91Ï㽶ÊÓƵ

En
ILS Supported Internships at Nevill Hall Hospital

Interniaethau gyda Chefnogaeth ar gyfer Dysgwyr ILS


10 Medi 2021

Fis Medi yma, rydym yn lansio cynllun peilot newydd, cyffrous sy’n cynnig interniaethau a gefnogir gan  i’n dysgwyr  (ILS) ar , ar y cyd â’n bwrdd iechyd lleol,ÌýÌý(´¡µþ±«±áµþ).

Ni yw’r coleg cyntaf yng Nghymru i dderbyn . Rydym yn teimlo’n gryf iawn dros roi cyfle i bob un o’n myfyrwyr ennill profiad o’r byd go iawn wrth astudio gyda ni. Mae’n helpu i’w paratoi nhw i gael dyfodol llwyddiannus ar ôl y coleg, a phrofiad gwaith yw un o’r ffyrdd rydym yn cefnogi ein dysgwyr i ddatblygu eu gyrfaoedd. Rydym hefyd yn darparu cymorth gydag ysgrifennu CV, datblygu sgiliau, cystadlaethau ac entrepreneuriaeth

Mae profiad gwaith yn gwneud mwy na rhoi blas i chi ar wahanol amgylcheddau gweithio. Mae hefyd yn eich paratoi chi ar gyfer y byd gwaith, drwy eich helpu chi i ddysgu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr fydd yn eich gwneud chi’n fwy cyflogadwy ar ôl gadael y coleg. Felly, o ran ymgeisio am swyddi, bydd cyflogwyr yn gallu gweld eich bod chi’n brofiadol ac yn barod i roi tân arni!

Lansio ein Cynllun Interniaeth gyda Chefnogaeth

Darperir y cynllun ar gyfer ein dysgwyr ILS. Mae cael y cyfle i fagu profiad ymarferol o amgylchedd gwaith yn allweddol, ac mae’n cefnogi eu cwricwlwm a nodau dysgu. Felly, mae ein cynllun interniaeth gyda chefnogaeth Engage to Change Gwent yn rhoi cyfle i ddysgwyr ILS gael golwg fanylach ar y mathau o swyddi gwahanol y gallant eu hystyried ym maes gofal iechyd, wrth ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd ar yr un pryd mewn gweithle cefnogol.

Mae Engage to Change yn brosiect ar y cyd rhwng ,Ìý,Ìý, ac . Caiff ei ariannu gan Ìý²¹Ìý.

Ar 1 Medi 2021, cafodd ein dysgwr ILS gwrdd â’r Tîm Cyfleusterau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn Ysbyty Neuadd Nevill, y Fenni, i ddechrau eu rhaglen interniaeth ar gyfer y flwyddyn academaidd. Roedd y diwrnod yn gyfle iddynt edrych ar y rolau gwahanol y byddant yn eu gwneud yn ystod eu lleoliad gwaith yn yr ysbyty, ac roeddynt yn frwdfrydig iawn i ddechrau eu interniaethau.

ILS Supported Internships at Nevill Hall Hospital

Eglurodd Gino Parisi, Rheolwr Gofal sy’n Canolbwyntio ar y Person a Phartneriaethau yn ABUHB, fod y bwrdd iechyd bob amser yn ceisio cefnogi ei gymunedau lleol. Dywedodd: “Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi gallu datblygu’r bartneriaeth hon gyda 91Ï㽶ÊÓƵ ac Elite, a galluogi’r interniaid hyn i gael profiad gwaith gwerthfawr go iawn gyda’n tîm Cyfleusterau yn Ysbyty Neuadd Nevill, y Fenni. Rydym yn croesawu’r interniaid i’r bwrdd iechyd ac rydym yn edrych ymlaen at eu cefnogi nhw. Rydym yn diolch iddynt am ein cefnogi ni o fewn y gwasanaethau rydym yn eu darparu. Rwy’n grediniol y byddant yn dod yn aelodau tîm gwerthfawr.â€

Cynigir yr interniaethau gyda chefnogaeth Engage to Change Gwent yn ystod y flwyddyn academaidd, sy’n rhoi amser i’n dysgwyr ILS ddatblygu eu sgiliau dros gyfnod hirach o amser, a pharatoi ar gyfer y byd gwaith. Bydd yr interniaid yn mynd ymlaen i brofi meysydd gwahanol o’r ysbyty yn ystod eu lleoliad gwaith. Byddant yn cael profiad cynhwysfawr o weithio mewn amgylchedd gofal iechyd ac yn cael cyfle i ddysgu amrywiaeth o sgiliau newydd. Efallai bod yr interniaeth hwn hefyd yn rhoi cyfle i ddysgwyr wneud cais am swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar ôl ei gwblhau. Ar ddiwedd yr interniaeth, bydd yr holl ddysgwyr sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun wedi dysgu ac wedi datblygu amrywiaeth wych o sgiliau i’w defnyddio yn y gweithle, a gallant eu trosglwyddo i swyddi a lleoliadau gwaith eraill yn y dyfodol.

Y cyfan sydd angen i ddysgwyr ILS ei wneud i gymryd rhan yn y cynllun interniaethau gyda chefnogaeth Engage to Change Gwent yw cysylltu â Phennaeth eu Hysgol i ddangos diddordeb. Ar gyfer pob dysgwr arall yn 91Ï㽶ÊÓƵ, mae ein tîm Menter a Chyflogadwyedd ar gael i’ch helpu chi ddod o hyd i gyfleoedd profiad gwaith addas a’ch helpu chi i symud ymlaen gyda’ch nodau gyrfaol unigol.

I gael mwy o fanylion a gwybodaeth am y prosiect, ewch i   neu edrychwch ar ei sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol:

Twitter: @engage_2_change
Facebook: @engagetochangewales