91Ï㽶ÊÓƵ

En
Deaf awareness week - meet Kristi Jones

Tiwtor 91Ï㽶ÊÓƵ yn dysgu iaith arwyddion i gefnogi myfyriwr hÅ·n


2 Mai 2023

Wythnos hon, mae hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth Byddardod, cyfle i hybu mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r heriau sy'n wynebu pobl fyddar.

Yn 91Ï㽶ÊÓƵ, mae ymdeimlad go iawn o berthyn ar gyfer unigolion sy’n fyddar a, bob dydd, rydym yn gweithio’n galed i geisio creu amgylchedd dysgu mwy amrywiol a chynhwysol i bawb.

Mae’r Coleg wedi cymryd camau sylweddol i gefnogi dysgwyr byddar trwy dîm ymroddedig o weithwyr proffesiynol ym maes dysgu ychwanegol sy’n darparu gwasanaethau cymorth unigol i fyfyrwyr ac aelodau staff sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys Cynorthwywyr Cymorth Ychwanegol (ASA), darparu gweithwyr cymorth cyfathrebu a hyfforddiant ymwybyddiaeth byddardod i aelodau staff. Ar ben hynny, mae’r Coleg wedi ymdrechu i godi ymwybyddiaeth am ddiwylliant ac iaith y gymuned fyddar sydd wedi’i harwain gan aelodau o Glwb Byddar y Coleg.

Dyma Kristi

Mae Kristi Jones yn diwtor ag arbenigedd mewn Therapi Harddwch sydd wedi gweithio yn y Coleg ers pum mlynedd. Ym mis Medi 2022, penderfynodd Hannah Carey, 32, o Frynmawr, ddychwelyd i’r coleg fel myfyriwr hÅ·n a chofrestrodd ar gwrs rhan-amser Lefel 3 mewn Technoleg Ewinedd a addysgir gan Kristi ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent 91Ï㽶ÊÓƵ. Mae Hannah wedi bod yn fyddar ers iddi gael ei geni ac mae’n defnyddio BSL i gyfathrebu â’i ffrindiau, ei theulu, a’i mab a fydd yn troi’n 10 oed ym mis Mehefin.

Roedd Kristi yn gwybod pa mor bwysig oedd sicrhau bod gan Hannah fynediad cydradd at gynnwys y cwrs a sicrhau ei bod hi’n gallu cyfathrebu â hi yn effeithiol, felly penderfynodd ddysgu BSL.

“Roeddwn i’n ymwybodol o’r cymorth ychwanegol y byddai ei angen ar Hannah cyn iddi ymuno â’r cwrs a chefais sgyrsiau dwys gyda’i mam ynghylch colli clyw dwys a’r cymorth y gallwn ni ei gynnig iddi yn y Coleg. Penderfynwyd mai’r ffordd orau o weithio fyddai darparu Gweithiwr Cymorth Cyfathrebu (CSW) i Hannah a fyddai’n ei chefnogi hi yn ystod y dosbarthiadau trwy gyfieithu cynnwys y wers i BSL.

“Roeddwn yn hollol gyfforddus o ran y cymorth roeddem yn gallu ei roi i Hannah i sicrhau y byddai hi’n llwyddo ar y cwrs ond roeddwn i am sicrhau ei bod hi wedi’i chynnwys yn llawn yn y profiad dysgu. Pan fod gennych chi ddysgwr ag anghenion ychwanegol, dylech chi allu addasu eich addysgu. Dechreuais drwy ofyn i Hannah a Joa addysgu ychydig o ymadroddion a geiriau i mi a fyddai o gymorth iddi yn y dosbarth ac mae wedi tyfu ers hynny.

“Rwyf wedi parhau i ddatblygu fy sgiliau a gallaf weld yr effaith gadarnhaol mae’n ei gael ar Hannah; mae hi wedi bod yn cymryd rhan yn fwy yn y dosbarth ac mae’n fwy cyfforddus yn gofyn cwestiynau sy’n golygu ei bod yn cael ei chynnwys yn rhan o’r trafodaethau yn yr ystafell ddosbarth.

“Erbyn hyn, rwyf wedi creu cronfa o dermau ac ymadroddion defnyddiol a theimlaf fod Hannah yn wirioneddol wedi’i chefnogi. Mae hi hyd yn oed wedi dweud wrthyf fy mod yn gyfathrebwr da.

“Bellach, rwyf yn y broses o bontio Hannah er mwyn iddi gael y cymorth y bydd ei angen arni pan fydd yn symud ymlaen i’n cwrs Lefel 3 mewn Effeithiau Arbennig Theatraidd, Gwallt a Cholur y Cyfryngau. Ni allaf aros i weld yr hyn y bydd hi’n ei gyflawni.â€

 

Dyma Hannah

Hannah, beauty student

Dywedodd Hannah:

“Ces i fy ngeni’n fyddar felly dydw i ddim yn gwybod unrhyw beth arall. Ces i fy magu yn y ffordd fyddar gan wisgo cymhorthion clyw a dysgu BSL. Yn ddiweddar, cefais fewnblaniad yn y cochlea sydd o gymorth ar gyfer synau cyffredinol.

“Meddyliais y byddai mynd yn ôl i’r coleg fel dysgwr hÅ·n yn heriol ond, trwy weithio gyda Joa, rwyf yn wir wedi cael fy nghefnogi. Nawr bod Kristi hefyd wedi dechrau dysgu iaith arwyddion, gallaf ddeall cynnwys y cwrs yn llawer mwy clir a gallaf gymryd rhan yn y gwaith grŵp sydd wedi bod o gymorth mawr ar gyfer fy nghynnydd. Gobeithiaf symud ymlaen i’r cwrs Lefel 3 mewn Effeithiau Arbennig Theatraidd, Gwallt a Cholur y Cyfryngau ar gampws Crosskeys 91Ï㽶ÊÓƵ ac, yn y dyfodol, hoffwn addysgu coluro.

“Os oes pobl fyddar eraill sy’n profi anawsterau neu sy’n meddwl a yw’r coleg yn addas ar eu cyfer nhw, byddwn i’n eu hannog i fynd amdani. Cymerwch ran, cadwch yn bositif ac, os galla i ei wneud, gall unrhyw un!â€

Am ragor o wybodaeth ynghylch y cymorth a gynigir yn 91Ï㽶ÊÓƵ, ewch i: www.coleggwent.ac.uk/cy/support/learning, e-bostiwch helo@coleggwent.ac.uk neu ffoniwch 01495 333777.