30 Hydref 2024
Cyfleoedd gyrfa newydd trwy hyfforddiant Cerbydau Nwyddau Trwm a ariennir yn llawn trwy gynllun Cyfrifon Dysgu Personol 91Ï㽶ÊÓƵ
Mae 91Ï㽶ÊÓƵ, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a Heads of the Valleys Training, yn cynnig cyrsiau hyfforddiant a ariennir yn llawn trwy Gyfrifon Dysgu Personol i gefnogi oedolion sy’n dymuno gwella eu gyrfaoedd fel gyrwyr cerbydau nwyddau trwm.
Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn darparu cyrsiau am ddim sydd wedi’u dylunio i roi sgiliau a chymwysterau newydd i oedolion gan eu galluogi i symud ymlaen i swyddi â thâl gwell a gyrfaoedd mwy boddhaus.
Diwallu’r galw mawr am yrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm
Siaradon ni ag Ollie Dunstall, Rheolwr Gweithrediadau yn Heads of the Valleys Training, sef canolfan hyfforddiant a gynhelir gan deulu yn ne Cymru. Rhoddodd gipolwg ar dirwedd y diwydiant ar hyn o bryd.
“Ers y pandemig, profwyd galw mawr am yrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm ar draws y DU, yn ogystal â galw am weithredwyr peirianwaith diwydiannol yn y canolfannau dosbarthu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y galw hwn gan ddyrannu arian ar gyfer y Cyfrifon Dysgu Personol er mwyn helpu miloedd o unigolion i oresgyn y rhwystrau ariannol sydd, yn aml, yn eu hatal rhag mynd i mewn i’r diwydiant.â€
Mae’r cyrsiau a gynhelir gan Heads of the Valleys Training yn cynnwys ystod o hyfforddiant gyrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm, o Gategori C1 (7.5 tunnell) i C (Dosbarth 2) a CE (Dosbarth 1). Ar ben hynny, mae’r busnes yn cynnig hyfforddiant ar weithredu peirianwaith diwydiannol, megis hyfforddiant Llwytho Lorïau (HIAB) a .
Parhaodd Ollie: “Dros y ddwy flynedd diwethaf, mewn partneriaeth â’r tîm gwych yn 91Ï㽶ÊÓƵ, rydym wedi llwyddo i gyflwyno hyfforddiant i gannoedd o ymgeiswyr. Gall y canlyniadau newid bywydau ac mae gweld cynifer o bobl yn defnyddio eu cymwysterau newydd i ddod o hyd i gyflogaeth well yn wych.â€
Taith Paige a Rhobie
Mae’r chwiorydd Paige a Rhobie yn enghreifftiau disglair o sut gall cyllid Cyfrifon Dysgu Personol weddnewid bywydau. Rhannodd Paige ei phrofiad:
Dywedodd: “Cyn hyfforddi trwy’r cynllun Cyfrifon Dysgu Personol, roeddwn yn gweithio fel gweithredydd cynhyrchiant mewn ffatri. Cymerais y swydd er mwyn ennill cyflog ond roeddwn yn gwybod nad oedd yn yrfa neu’n ddiwydiant roeddwn yn dymuno aros ynddo am byth. Roeddwn bob amser wedi ystyried ennill fy nhrwydded Cerbydau Nwyddau Trwm ond roedd y gost a’r ymrwymiadau amser yn rhwystrau i mi.â€
“Roedd fy chwaer, Rhobie, eisoes wedi cwblhau ei chwrs Cerbydau Nwyddau Trwm CE (Dosbarth 1) gyda Heads of the Valleys Training trwy gwrs Cyfrifon Dysgu Personol. Gwnaeth hi fy annog i gyflwyno cais am y grant a gwnes i hyn drwy wefan 91Ï㽶ÊÓƵ.
“Mwynheais fy nghwrs yn fawr gyda Heads of the Valleys – roedd tîm y swyddfa a’r athrawon mor gyfeillgar ac roeddent wedi gwneud i mi deimlo’n gyfforddus. Roeddent wedi trefnu popeth, o archebu fy mhrawf meddygol i drefnu fy mhrofion theori ar gyfer trwydded yrru dros dro. Ar ôl gwneud hyn, symudais i’r hyfforddiant ymarferol a mwynheais hyn yn fawr.
“Ar ôl pasio fy mhrawf, rwyf wedi llwyddo i ennill swydd gyda chwmni cludo nwyddau yn Llantrisant fel gyrrwr wagen godi. Mae’n swydd fy mod bob amser wedi dymuno ei gwneud ac rwy’n dwlu arni. Mae’n llawer gwell na’m swydd flaenorol mewn ffatri mewn cynifer o ffyrdd – tâl gwell, mwy o foddhad yn y swydd a mwy o ryddid. Yr unig beth rwy’n ei edifaru yw peidio â’i gwneud yn gynharach!
“Byddwn yn bendant yn argymell y fenter Cyfrifon Dysgu Personol i unrhyw un sy’n ystyried newid ei yrfa!â€
Llwyddiant Ben trwy gyllid Cyfrifon Dysgu Personol
Mae dysgwr arall, Ben, hefyd wedi cael budd o gyllid Cyfrifon Dysgu Personol.
Dywedodd: “Mae cyllid Cyfrifon Dysgu Personol wedi cael effaith enfawr ar fy mywyd gwaith – mae wedi fy lansio i ddiwydiant newydd sydd â mwy o gyfleoedd ar gyfer dilyniant a chyflog gwell.
“Ers cwblhau fy hyfforddiant gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm Categori C (Dosbarth 2) a CE (Dosbarth 2), rwyf hefyd wedi cwblhau fy nghwrs Nwyddau Peryglus ADR a’m cwrs Llwytho Lorïau (HIAB) sy’n rhoi cwmpas gwaith llawer ehangach trwy fy hawlogaethau Cerbyd Nwyddau Trwm newydd.
“Oddi yma, enillais swydd gydag Owens, cwmni cludo newyddau mawr yn ne Cymru. Cefais fy mhartneru â gyrrwr arall am ychydig o wythnosau i ddysgu’r drefn cyn eu bod yn hapus i mi fod ar fy mhen fy hun. Roedd y gwaith yn cynnwys cludo paledi o amgylch Caerdydd a’r cymoedd cyfagos.
“Hoffwn ddiolch i’r tîm yn 91Ï㽶ÊÓƵ ac yn Heads of the Valleys sydd wedi fy nghefnogi trwy gydol fy hyfforddiant.â€
Cymerwch y Cam Cyntaf at Yrfa Newydd
Os hoffech chi weddnewid eich gyrfa trwy gyrsiau a ariennir yn llawn gan Heads of the Valleys Training, ewch i’n tudalen Cyfrifon Dysgu Personol i gael mwy o wybodaeth.