91香蕉视频

En

Adroddiad ardderchog gan Estyn ar Bartneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf


23 Ebrill 2024

Cafodd Partneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf, a arweinir gan 91香蕉视频, ei chanmol yn arw yn dilyn adolygiad a gynhaliwyd gan Estyn, sef arolygiaeth addysg Cymru. Mae’r adroddiad yn amlygu effaith drawsnewidiol gwaith y bartneriaeth ar ddysgwyr a chymunedau fel ei gilydd.

Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf yn gydweithrediad sefydledig sydd yn cynnwys pum darparwr craidd awdurdodol lleol, (Aneurin Leisure (Blaenau Gwent), Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen) gyda鈥檙 coleg yn ymgymryd 芒 r么l arweinyddiaeth strategol. Mae’r bartneriaeth yn cynnig ystod o gyrsiau a chlybiau teilwredig i ddiwallu anghenion amrywiol ei chymunedau, gan gynnwys sgiliau hanfodol, sgiliau byw’n annibynnol, Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill (SSIE), TGCh, cyflogadwyedd a chyrsiau hamdden a llesiant.听

Yn ystod y broses arolygu, mae arolygwyr Estyn yn arolygu pob agwedd ar weithrediadau’r bartneriaeth, yn ogystal 芒 chyfarfod 芒 rhanddeiliaid allweddol sydd yn cynnwys cadeirydd y bartneriaeth, yr uwch arweinwyr, tiwtoriaid ac, yn bwysicaf oll, y dysgwyr.听

Trwy ymweld 芒 sesiynau, arsylwi ar ryngweithiadau ac adolygu dogfennaeth, enillodd yr arolygwyr ddealltwriaeth gyflawn o gryfderau’r bartneriaeth a’r meysydd y gellir eu datblygu.

Uchafbwyntiau allweddol yr adroddiad oedd:

Ymrwymiad i rymuso dysgwyr听

Un o nodweddion amlwg y bartneriaeth a amlygwyd yn yr adroddiad yw ei hymrwymiad i rymuso dysgwyr. Soniodd dysgwyr yn angerddol am effaith gadarnhaol y bartneriaeth ar eu bywydau, gan ddweud y byddent 鈥渁r goll heb y ganolfan鈥 sydd wedi dod yn rhaff achub ar 么l amgylchiadau bywyd heriol. Mae dysgwyr mewn dosbarthiadau sgiliau digidol yn arbennig o werthfawrogol o ddysgu am seiberddiogelwch ac maent yn gwerthfawrogi dysgu am sut i gadw eu hunain yn ddiogel wrth bori, bancio a siopa ar-lein.听

Profiad dysgu sydd yn gynhwysol ac yn gefnogol听听

Mae adroddiad Estyn yn canmol ymroddiad y tiwtoriaid i feithrin amgylcheddau dysgu cynhwysol lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i gefnogi. Datganodd yr adroddiad bod tiwtoriaid 鈥測n creu amgylcheddau cynnes a chroesawgar y mae dysgwyr yn teimlo鈥檔 gyfforddus yn eu cyrchu.鈥澨

Nodir bod y bartneriaeth yn hyblyg ac yn ymatebol, sydd yn cyflwyno rhaglenni ar amseroedd ac mewn lleoliadau sydd yn gweddu i anghenion dysgwyr, gyda chynlluniau sydd wedi’u strwythuro’n dda ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae tiwtoriaid yn gweithio gyda dysgwyr i greu targedau ystyrlon megis: 鈥淩ydw i鈥檔 gwneud hyn i gyflawni fy nod hirdymor o ddod yn fydwraig鈥 neu 鈥淩ydw i鈥檔 cefnogi fy mab i gyflawni TGAU mathemateg.鈥 Roedd pwyslais y bartneriaeth ar iechyd a llesiant meddyliol hefyd wedi atseinio’n ddwfn gyda鈥檙 arolygwyr a nododd y manteision diriaethol a brofir gan ddysgwyr. Er mwyn cefnogi iechyd meddwl dysgwyr, llwyddodd 17 tiwtor ar draws y bartneriaeth i gyflawni鈥檙 cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Achrededig L2, ac aeth saith o’r rhain ymlaen i Ddyfarniad L3 mewn Goruchwylio/Arwain Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl. Fe wnaeth y cyrsiau hyn alluogi staff i ennill gwell ddealltwriaeth o gyflyrau iechyd meddwl ac i gyfeirio dysgwyr at sefydliadau priodol.

Meddai un dysgwr: 鈥淔yddwn i ddim yn gallu ymdopi heb y gefnogaeth hon鈥 ac 鈥淢ae mor bwysig gan mai dyma鈥檙 unig ddiwrnod o鈥檙 wythnos pan rydyn ni鈥檔 gwybod lle rydyn ni.鈥

Diwylliant o welliant parhaus听

Bu adroddiad Estyn hefyd yn canmol prosesau hunan-werthuso cadarn a chynlluniau gwella ansawdd y bartneriaeth. Trwy ddadansoddi data asesu dysgwyr yn ofalus, monitro cynnydd, a gofyn am adborth, mae’r bartneriaeth yn sicrhau bod ei rhaglenni’n parhau i fod yn berthnasol i anghenion newidiol. Mae’r gweithgareddau arsylwi hefyd yn cefnogi’r bartneriaeth gyda monitro ansawdd y ddarpariaeth, nodi arferion da a datblygu’r aelodau o staff y mae angen cymorth arnynt. Yn olaf, adlewyrchir yr ymrwymiad i welliant parhaus yn y canlyniadau cadarnhaol a gyflawnir gan ddysgwyr ar draws ystod eang o raglenni.

Wrth i ni ddathlu cyflawniadau Partneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf a amlygwyd yn adroddiad Estyn, cydnabyddwn waith caled ac ymroddiad pawb sydd yn ymwneud 芒’r bartneriaeth.

Yn 91香蕉视频, rydym ni ar y trywydd i adeiladu ar y llwyddiannau a byddwn yn parhau i helpu i wneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau dysgwyr a chymunedau ledled Gwent Fwyaf.

Dysgwch ragor am y cyrsiau sydd ar gael yn eich cymuned.