91㽶Ƶ

En
Man working under car bonnet

Dechreuwch Bennod Newydd yn Ystod Wythnos Oedolion sy’n Dysgu


24 Medi 2021

Mae cannoedd o oedolion sy’n dysgu’n ymuno â 91㽶Ƶ i ddechrau pennod newydd bob blwyddyn. Pa un ai eu bod nhw eisiau newid gyrfa, eisiau dyrchafiad neu ddysgu crefft newydd; mae gan bob un o’n hoedolion sy’n dysgu resymau gwahanol dros ail-gydio mewn addysg. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau am ddim a chyrsiau hyblyg sy’n berffaith ar gyfer oedolion sy’n dysgu, yn ogystal ag amrywiaeth o gymorth ariannoler mwyn i chi allu astudio yn 91㽶Ƶ.

Yn ystod eleni, cawsom gwrdd â rhai o’n myfyrwyr hŷn i wrando ar eu hanes a deall pam y gwnaethant ymuno â 91㽶Ƶ fis Medi.

Enw: Cai Griffiths
Oed: 31
Cwrs: Cynnal a Chadw Cerbydau (llawn amser) a Gwneuthuriad a Weldio (rhan amser)

Kai Griffiths working on a carMae Cai wedi gweithio mewn swyddfeydd a chanolfannau galwadau ers iddo fod yn 17 oed i ennill cyflog a thalu biliau. Gwyddai nad dyma’r llwybr iawn iddo a phenderfynodd greu gyrfa newydd drwy fod yn oedolyn sy’n dysgu. Ar ôl derbyn argymhellion da am 91㽶Ƶ gan ei ffrindiau, sylweddolodd mai ail-hyfforddi yn y coleg oedd yr ateb. Mae Cai bellach yn bwriadu meithrin set sgiliau newydd a dysgu crefft i lunio gyrfa newydd iddo’i hun.

O fis Medi ymlaen, bydd Cai yn astudio cwrs Cynnal a Chadw Cerbydau i ddod yn fecanydd. Mae Cai wedi mwynhau gweithio ar ei feic modur ei hun yn y gorffennol. Fodd bynnag, nid ydyw erioed wedi cael y cyfle i weithio ar gar ac mae’n edrych ymlaen at ddysgu sgiliau newydd yn ystod ei gwrs.

“Rwyf wedi gweithio ar gerbydau yn y gorffennol, ond nid wyf erioed wedi gweithio mewn amgylchedd fel hwn, gyda gweithdai newydd sbon a cheir ac offer technegol nad wyf wedi arfer gweithio â nhw. Rwy’n edrych ymlaen at deimlo fy mod gennyf ddealltwriaeth a strwythur ar gyfer gweithio ar gerbydau a dod yn hyderus o ran fy agwedd.”

Fel oedolyn sy’n dysgu, roedd Cai yn teimlo’n fwy ymwybodol o’r amser y byddai’n ei gymryd i ail-hyfforddi a dechrau llwybr gyrfaol newydd. Ond, mae wedi sylweddoli fod mwy o botensial yn y coleg ac agwedd fwy personol gan diwtoriaid. Dysgodd na fyddai’n rhaid iddo ddechrau ar Lefel 1, oherwydd ei raddau TGAU da a’i brofiad o weithio ar ei feic modur. Yn hytrach, mae Cai wedi gallu dechrau cwrs Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Cerbydau yn syth ar Gampws Dinas Casnewydd !

“Mae’r tiwtoriaid yn treulio amser yn siarad â mi am bethau sy’n berthnasol i’m ffordd o ddysgu – fel, a ydw i’n mwynhau gwaith grŵp neu unigol. Yna, maen nhw’n addasu’r gwaith fel ei fod yn fwy addas ar fy nghyfer.”

Un pryder sydd gan nifer o oedolion sy’n dysgu, fel Cai, yw deall sut i ariannu astudiaeth lawn amser os nad ydych yn gallu gweithio gyfochr ag astudio. Dysgodd Cai bod cannoedd o gyrsiau llawn amser a rhan amser uwch ar gael am ddim yn 91㽶Ƶ, ac rydym bellach yn cynnig llawer o gefnogaeth a gwybodaeth ar gymorth ariannol hefyd. Gall eich tiwtoriaid egluro’r opsiynau all eich helpu, ac efallai y bydd ein cyrsiau rhan amser hyblyg uwch yn eich galluogi chi i weithio gyfochr â’ch astudiaethau.

Mae gan bob oedolyn sy’n dysgu reswm gwahanol dros fynd yn ôl i’r coleg. Waeth beth yw eich rheswm chi, defnyddiwch ef fel ysgogiad i ddechrau pennod newydd gyda chwrs yn 91㽶Ƶ. I ddilyn cwrs llawn amser hyblyg neu gwrs rhan amser uwch gwnewch gais – tydi hi ddim yn rhy hwyr i ymuno â ni!