91Ï㽶ÊÓƵ

En

Datganiad gan 91Ï㽶ÊÓƵ


11 Mawrth 2019

Datganiad gan 91Ï㽶ÊÓƵ

Dyddiad: 14/03/2019, 2yp
Er mwyn paratoi ar gyfer agoriad Parth Dysgu Torfaen 91Ï㽶ÊÓƵ ym mis Medi 2020, mae’r coleg yn symud ei ddarpariaeth gwallt a harddwch ac adeiladu o’i Gampws Pont-y-pŵl.

Bydd y ddarpariaeth gwallt a harddwch ar gael ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent, campws Crosskeys a champws Dinas Casnewydd gydag adeiladu ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent a champws Dinas Casnewydd o fis Medi 2019.

Rydym yn cynnal fforwm agored gyda’n dysgwyr brynhawn i gael eu hadborth, ateb cwestiynau a’u sicrhau ein bod yn edrych ar gludiant ychwanegol sy’n angenrheidiol yn y mannau hynny lle mae diffyg llwybrau gwasanaethau bysiau cyhoeddus.

Bydd y cwestiynau a’r atebion o’r sesiwn hon yn cael eu dogfennu a’u huwchlwytho i’n gwefan yn ddiweddarach brynhawn, yma. Bydd y coleg hefyd yn darparu cludiant i ddigwyddiadau blasu ar gyfer dysgwyr sy’n ystyried symud i helpu gyda throsglwyddiad llyfn.

Rydym yn gweithio’n agos ag awdurdodau lleol, ein myfyrwyr presennol a disgyblion ysgol yn sir Torfaen i wneud yn siŵr bod y trosglwyddiad i’r Parth Dysgu Torfaen newydd yn rhedeg mor llyfn ag sy’n bosibl, gan sicrhau bod lles ein dysgwyr yn dod gyntaf.

Byddwn yn parhau i gyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan.