91㽶Ƶ

En
Three adult learners

Wythnos Oedolion sy'n Dysgu 2020 - Cwrdd â'r Dysgwyr


24 Mehefin 2020

Dyma Catherine, Claire a James, ein Dysgwyr Hyfforddiant Personol Lefel 3 ar gampws Brynbuga, sy’n ymarfer eu meddyliau fel oedolion sy’n dysgu…

Catherine Spencer runningMae Catherine Spencer, 54 oed, erioed wedi mwynhau chwaraeon, ar ôl treulio ei harddegau yn cynrychioli Cymru mewn saethyddiaeth. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae hi wedi bod yn hyfforddi rhedwyr, ond roedd hi wastad eisiau ehangu ei dealltwriaeth o’r corff a sut i ymarfer yn effeithiol.

Pam y dewisoch chi 91㽶Ƶ?

“Bu i mi gymryd rhan mewn cyrsiau ffitrwydd ar y penwythnosau ar gampws Brynbuga, ac wedi hynny, gwyddwn y byddai’r lefel o addysgu yn arbennig, ac nid wyf wedi fy siomi. Mae’r tiwtoriaid yn gyfeillgar ac agos atoch, ac yn eich annog a’ch cefnogi. Mae’r cyfleusterau ar gyfer fy nghwrs yn wych, ac yn cynnwys campfa i weithio ynddi a digon o gyfleoedd i’w defnyddio er mwyn rhoi ein dysgu ar waith.”

Beth yw eich nodau hirdymor, a sut y credwch fydd coleg yn eich helpu i gyflawni hyn?

“Nawr, rwy’n teimlo fy mod yn gallu parhau i weithio gyda fy ngrwpiau hyfforddi gyda gwell dealltwriaeth a gwybodaeth am yr hyn rwy’n ei wneud. Yn 54 oed mae’r cymhwyster hwn wedi rhoi cyfle i mi weithio oriau hyblyg, ac rwy’n teimlo bod fy aeddfedrwydd a’m profiad o fywyd, gyfochr â fy nghymhwyster, yn golygu fy mod yn hyfforddwr ffitrwydd cydymdeimladol ac agos atoch.”

Hyd yn hyn beth yw eich llwyddiant mwyaf o ran bywyd yn y coleg?

“Fy llwyddiant mwyaf yw cael fy newis i gynrychioli’r coleg yng , a chyrraedd y rowndiau rhanbarthol a chyn-derfynol. Mae hyn yn fy ngosod ar y rhestr o’r 40 o hyfforddwyr ffitrwydd newydd, gorau yn y DU!”

A wnaethoch chi wynebu unrhyw heriau cyn mynychu coleg? Os felly, sut wnaeth y coleg eich cefnogi?

“Fel dysgwr aeddfed, roeddwn yn poeni na fyddwn yn cymysgu ag aelodau iau’r dosbarth, ond bu i arweinydd y cwrs dawelu fy meddwl, ac er mai fi yw’r hynaf yn y dosbarth, mae dysgwyr aeddfed eraill ar y cwrs hefyd, sy’n helpu.”

A oes gennych gyngor i unrhyw fyfyriwr sydd eisiau astudio eich cwrs yn 91㽶Ƶ?

“Os ydych eisiau ei ddilyn ewch amdani! Mae llawer o gymorth ar gael yn y coleg, o diwtoriaid i offer, adnoddau a chymorth ariannol. Ac mae’r cwrs ei hun yn gymysgedd gwych o astudiaeth yn y dosbarth ac elfennau ymarferol.”

Claire Gibbs at the gymMae Claire Gibbs, 40 oed, erioed wedi bod â diddordeb mewn chwaraeon a ffitrwydd, ond ar ôl cael 5 o blant, bu iddi weithio fel uwch ofalwr. Bu i Claire fwynhau corfflunio a dysgodd am ymarfer corff a maeth drwy gystadlu, a helpodd hyn iddi benderfynu dilyn gyrfa a fyddai’n helpu pobl i gyflawni eu nodau ffitrwydd.

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich cwrs?

“Roeddwn yn ansicr ynglŷn ag ymuno oherwydd fy oed ond cefais fy synnu wrth fynychu’r coleg ar y diwrnod cyntaf a chwrdd â thiwtoriaid arbennig, a gwneud amrywiaeth o ffrindiau yn fy nosbarth. Rwyf wedi mwynhau popeth: yr heriau, dysgu am faeth a hyfforddi, sesiynau ymarferol etc. Mae’r staff yn anhygoel – maent yn eich cefnogi ac yn mynd y tu hwnt i’r gofyn i sicrhau eich bod chi’n cyflawni eich nodau. Yn ogystal, astudiais gyrsiau ychwanegol i ehangu fy ngyrfa, yn cynnwys Ymarfer Corff i Gerddoriaeth, Ymarfer Camu i Gerddoriaeth, a Beicio Grŵp Dan Do. Mwynheais yn fawr, ac mae’r cyfleusterau’n wych.”

Pam y dewisoch chi 91㽶Ƶ?

