91Ï㽶ÊÓƵ

En

Dysgu ac Addysg

Dewch i ddarganfod ein cyrsiau addysg a chymorthyddion addysgu

A fyddech chi’n hoffi gweithio gyda phlant neu bobl ifanc i’w helpu i gyrraedd eu llawn potensial? Ydych chi’n awyddus i ddod yn athro neu’n gymhorthydd addysgu sy’n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol?

Y tu mewn neu’r tu allan i’r ystafell ddosbarth, gall dilyn gyrfa yn y byd addysg yn cynorthwyo eraill i ddysgu fod yn werth chweil. Fe welwch fod llawer o gyfleoedd ar gael ar gyfer gweithio fel cymhorthydd addysgu, cymhorthydd cymorth a dysgu, neu athro, a gall eich hyfforddiant fel athro ddechrau yn 91Ï㽶ÊÓƵ!

P’un a ydych yn dewis gweithio â phlant, pobl ifanc neu oedolion; yn y maes cymorth dysgu, gofal blynyddoedd cynnar, neu’n helpu unigolion ag anableddau; mae ein cyrsiau addysg, cyrsiau cymorthyddion addysgu a chyrsiau addysgu fel PgCE/PcET qualifications yn eich galluogi i ddechrau eich gyrfa ym myd addysg, gan eich rhoi ar leoliad gwaith er mwyn datblygu’ch profiad ar hyd y ffordd.

Ydych chi’n chwilio am gwrs hyblyg, rhad ac am ddim sy’n gweithio o amgylch eich ymrwymiadau presennol? Nid yw pob un o’n cyrsiau yn rhai llawn amser. Mae rhai o’n cyrsiau yn gyrsiau Rhan Amser Uwch, sydd am ddim ac wedi’u hariannu’n llawn, sydd ond yn gofyn am bresenoldeb rhan amser, sy’n golygu y gallwch astudio o amgylch ymrwymiadau gwaith a theulu.

Ein cyrsiau llawn amser Ein cyrsiau rhan amser

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Staff at Blaenau Gwent
play

Fe ddes i’n syth ar y cwrs TBA yn dilyn astudio Cyflyru Chwaraeon, Adfer a Thylino yn y Brifysgol oherwydd rydw i eisiau bod yn athrawes. I mi, y lleoliad yw rhan gorau’r cwrs. Rwy’n addysgu chwaraeon a gwasanaethau cyhoeddus ym Mharth Dysgu Torfaen, ac mae’n rhoi’r profiad bywyd go iawn i mi. Rydw i wir wedi cynyddu fy hyder a nawr rwy’n credu ynof fy hun.

Macey Jones
Cwrs TBA

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr