryddol neu os oes gennych chi brofiad cyfatebol yn y diwydiant.
Byddwch chi’n ennill y sgiliau angenrheidiol i ddechrau gyrfa ym maes coluro theatryddol a’r cyfryngau a byddwch chi’n dysgu am weithio yn y diwydiant. Yn ystod eich cyfnod yn y coleg, cewch gyfleoedd i fynd ar brofiadÂ
gwaith a chymryd rhan mewn cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae’r cwrs Lefel 5 hwn sy’n para am un flwyddyn, wedi’i ddylunio ar gyfer y rhai â diddordeb proffesiynol ym maes coluro’r theatr neu ffilmiau. Mae’n cynnwys gwybodaeth arbenigol ynghylch datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth uwch sy’n angenrheidiol i weithio ym myd ffilmiau, teledu a’r theatr.
Byddwch chi’n astudio unedau gan gynnwys:
- Special FX 2
- Prosiect Ymchwil Creadigol
- Gweithio yn Niwydiant y Celfyddydau Perfformio
- Creu Mygydau a Phypedau
- Yr Artist Coluro Llawrydd – Creu Wigiau
- Rôl ym maes Rheolaeth
- Dylunio Gwisgoedd
Caiff sgiliau ymarferol eu hasesu trwy gyfres o asesiadau ymarferol a aseswyd sy’n seiliedig ar frîff sy’n ymwneud â diwydiant sy’n cael eu cefnogi gan gyfnodolyn cynhwysfawr o ymchwil a chofnod datblygiad. Caiff unedau theori eu hasesu trwy astudiaethau achos, cyfnodolion ymchwil a chyflwyniadau.
Cynhelir dosbarthiadau meistr a hwylusir gan arbenigwyr yn y diwydiant drwy gydol y rhaglen.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gael mynediad at y cwrs hwn, bydd angen i chi feddu ar 4 cymhwyster TGAU, graddau A*i C, gan gynnwys Saesneg a Chelf, cymhwyster Lefel 4/HNC mewn Coluro Arbenigol Theatryddol a’r Cyfryngau.
Disgwylir i’r dysgwr feddu ar rinweddau ymroddedig, creadigol ac ysbrydoledig.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar lwyddo i gwblhau’r cwrs hwn, byddwch chi’n symud ymlaen i gwrs gradd BA (Anrh.) mewn Coluro’r Cyfryngau mewn prifysgol briodol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Disgwylir i chi brynu gwisg a chit wigiau a fydd yn costio oddeutu £250
Efallai y bydd costau eraill sy’n gysylltiedig â theithio a llety ar gyfer hyfforddiant Dosbarth Meistr.
Cod gwisgo:
- Gwisg
- Mae’n rhaid bod eich gwallt wedi’i glymu yn ôl oddi ar yr wyneb
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
CFHD0033AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 11 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr