91Ï㽶ÊÓƵ

En
91Ï㽶ÊÓƵ stafff celebrate LGBTQ history month

Staff 91Ï㽶ÊÓƵ yn dathlu mis hanes LHDTQ!


28 Chwefror 2020

Ymunodd staff 91Ï㽶ÊÓƵ mewn cyfarfod anffurfiol ddoe i ddangos eu cefnogaeth i fis hanes LGBTQ+.  Dyma’r tro cyntaf i’r staff brofi digwyddiad o’r fath yn y Coleg, a chroesawodd Arwel Rees-Taylor, Cadeirydd Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, ei gydweithwyr gyda’i deisennau cartref ei hun.

Dywedodd Arwel:

“Roedd yn wych gweld cydweithwyr yn cefnogi amrywiaeth yn 91Ï㽶ÊÓƵ.  Rydym yn gobeithio gweld y digwyddiad yn cael ei gynnwys yn rheolaidd yn y calendr, ac rydym eisiau cynnal digwyddiadau cyffelyb ar bob campws”.

Yma yn 91Ï㽶ÊÓƵ, rydym yn falch iawn o’n hagwedd a chymuned flaengar, lle mae ein dysgwyr a staff yn gallu derbyn pwy ydyn nhw, a byw’n rhydd heb ofn. ‘Parch at Bawb’ yw un o brif werthoedd 91Ï㽶ÊÓƵ, ac mae’n bwysig i ni fod pawb yng nghymuned y coleg yn cael eu cynnwys, parchu, cefnogi a’u clywed. Wrth symud ymlaen, byddwn yn sefydlu grŵp staff LGBTQ+ a fydd yn edrych ar arwain materion LGBTQ+ yn y Coleg, er budd enfawr i staff a dysgwyr. Byddwch yn barod am ragor o ddatblygiadau…!