20 Mawrth 2024
Cydnabyddwyd coleg addysg bellach mwyaf Cymru, 91Ï㽶ÊÓƵ, am ei safonau academaidd uchel yn dilyn adolygiad diweddar o’r diwydiant.ÌýÌýÌý
O dan arweiniad yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA), cafodd 91Ï㽶ÊÓƵ ganmoliaeth ar draws holl ofynion academaidd y DU heb nodi unrhyw feysydd i’w gwella neu ddatblygu.Ìý
Yn dilyn yr adolygiad ym mis Tachwedd 2023, mynegoddÌý hyder llwyr fod ansawdd profiad academaidd y myfyrwyr yn ogystal â safonau academaidd y coleg yn bodloni gofynion rheoliadol y DU. Ìý
Mae’r adolygiad, a gynhelir ar sail pedair blynedd safonol, yn cynnig asesiad arbenigol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar barodrwydd darparwyr i gynnal gweithrediadau o fewn y maes addysg uwch.Ìý
Mae Carolyn Watkins, sydd wedi’r hymrestru ar radd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod, wedi dychwelyd i Goleg Gwent yn ddiweddar ar ôl astudio Busnes a Chelf yn y coleg am y tro cyntaf yn ôl yn 1999. Gan fyfyrio ar ganfyddiadau adroddiad yr ASA, dywedodd: “Fel mam brysur i bedwar bachgen yn gweithio’n amser llawn, doeddwn i ddim wedi ystyried ymgymryd ag addysg bellach yn y dyfodol — ond mae 91Ï㽶ÊÓƵ wedi fy nghefnogi a’m galluogi i weithio tuag at ennill cymhwyster newydd.Ìý
“Edrychais ar wahanol ddarparwyr, ond doedd yr un ohonyn nhw’n teimlo’n iawn i mi nes i mi fynychu digwyddiad agored yn y coleg a theimlo’n syth bod croeso a gwerth i mi. Rhoddodd hyn yr hyder i mi ymrestru a chychwyn ar fy nhaith academaidd addysg uwch.â€Ìý
Ar ôl astudio ei chwrs presennol ers 2021, dywedodd Carolyn: “Ces i gyfle yn ddiweddar i ddod yn gynrychiolydd dosbarth ac yn llysgennad addysg uwch ar gyfer fy nghwrs, ac rwyf bellach yn rhan o dîm cynrychiolwyr myfyrwyr yr ASA. Mae’r staff yn y coleg wedi bod yn wych, gan gynnig cefnogaeth ac arweiniad digymar wrth i mi ymgymryd â’r cyfrifoldebau newydd hyn.â€Ìý
Dywedodd Guy Lacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr 91Ï㽶ÊÓƵ: “Mae canlyniadau’r adolygiad QAA yn newyddion gwych i’r Coleg a’n tîm addysg uwch. Rydym ni’n falch o’r cyfleoedd addysgol rydym ni’n eu cynnig, â’r partneriaethau rydym wedi’u sefydlu i sicrhau y gallwn ddarparu graddau haen uchaf a chymwysterau addysg uwch eraill sy’n fforddiadwy ac yn hyblyg.Ìý
“Mae ein staff yn gweithio’n galed i sicrhau nad yw ein dysgwyr yn cael dim byd llai nag addysgu, arweiniad, a chymorth rhagorol sydd yn cyd-fynd â safonau diwydiant, ac yn cael eu grymuso i gyrraedd eu nodau — mae’n ardderchog gweld hyn yn cael ei gydnabod gan yr ASA.â€Ìý
Mae gan Goleg Gwent bum prif gampws —wedi’u lleoli yng Nghasnewydd, Torfaen, Brynbuga, Crosskeys, a Glynebwy. Mae’r coleg yn cynnig amrywiaeth helaeth o gyrsiau addysg uwch ar draws ystod eang o bynciau y gall dysgwyr eu hastudio’n llawn- neu’n rhan-amser.Ìý
Wrth roi cyngor i’r rheini sydd am gychwyn ar daith addysg uwch, rhannodd Carolyn: “Byddwn yn bendant yn argymell y coleg ar gyfer addysg uwch — mae’r cymorth a gewch yn ystod eich cwrs yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl.ÌýÌý
“Rydych chi’n cael yr hyder sydd ei angen i gwblhau’r cwrs, ac mae yna wastad rywun i droi ato am gymorth a chefnogaeth – boed hynny’n academaidd neu’n bersonol.â€Ìý
I ddarganfod mwy am y cyrsiau addysg uwch sydd ar gael yn 91Ï㽶ÊÓƵ, ewch i: www.coleggwent.ac.uk/ein-cyrsiau/addysg-uwchÌýÌý