Bwrdd Corfforaeth
Gelwir corff llywodraethu 91Ï㽶ÊÓƵ yn Gorfforaeth Addysg Bellach 91Ï㽶ÊÓƵ. Gan amlaf, cyfeirir ato fel ‘Y Bwrdd’.
Mae’r Bwrdd yn cynnwys 22 Llywodraethwr. Mae hyn yn cynnwys y Pennaeth/Prif Weithredwr, dau aelod o staff a tri fyfyriwr (wedi eu hethol gan eu cyfoedion). Mae’r holl Lywodraethwyr eraill yn wirfoddolwyr. Mae Llywodraethwyr yn cael eu recriwtio ar yr amod eu bod yn cyflwyno amrywiaeth o sgiliau a phrofiad i’r Bwrdd, sydd eu hangen ar gyfer goruchwylio rhediad y Coleg.
Diddordeb mewn bod yn Llywodraethwr?
Gweler ein canllaw i ymuno â ni fel Llywodraethwr 91Ï㽶ÊÓƵ.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Yn 91Ï㽶ÊÓƵ, mae ein gwerthoedd craidd yn hyrwyddo parch a goddefgarwch i bawb. Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein coleg yn fan y bydd pawb, yn staff ac yn ddysgwyr, yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu parchu.
Gweler ein .
Cyfrifoldebau’r Bwrdd
Mae’r Bwrdd yn gweithio’n agos gyda’r uwch dîm rheoli ac yn gweithredu fel ‘ffrind beirniadol’, gan gymryd trosolwg strategol a gofyn cwestiynau heriol. Mae’r Llywodraethwyr, ar y cyd, yn gyfrifol am:
- Penderfynu ar gymeriad addysgol, gweledigaeth ac amcan 91Ï㽶ÊÓƵ.
- Goruchwylio rheolaeth gadarn y Coleg, ac ansawdd y gwasanaeth mae’n ei ddarparu.
- Cymeradwyo’r gyllideb flynyddol a sicrhau cynaliadwyedd ariannol.
- Goruchwylio’r defnydd cywir o gyllid cyhoeddus a defnydd effeithlon o adnoddau.
- Gosod fframwaith ar gyfer tâl ac amodau’r staff.
- Recriwtio, rheolaeth perfformiad a diswyddiad deiliaid swyddi uwch.
Pwyllgorau
Er mwyn cefnogi ei waith, mae’r Bwrdd yn gweithredu nifer o is-bwyllgorau:
Mae’r Pwyllgor Archwilio yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth risg a phrosesau rheoli mewnol y Coleg, a monitro gwaith y gwasanaeth archwilio.
Mae’r Pwyllgor Cwricwlwm ac Ansawdd yn goruchwylio datblygiad y cwricwlwm, gwasanaethau dysgwyr ac yn monitro ansawdd a’r broses hunanasesiad.
Mae’r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau yn goruchwylio seilwaith y Coleg yn cynnwys Adnoddau Dynol, cyllid, technoleg a chynllunio ystadau ac yn monitro datblygiad prosiectau seilwaith sylweddol.
Mae’r Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol yn cyfarfod yn flynyddol i ystyried perfformiad, tâl ac amodau’r deiliaid swydd uwch (Pennaeth/Prif weithredwr, 2 Ddirprwy Benaethiaid a’r Swyddog Llywodraethu).
Mae’r Pwyllgor Llywodraetu ac Aelodeth yn gyfrifol am oruchwylio recriwtio Llywodraethwyr a monitro amrywiaeth a phroffil sgiliau’r Bwrdd, ynghyd â hyfforddiant a datblygiad y Llywodraethwr.#
Mae’r Cylch Gorchwyl ar gyfer pob un o’r pwyllgorau hyn ar gael yn y Rheolau Sefydlog.
Gwybodaeth Llywodraethu
Dolenni llywodraethol defnyddiol
Darganfyddwch fwy/cysylltwch â ni
Am fwy o wybodaeth ar waith y Bwrdd, i wneud cais am gopïau papurau nad ydynt yn gyfrinachol neu i fynegi diddordeb mewn dod yn Llywodraethwr, cysylltwch â’r Swyddog Llywodraethu:
Marie Carter
Pencadlys 91Ï㽶ÊÓƵ
Y Rhadyr
Brynbuga
Sir Fynwy
NP15 1XJ
E-bost: marie.carter@coleggwent.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:ÌýÌýÌýÌýÌý 01495 333519
Dylid gyrru holl ohebiaeth er sylw Cadeirydd y Llywodraeth i’r cyfeiriad yma.