8 Rhagfyr 2022
Cafodd o sefydliadau’r Deyrnas Unedig eu heffeithio gan ymosodiad seiber llwyddiannus yn 2021/2022!
Boed yn we-rwydo, yn feddalwedd wystlo, yn sbam neu’n faleiswedd; mae seiberddiogelwch yn ddiwydiant mawr. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae’r galw am arbenigwyr seiber yn y DU wedi . Felly, mae ein cyrsiau wastad yn addasu i gynnig y cyfleoedd a’r profiadau gorau i chi er mwyn llwyddo yn y sector hwn.
Mae ein rhaglen Cyber College Cymru yn rhoi dyfarniad cyfwerth â thair Lefel A i chi, a hynny wrth i chi fagu sgiliau a dealltwriaeth arbenigol drwy weithio gyda chyflogwyr blaenllaw’r diwydiant. Drwy gyfres o weithgareddau, cystadlaethau a digwyddiadau i gyfoethogi’ch dysg, fel Cynhadledd JISC a’r Her Cartrefi Clyfar, byddwch yn y sefyllfa orau i ddechrau ar eich gyrfa.
Cynhaliwyd eleni fis Tachwedd yng yng Nghasnewydd. Gwahoddwyd 91Ï㽶ÊÓƵ fel prif lefarwr ac yn rhan o’r panel myfyrwyr. Gan ganolbwyntio ar bynciau llosg y maes amddiffyn seiber, ymchwiliodd y gynhadledd bolisïau dim ymddiriedaeth, gwytnwch seiber, amgylcheddau aml-gwmwl, a rhannwyd awgrymiadau i oresgyn seiberdrosedd hefyd.
Yn ystod y gynhadledd, cyflwynodd ein tîm o arbenigwyr TGCh brif sesiwn ynghylch sut mae’r coleg yn mynd ati i roi isadeiledd TG a pholisïau dan brawf gan ddefnyddio digwyddiadau wedi’u hefelychu a thîm ymateb i ddigwyddiadau. Yn y cyfamser, bu pedwar dysgwr o’n rhaglen Cyber College Cymru ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent yn rhan o’r panel myfyrwyr yn trafod addysgu’r genhedlaeth nesaf o ddoniau diogelwch. Ochr yn ochr â’u tiwtor, Mike Aubrey, aethant ati i ateb cwestiynau ynghylch eu gwaith drwy beth yw gwobr Aur CyberFirst, pam eu bod yn awyddus am yrfaoedd yn y diwydiant seiber, a’r heriau maent wedi’u hwynebu.
Bu’n ddigwyddiad llwyddiannus tu hwnt ac yn gyfle i fyfyrwyr rwydweithio gyda rhai o brif arbenigwyr y diwydiant seiberddiogelwch, yn ogystal ag yn gyfle i’r diwydiant ddysgu amdanynt hwythau a rhaglen Cyber College Cymru hefyd. Gyda diolch i’r gynhadledd, rydym wedi magu cysylltiadau cryfach gyda’r trefnwyr, JISC, a gobeithiwn ddychwelyd yn y dyfodol.
Mae ein dysgwyr Cyber College Cymru wedi cyflawni rhagor o lwyddiant fel rhan o’u her Menter a Chyflogadwyedd Bagloriaeth Cymru, a hynny drwy gymryd rhan mewn tri thîm yn Her Cartrefi Clyfar 2022.
Mae’r prosiect cartrefi clyfar yn her i bob coleg partner sy’n rhan o rwydwaith Cyber College Cymru, a ddaeth i benllanw mewn cynhadledd fer, cyflwyniad o syniadau, a digwyddiad gwobrwyo fis Hydref. Gosodwyd her ar dimau o bob coleg i feddwl am ddatrysiad arloesol yn defnyddio technoleg ddigidol neu systemau monitro i gefnogi preswylwyr neu boblogaethau penodol, megis yr henoed, y bregus, neu’r rheini sy’n denantiaid am y tro cyntaf, i fyw’n annibynnol a defnyddio nodweddion clyfar eu cartrefi. Roedd modd canolbwyntio ar effeithiolrwydd ynni, byw’n annibynnol, neu ddefnyddio technolegau newydd, ac roedd yr her yn annog dysgwyr i feddwl am heriau a datrysiadau sydd â’r potensial i’w rhoi dan brawf yn y byd go iawn.
Yn ystod y prosiect, gallai timau gydweithio â phartner yn y diwydiant neu wneud y prosiect yn fewnol yn eu coleg. Bu’n gyfle gwych i’r myfyrwyr roi damcaniaeth ar waith mewn sefyllfa wedi’i hefelychu, a chyda gwobr ariannol gwerth £7,000 ar gael, gallai’r tîm buddugol roi’r arian tuag at eu maes pwnc yn y coleg neu ddefnyddio’r arian i ddatblygu eu syniad i’r cam nesaf.
Llwyddodd ein dysgwyr Cyber College Cymru i gyflwyno tri chais eleni, ac rydym yn hynod falch o gyhoeddi eu bod wedi ennill y wobr ariannol i gyd. Nawr, maent wedi’u gwahodd i seremoni gyflwyno ym .
Llongyfarchiadau i’r tri thîm buddugol o 91Ï㽶ÊÓƵ:
Tîm 1 – Dyfarnwyd â £1,000:
Tîm 2 – Dyfarnwyd â £1,000:
Tîm 3 – Dyfarnwyd â £5,000:
Paratowch am yrfa allweddol ar gyfer y dyfodol ac ymunwch â’r frwydr yn erbyn seiberdrosedd – porwch ein cyrsiau seiberddiogelwch ymarferol nawr!