91Ï㽶ÊÓƵ

En

Llongyfarchiadau i’r dysgwyr hynny sydd wedi cael eu canlyniadau TGAU a BTEC Lefel 2 heddiw!


22 Awst 2024

Dosbarth 2024 yn cael diwrnod canlyniadau TGAU llwyddiannus

Yma yn 91Ï㽶ÊÓƵ, rydyn ni’n dathlu cyfraddau llwyddo gwych dosbarth 2024. Eleni, rydyn ni weld gweld cyfradd lwyddo o 90.8% ar gyfer Mathemateg TGAU, a chyfradd lwyddo ragorol o 97.4% ar gyfer Saesneg TGAU.

Da iawn i’r holl ddysgwyr sydd wedi gweithio’n galed iawn i lwyddo a chyflawni eu graddau.

Yn 91Ï㽶ÊÓƵ, mae gan ddysgwyr gyfle i ailsefyll eu harholiadau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg wrth astudio ar gyrsiau academaidd neu alwedigaethol ar lefel uwch. Mae llawer o resymau pam bod pobl yn dewis gwneud hyn megis heb ennill y canlyniadau roedden nhw eu heisiau y tro cyntaf, dymuno uwch-sgilio, ehangu opsiynau gyrfa neu gynyddu eu siawns o gael lle yn y brifysgol. Beth bynnag yw’ch rhesymau a’ch amcanion, gall 91Ï㽶ÊÓƵ eich helpu chi i gyrraedd eich nod.

Dywedodd Mark Harding, Cyfarwyddwr Cyswllt Dysgu a Sgiliau Gydol Oes: “Mae ein dysgwyr wedi dangos ymroddiad rhyfeddol ac mae llawer ohonynt wedi ennill graddau da ar draws Saesneg a Mathemateg. Mae gwaith caled ein dysgwyr, ynghyd â chymorth diwyro ein staff addysgu ymroddedig, wedi siarad cyfrolau. Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi profi llwyddiant heddiw a dymunaf ddymuniadau da ar gyfer y dyfodol i bob un ohonynt.â€

Llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr sydd wedi gweithio’n galed i fodloni eu nodau a gwireddu eu breuddwydion.

Dyma rai o’n storïau llwyddiant:

Daisy-Mae Goreing 

Campws: Parth Dysgu Blaenau Gwent

Graddau: B – Saesneg

“Yn yr ysgol uwchradd roeddwn yn cael trafferth â Saesneg, ac o ganlyniad i hyn, gwnes i gyflawni gradd D yn Saesneg Iaith yn fy arholiadau ym mlwyddyn 11. Gallwn i fod wedi dewis peidio ag astudio Saesneg yn y coleg a chadw gyda’r radd a gefais, ond roeddwn i’n gwybod bod gen i’r potensial i anelu’n uwch a chyflawni gradd well. Y prif gyngor byddwn i’n cynnig i fyfyrwyr sy’n astudio TGAU Mathemateg neu Saesneg yw mynd amdani, bydd y flwyddyn yn hedfan heibio a chyn belled ag y byddwch chi’n gweithio’n galed, byddwch yn falch ynddoch chi’ch hun a bydd popeth yn werth chweil.

Osian Townsend Jones 

Campws: Dinas Casnewydd

Graddau: B – Saesneg. A* – Mathemateg.

“Mae’r graddau a gefais tra’n astudio wedi bod yn gyflawniad ardderchog i mi, a gwnes i rai ffrindiau gwych dros y flwyddyn roeddwn i yma. Mae’n anodd ystyried fy mod wedi cyflawni cymaint mewn blwyddyn yn unig, gan fy mod wedi gwneud cymaint o gynnydd yn academaidd.”

Amy Leigh Engstrom 

Campws: Parth Dysgu Blaenau Gwent

Graddau: C – Mathemateg.

“Rwy’n cynllunio i astudio ar gyfer gradd yn y Gyfraith yn y brifysgol ar ôl cael fy niploma estynedig eleni. Tra’n astudio TGAU yn 91Ï㽶ÊÓƵ, dysgais dechnegau a methodolegau gwerthfawr sy’n gweithio’n dda imi ac rwy’n hyderus wrth roi nhw ar waith. Mae’r sgiliau a methodolegau hyn yn gallu cael eu trosglwyddo i bynciau y bydda i’n eu hastudio yn y dyfodol, gan eu gwneud nhw’n werthfawr tuag at fy nghynnydd academaidd.”

Matilda Sefton

Campws: Parth Dysgu Torfaen

Graddau: C – Saesneg

“Mae fy nghanlyniadau wedi fy ngwneud yn hynod hapus â fy mhenderfyniad i ddod i 91Ï㽶ÊÓƵ eleni. Rwy’n gobeithio gorffen Lefelau 2 a 3 â llwyddiant ysgubol ac ennill gyrfa yn y maes Therapi Celfyddydol. Ynghyd ag ail-eistedd fy TGAU, mae fy angerdd wedi tyfi’n fwyfwy gyda’r technegau rydw wedi’u dysgu.”

Callum Wetten 

Campws: Crosskeys

Graddau: A – Saesneg

“Ar ôl eleni, fy mwriad yw dilyn cwrs mynediad i addysg uwch blwyddyn o hyd i astudio peirianneg gyda’r nod o ddechrau fy ngradd israddedig yn y Brifysgol yn 2025. Mae astudio Saesneg yn arbennig wedi fy nghaniatáu i gyflawni cymhwyster sy’n profi fy ngallu i fynegi’n effeithiol ac adrodd yn drwyadl, sy’n allweddol ar gyfer gyrfa yn y maes peirianneg.”

Bydd nifer o fyfyrwyr nawr yn edrych ymlaen at gael dechrau astudio gyda ni fis Medi, a chymryd y camau nesaf o fewn eu taith addysgiadol at gyrsiau Safon Uwch neu gyrsiau galwedigaethol. Braf fydd cael eich croesawu chi i wythnos y glas fis Medi. Os nad ydych wedi gwneud cais eto, mae gennych amser i ymuno â ni. Felly ewch amdani i wneud cais ac osgoi cael eich siomi. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld fis Medi.