“Wrth fynychu diwrnod agored gyda fy mab, dysgais y gallwn gofrestru ar gyfer y cwrs rhan-amser ar amseroedd a diwrnodau a fyddai’n gweddu i fy mywyd teuluol. Mae fy mab arall hefyd wedi astudio’r cwrs Mecaneg gyda 91㽶Ƶ, ac roedd yn hynod lwyddiannus o fewn y cwrs a’i yrfa. Nawr, fy uchelgais tymor hir yw cychwyn fy musnes hyfforddiant personol fy hun, a fy ngham nesaf yw cymhwyso mewn atgyfeirio meddygon teulu a thylino’r corff ym maes chwaraeon. Rwyf eisoes wedi cofrestru ar gyfer y cyrsiau ym mis Medi!”

A wnaethoch chi wyneb unrhyw heriau cyn mynychu 91㽶Ƶ?
“Rwy’n gofalu am fy merch awtistig, felly roeddwn yn pryderu ynghylch mynd i’r coleg a sut fyddai hynny’n gweithio o gwmpas ei danfon a’i chasglu o’r ysgol. Ond bu i’r staff fy nghefnogi drwy gydol yr amser, ac ni chefais unrhyw broblemau. Rwyf hefyd yn defnyddio cyfrifiaduron am y tro cyntaf – Rwyf wedi derbyn llawer o gymorth gyda hyn, sydd hefyd yn fy helpu i roi trefn ar fy nghynlluniau busnes.”

A oes gennych gyngor i unrhyw fyfyriwr sydd eisiau astudio eich cwrs yn 91㽶Ƶ?

“Mwynhewch eich amser yn y coleg, ac rwy’n argymell campws Brynbuga os ydych eisiau gyrfa yn y diwydiant ffitrwydd. Ewch i’r diwrnodau agored, siaradwch â staff a myfyrwyr presennol, a dysgwch bopeth am y cyrsiau rydych yn eu dewis.”

James AllenRoedd James Allen, 23 oed, yn ei drydedd flwyddyn yn y brifysgol, yn cwblhau gradd mewn cynhyrchu cyfryngau cyn iddo benderfynu dilyn ei ddiddordeb mewn ffitrwydd, ymarfer corff grŵp a hyfforddiant personol. Gwyddai fod athrawon 91㽶Ƶ yn arbenigwyr yn eu meysydd ac y byddai mewn dwylo da ar gyfer datblygu ei sgiliau a gwybodaeth newydd.

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich cwrs?
“Roeddwn i’n hoffi popeth am fy nghwrs. Gan fy mod â diddordeb mawr ynddo, roeddwn yn mwynhau pob eiliad! Yr elfennau ymarferol oedd fy hoff beth, gan fy mod yn cael cyfle i roi fy ngwybodaeth ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn o fewn ein maes arbenigedd, gan ein paratoi ar gyfer gwaith ar ôl y cwrs. Roeddwn hefyd wrth fy modd â’r gefnogaeth gan yr athrawon a myfyrwyr, a’r holl gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau.”

Sut mae coleg wedi eich helpu i gyflawni eich nodau, yn eich tyb chi?

“Cwta bythefnos ar ôl cwblhau fy asesiad ymarferol cyntaf ar gyfer Cyfarwyddyd Ffitrwydd lefel 2, roeddwn eisoes yn gweithio fel hyfforddwr llawrydd. Yna, cyn i mi gwblhau fy nghwrs hyfforddiant personol lefel 3, roeddwn yn cael fy nghyflogi fel hyfforddwr personol llawn amser gan y Celtic Manor, ac rwyf wedi sefydlu fy musnes fy hun hefyd. Rwy’n credu bod 91㽶Ƶ wedi fy ngwneud yn berson cyflogadwy tu hwnt, oherwydd y nifer o gymwysterau a ddyfarnwyd i mi o’r ddau gwrs a astudiais.”

Hyd yn hyn beth yw eich llwyddiant mwyaf o ran bywyd yn y coleg?

“Fy llwyddiant mwyaf oedd cynrychioli 91㽶Ƶ yng . Yn ail, rwyf wedi cyrraedd y rownd gyn-derfynol yng nghystadleuaeth hyfforddwr ffitrwydd , gan gynrychioli 91㽶Ƶ fel un o’r 40 o hyfforddwyr personol newydd, gorau yn y DU. Fy uchelgais yw cyrraedd y rownd derfynol ym mis Tachwedd.”

A oes gennych gyngor i unrhyw fyfyriwr sydd eisiau astudio eich cwrs yn 91㽶Ƶ?

“Mynychwch ddigwyddiadau agored er mwyn cael siarad â thiwtoriaid a fydd yn eich addysgu, o bosib. Dewch i’w hadnabod nhw, gan eu bod nhw’n arbenigwyr yn eu meysydd ac yn meddu ar gyfoeth o wybodaeth i’w rhannu â chi. Hefyd, gwrandewch yn astud, gan fod popeth yn y dosbarth yn werthfawr!”

Mae dysgu yn broses gydol oes, ac rydym yn falch o fod â chymuned arbennig o oedolion sy’n dysgu yn ein coleg yn astudio’n llawn amser, rhan-amser ac ar-lein. Ymunwch â nhw drwy ymgeisio heddiw ar gyfer cyrsiau sy’n cychwyn fis Medi!