19 Chwefror 2019
Campws Dinas Casnewydd yn 91Ï㽶ÊÓƵ yw’r sefydliad addysgol cyntaf yng Nghymru i gael campws ‘Demetia-Gyfeillgar’.
Mae’r anrhydedd a roddir i gampws Dinas Casnewydd yn goleuo’r ffordd ar gyfer ehangu sesiynau ymwybyddiaeth eto yn y rhanbarth, a redir gan Gyfeillion Dementia.
Nod Cyfeillion Dementia – a gydlynir gan Gymdeithas Alzheimer – yw creu ymwybyddiaeth o’r amod i roi’r ddealltwriaeth a’r sicrwydd i gyflogeion, gofalwyr a’r gymdeithas yn gyffredinol i ymdrin â rhywun sy’n cael eu heffeithio gan ddementia.
Mae’r cynllun wedi’i fabwysiadu gan amrywiaeth o gyfleusterau cyhoeddus yn ninas Casnewydd, ac o’i chwmpas yn gysylltiedig â Chyngor Dinas Casnewydd, gyda’r brif nod o wneud y ddinas ei hun yn ‘Ddementia-Gyfeillgar’.
“Rwy’n hynod falch”
Dywedodd Gary Handley, Cyfarwyddwr Campws Dinas Casnewydd 91Ï㽶ÊÓƵ: “Rwy’n hynod falch mai campws Dinas Casnewydd 91Ï㽶ÊÓƵ yw’r cyntaf yng Nghymru i gael statws Dementia-Gyfeillgar. Drwy hyrwyddo ymwybyddiaeth dementia ymysg myfyrwyr, staff a’n partneriaid cymuned, rydym wedi gwneud camau gwych yn lleihau’r stigma sydd ynghlwm â dementia.
“Ni fyddai ennill y dyfarniad hwn wedi bod yn bosibl heb ymroddiad ac arbenigedd yn y coleg ac yn arbennig Alice Butler-Bright o’r adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ond hefyd gweithwyr proffesiynol gofal a lles di-rif yn ardal ehangach Casnewydd. Mae Cyfeillion Dementia yn fenter wych ac rwy’n sicr y bydd gwybodaeth a dealltwriaeth o’r afiechyd yn parhau i ddatblygu’n ddirfawr gydag ymroddiad Cyngor Dinas Casnewydd i ddod yn ddinas Dementia-Gyfeillgar.”
Yn ogystal, canmolodd Mr Handley waith y gymuned gyfan, gan roi clod i ymroddiad yr awdurdod lleol yn gwella lefelau dealltwriaeth.
Ynghylch Cyfeillion Dementia
Mae Cyfeillion Dementia wedi’i hyrwyddo yng Nghasnewydd gan Bluebird Care, darparwr gofal ar draws y DU. Dyweda Cyfarwyddwr y sefydliad yng Ngwent, Ray Morrison, nad oes rhaid i ryngweithio gyda phobl sy’n dioddef o ddementia a chynnig cymorth fod yn brofiad dychrynllyd ac mae mesurau syml i sicrhau bod pobl sydd â dementia yn teimlo’n ddiogel yn y gymuned.
Fel Hyrwyddwr Cyfeillion Dementia, mae Mr Morrison yn cynnal sesiynau ymwybyddiaeth mewn amrywiaeth eang o sefydliadau cyhoeddus a phreifat ac mae’r nifer o bobl sy’n ymgymryd â’r sesiynau yn cynyddu.
“Mae’r diddordeb yn y prosiect wedi bod yn eang iawn ac mae hynny’n wych, gan fod Dementia o’n cwmpas ym mhob man. Rwyf wedi gweithio gyda’r Swyddfa Eiddo Deallusol, Wales and West Utilities, Cymdeithas Adeiladu’r Sir Fynwy a’r gwasanaeth tân. Rwyf hefyd wedi gweithio gyda Bwrdd Iechyd Aneirin Bevan i helpu i gynnig hyfforddiant i’w gofalwyr newydd”, ychwanegodd Ray.
Nod allweddol y prosiect yw cynyddu proffil rheolaeth dementia a chefnogi’r agenda gwleidyddol, a arweinir gan waith gyda Choleg Gwent gyda chanlyniadau dysgu yna’n cael eu hehangu trwy’r gymuned.
Cefnogaeth AC Lleol
Gan ganmol ymdrechion 91Ï㽶ÊÓƵ, ychwanegodd Jane Bryant AC dros Orllewin Casnewydd: “Roedd gan fy Nain dementia, felly rydw i’n bersonol yn sylweddoli pa mor bwysig yw’r anrhydedd hon a hyfforddiant Cyfeillion Dementia. Mae’n hynod bwysig bod pobl yn dysgu am ddementia yn ifanc oherwydd yn anffodus, daw amser yn eu bywydau nhw pan gânt beth brofiad ohono os nad ydynt wedi cael profiad eisoes.”