16 Awst 2021
Yn ystod mis Awst, rydym yn cefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda menter gofal iechyd benodol yng Nglynebwy i ddarparu sgrinio AAA hygyrch i’r gymuned leol ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent.
Fel coleg addysg bellach sy’n hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd, gwnaethom weithio’n agos gyda ¾±â€™w cefnogi nhw yn ystod pandemig COVID 19, a galluogi dysgwyr i ennill profiad gwerthfawr ar y rheng flaen ar yr un pryd. Dyma bartneriaeth newydd rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a 91Ï㽶ÊÓƵ fydd yn galluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i fod ar flaen eu rhaglen sgrinio yn y gymuned leol, gan elwa trigolion yn rhanbarth Blaenau Gwent.
Dywedodd Gary Handley, Cyfarwyddwr Cyfadran ar gyfer Astudiaethau Cymunedol a Gofal; “Rydym yn falch iawn o gefnogi ein GIG lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y ffordd hon. Yn ystod y pandemig, rydym wedi gweithio’n agos iawn gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac mae hwn yn gyfle arall i ni gefnogi’r gymuned leol rydym yn rhan ohoni, a chodi ymwybyddiaeth am faterion iechyd cyffredinol gyda dysgwyr; ac mae llawer ohonynt yn astudio cyrsiau gofal iechyd. Rydym yn benodol eisiau darparu cymorth mewn unrhyw ffordd bosib i helpu i leihau’r ôl-groniad mewn diagnosis cynnar ataliol sy’n bodoli oherwydd effaith Covid-19 ar ein darpariaeth gofal iechyd ‘arferol’.â€
Cynigir y Rhaglen Sgrinio Ymlediad Aortaidd yn yr Abdomen (AAA) i ddynion 65 oed sy’n byw yng Nghymru, ond mae wedi cael ei heffeithio gan bandemig COVID 19, ac mae ôl-groniad o ddynion sy’n disgwyl am apwyntiadau a gostyngiad mewn lle sydd ar gael yng nghlinig yr ardal leol. Felly, er mwyn helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda’i fwriad i sgrinio dynion 65 oed a hŷn, rydym wedi cynnig ein hadeilad ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent yng Nglynebwy fel y prif safle ar gyfer y gwasanaeth sgrinio.
Mae hyn yn bosib gyda diolch i staff Parth Dysgu Blaenau Gwent yng Nglynebwy, sydd wedi cynnig ystafelloedd i gynnal clinigau sgrinio yn eu lleoliad. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio ar y campws bedwar diwrnod yr wythnos ym mis Awst i gynnig 350 apwyntiad ychwanegol i ddynion yn yr ardal leol. Cynghorir y cyhoedd i beidio â defnyddio’r gwasanaeth heb wahoddiad. Cynigir y gwasanaeth sgrinio AAA ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent drwy apwyntiad yn unig rhwng Awst 2-23, i ddynion 65 oed yng Nglynebwy, Brynmawr, Abertyleri ac ardaloedd cyfagos. Anfonir gwahoddiadau i ddynion sy’n 66 oed, na chafodd wahoddiad tra roeddynt yn 65 oed oherwydd pandemig COVID-19. Ni all dynion alw heibio a gofyn am sgan ar y diwrnod; fodd bynnag, gall y dynion hynny sydd dros 65 oed, ac nad ydynt erioed wedi cael apwyntiad ar gyfer y prawf, hunan-gyfeirio drwy ffonio 01443 235161.
Dysgwch fwy am sut rydym wedi gweithio gyda’r bwrdd iechyd lleol a’r profiadau y gallech fanteisio arnynt fel myfyriwr iechyd a gofal yn 91Ï㽶ÊÓƵ. Nid yw hi’n rhy hwyr i ymuno â ni ym mis Medi.