21 Hydref 2024
Yn ystod ymweliad â champws Crosskeys 91㽶Ƶ, cafodd yr Aelod o’r Senedd, Delyth Jewell, gyfle i gwrdd â dysgwyr sy’n elwa o ddarpariaeth ddwyieithog newydd sydd wedi ei gefnogi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae’r ddarpariaeth newydd yn y meysydd Iechyd a Gofal, Gofal Plant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Busnes a Diwydiannau Creadigol.
Yn ystod yr ymweliad fe wnaeth Delyth Jewell AS gwrdd â Sorrell Butler, 18 oed sy’n dilyn cwrs Theatr Gerddorol lefel 3 yng Ngholeg Gwent. Mae Sorrell hefyd wedi ei dewis i fod yn un o lysgenhadon y Coleg Cymraeg.
Meddai: “Dwi wedi bod yn siarad Cymraeg ers i mi ddechrau yn yr ysgol leol fel merch fach, a roeddwn am barhau gyda hynny yn y coleg. Mae’r iaith wedi bod yn llawer o help i mi i fynegi fy hun mewn ffyrdd creadigol trwy ganu yn y coleg, ac rwy’n falch iawn o’r cyfleoedd hynny. Teimlaf yn hapus iawn i fod yn llysgennad y Coleg Cymraeg yng Ngholeg Gwent er mwyn rhannu’r cyfleoedd yma gyda phobl ifanc eraill yn y coleg.”
Wrth gwrdd â’r dysgwyr meddai Delyth Jewell AS: “Roedd yn bleser imi weld y gwaith gwych sy’n mynd ymlaen i hybu’r iaith yn y Coleg.
“Mae’r Gymraeg yn perthyn inni gyd, ac mae gwaith y llysgenhadon ieuenctid mor bwysig i normaleiddio’r iaith ymysg y myfyrwyr, tra mae hefyd wedi bod yn bositif i weld y cynnydd yn y deunyddiau Cymraeg sydd ar gael (a’r cynnydd hefyd yn y nifer o fyfyrwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg. Llongyfarchiadau.”
Yn ôl data diweddar 91㽶Ƶ, mae 52% o’u dysgwyr sy’n siaradwyr Cymraeg yn cwblhau rhan o’u hastudiaethau yn ddwyieithog yng Ngholeg Gwent, o gymharu â dim ond 7% saith mlynedd yn ôl.
Yn ystod yr amser yma mae 91㽶Ƶ hefyd wedi manteisio ar raglenni datblygu staff a ariennir gan y Coleg Cymraeg, er enghraifft, sef cynllun i ddatblygu sgiliau Cymraeg staff mewn colegau addysg bellach, cynllun Llysgenhadon y Coleg Cymraeg, a hefyd wedi gwneud defnydd o’r adnoddau a gomisiynwyd gan y Coleg .
Yn ôl Arwel Rees-Taylor, Rheolwr Datblygu Dwyieithrwydd 91㽶Ƶ:“Rydw i wrth fy modd yn croesawu Delyth Jewell AS i’r coleg, ynghyd â’n partneriaid o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd wedi rhoi arweinyddiaeth strategol a chyllidol sy’n ein galluogi i gynnig yr hyn rydym bob amser wedi ei dymuno.
“Mae effaith y buddsoddiad yn amlwg yn nifer y dysgwyr sy’n cwblhau elfennau sylweddol o’u prif gyrsiau yn ddwyieithog erbyn hyn. Mae hyn yn golygu bod llawer mwy o ddysgwyr yn gallu defnyddio ac yn gwerthfawrogi eu sgiliau Cymraeg yng nghyd-destun eu meysydd astudio, a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.
“Mae wedi bod yn daith eithriadol, ond mae’r gwaith yn parhau hyd nes y cawn yr un effaith ar draws yr holl feysydd.”
Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg:“Mae’r Llywodraeth wedi adnabod twf mewn sgiliau dwyieithog ar draws y sector gyhoeddus fel blaenoriaeth, yn enwedig yn y prif feysydd dan sylw ac felly mae sicrhau bod modd dilyn cyrsiau galwedigaethol yn ddwyieithog yn hollbwysig.
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, ac mae’r Coleg Cymraeg yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda’r colegau addysg bellach, a’r Llywodraeth, i gyflawni ein gweledigaeth hirdymor bod darpariaeth Gymraeg a dwyieithog ar gael i bawb sy’n astudio a hyfforddi yng Nghymru, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg.”