23 Medi 2021
Mae’r sector Peirianneg wedi newid yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, gyda nifer o uwch arbenigedd ar gael mewn Gwaith Modurol, Chwaraeon Modur, Gweithgynhyrchu, Mecanyddol, Awyrennau a Pheirianneg Drydanol. Mae ffocws y diwydiant wedi newid. Mae amgylcheddau gweithio wedi moderneiddio er mwyn bodloni’r datblygiad tuag at faes peirianneg uwch dechnoleg yn y dyfodol. Felly, yn 91Ï㽶ÊÓƵ, rydym nawr yn canolbwyntio ar eich paratoi chi ar gyfer y dyfodol hefyd. Byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o brofiadau ymarferol yn y gweithdy, ac yn dod i ddeall y ddamcaniaeth sy’n sylfaen i’ch gwaith. Felly, fel myfyriwr peirianneg, ni fyddwch yn gaeth i ddysgu mewn ystafell ddosbarth.
Mae datblygiadau peirianyddol yn ein helpu ni i ddatrys rhai o broblemau mwyaf yr unfed ganrif ar hugain, megis y newid yn yr hinsawdd. Felly, os oes gennych ochr greadigol, meddwl gwyddonol neu fathemategol ac yn mwynhau tasgau ymarferol a datrys problemau, gall peirianneg fod yn ddewis gwych i chi allu gwneud gwahaniaeth go iawn.
Mae 91Ï㽶ÊÓƵ yn lle gwych i astudio er mwyn cael dyfodol llwyddiannus fel peiriannydd. Byddwch yn dysgu’r technegau diweddaraf ac yn cael defnyddio offer o’r radd flaenaf ar ein Campws Dinas Casnewydd, Campws Crosskeys a Pharth Dysgu Blaenau Gwent. Rydym wedi datblygu ein cwricwlwm ac wedi buddsoddi mewn cyfleusterau newydd ar ein campysau er mwyn i chi ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gael dyfodol llwyddiannus yn y diwydiant datblygol hwn.
Mae gwaith adnewyddu wedi digwydd ar Gampws Dinas Casnewydd ym mhob un o’r gweithdai ac ardaloedd newydd ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, ac mae’r cyfleusterau bellach yn olau, agored ac yn cynnig digon o le. Felly, mae ein dysgwyr Peirianneg, Modurol a Mecaneg yn gweithio mewn gweithdai modern, newydd sy’n adlewyrchu’r cerbydau a’r offer cyfoes maen nhw’n gweithio arnynt.
Yn y cyfamser, mae ein cyrsiau Modurol wedi cyflwyno cerbydau trydanol er mwyn bod ynghlwm â’r datblygiadau diweddaraf yn y sector, ac mae gennym gyrsiau diddorol newydd yn yr arfaeth. Byddwn yn cyflwyno rhaglenni rhan-amser mewn roboteg a  chyrsiau byr ar archwilio, profi a gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydanol. Mae’r meysydd newydd hyn yn rhoi cyfle i chi hyfforddi ar gyfer gyrfa fydd yn boblogaidd yn y dyfodol!
Os ydych yn astudio ein cyrsiau Modurol, byddwch yn gweithio ar Tesla Model 3 newydd, VW E Golf, 2 Nissan Leafs, BMW I3, a Fan Trydanol Nissan Light, ac yn meithrin sgiliau i weithio ar gerbydau trydanol y dyfodol. Mae gennym hefyd yr holl offer a’r feddalwedd diagnostig hanfodol sy’n gysylltiedig â cherbydau trydanol, cyfarpar ‘Snap-On’ newydd i godi cerbydau, turniau a pheiriannau melino newydd yn cynnwys peiriant echel CNC 5,  efelychwr adeiladu newydd ac amrywiaeth o rigiau peirianneg a phecynnau arbenigol.
Mae hyn yn golygu bod pob un o’n dysgwyr Modurol, Chwaraeon Modurol a Pheirianneg Drydanol yn cael profiad o ddefnyddio’r offer diweddaraf fel rhan o’u hyfforddiant. Mae ein hystod arbennig o gyfleusterau newydd yn cyd-fynd â’n cwricwlwm cyfredol mewn technoleg deunyddiau, yn cynnwys cyfansoddion ffibr carbon, chwaraeon modurol, gweithgynhyrchu a chyfleusterau awyrengol mewn cerbydau trydan. Felly, drwy fanteisio ar yr offer newydd yn 91Ï㽶ÊÓƵ, byddwch ar ben ffordd i greu dyfodol disglair ym maes peirianneg.
Ar ôl clywed am drawsnewidiad yr adran Beirianneg a Modurol ar Gampws Dinas Casnewydd, daeth John Griffiths, Aelod o’r Senedd, i ymweld â’r adran yn ystod mis Medi i gael gweld y cyfleusterau newydd sydd ar gael i ddysgwyr. Mae ganddo ddiddordeb brwd mewn cerbydau trydanol a lleihau allyriadau carbon, a dywedodd;
“Mae 91Ï㽶ÊÓƵ wedi cydnabod y math o sgiliau gwyrdd y bydd eu hangen o fewn ein heconomïau lleol a chenedlaethol yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac mae’r coleg wedi ymateb yn rhagweithiol o ran darparu eu haddysg beirianneg, sy’n cynnwys cyrsiau modurol a cherbydau trydan. Dim ond trwy fuddsoddi mewn technolegau glanach a mwy gwyrdd y byddwn yn lleihau ein hallyriadau carbon, ac rwy’n falch o weld hyn yn digwydd yng Nghasnewydd. Mae’n braf iawn gweld y myfyrwyr yn 91Ï㽶ÊÓƵ yn cymryd rhan yn y math hwn o waith ac addysg gyffrous. Bydd y sgiliau maent yn eu datblygu ar y cyrsiau hyn yn hanfodol ar gyfer y camau nesaf y byddant yn eu cymryd a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.â€
Fel coleg addysg bellach, rydym yn benderfynol o chwarae rôl allweddol yn y gwaith o Uwchsgilio gweithlu’r dyfodol, helpu i greu byd di-garbon ac ymdrin â phroblemau’r ganrif hon yn uniongyrchol gydag arbenigedd mewn peirianneg. Felly, dewch i ddilyn cwrs ymarferol yn 91Ï㽶ÊÓƵ i ddatblygu dyfodol y diwydiant peirianneg gyda thechnoleg lanach a mwy gwyrdd. Dysgwch fwy am ein cyrsiau Peirianneg a Modurol, a gwnewch gais heddiw!