91Ï㽶ÊÓƵ

En

Sut i wneud cais - Llawn Amser

Application process in icons
*Bydd eich cynnig yn seiliedig ar eich graddau disgwyliedig

Sut i wneud cais am gwrs llawn amser

Ar ôl dod o hyd i gwrs mae gennych ddiddordeb ynddo, mae gwneud cais yn hawdd – cliciwch ar y ddolen gwneud cais nawr ar waelod tudalen y cwrs o’ch dewis i roi cychwyn arni. Rhennir y cais yn bum cam hawdd, ac mae’n cymryd ychydig funudau i’w gwblhau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys cymaint o wybodaeth â phosib, fel eich ysgol flaenorol a’ch graddau a ragwelir.

Os hoffech fwy o wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch ein Tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar ar 01495 333777 neu e-bostiwch helo@coleggwent.ac.uk

Poeni am eich graddau?

Efallai eich bod yn poeni am wneud cais yn sgil yr ansicrwydd ynghylch arholiadau ac asesiadau. Peidiwch â phoeni! Gallwch wneud cais am gwrs gyda ni, hyd yn oed os ydych yn ansicr ynghylch eich graddau, felly dewiswch y graddau rydych yn gobeithio eu derbyn, a bydd eich cynnig yn cael ei wneud yn seiliedig ar hyn. Ar ôl i chi dderbyn eich graddau, gellir eu trafod yn y coleg yn hwyrach ymlaen.

Derbyn cynnig

Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais, byddwn yn ei asesu yn seiliedig ar eich graddau disgwyliedig, ac yn cynnig lle amodol i chi yn y coleg. Os nad ydych yn gallu darparu graddau disgwyliedig, bydd aelod o’r tîm derbyniadau’n cysylltu â chi i drafod eich cais ymhellach. Os gwnaethoch ddarparu eich graddau, bydd eich cynnig amodol yn cael ei anfon drwy e-bost, a bydd cyfarwyddiadau ar sut y gallwch dderbyn y cynnig hefyd yn yr e-bost hwnnw.

Derbyn eich cynnig

Bydd angen i chi dderbyn eich cynnig drwy fewngofnodi i’ch . Os hoffech fwy o gyngor ac arweiniad cyn derbyn eich cynnig, gallwch ddewis yr opsiwn hwn a threfnu apwyntiad gyda’n tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar.

Sicrhewch fod eich cyfeiriad e-bost yn gywir ar eich cais, gan y byddwn yn anfon diweddariadau rheolaidd i’r cyfeiriad y byddwch yn ei ddarparu.

Cofrestru ar eich cwrs

Dysgwyr sy'n datblygu a dychwelyd

Fel dysgwr sy’n dychwelyd i astudio maes pwnc gwahanol, byddwch yn cofrestru yn ystod mis Awst. Yn agosach at yr amser, byddwch yn cael e-bost yn eich gwahodd i ddod i mewn i gofrestru ar eich cwrs yn 91Ï㽶ÊÓƵ. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ymgyfarwyddo â’ch maes pwnc newydd cyn i chi ddechrau ym mis Medi.

Dysgwr Newydd

Fel arfer, mae cofrestru’n digwydd ym mis Awst. Yn agosach at yr amser, byddwch yn cael e-bost yn eich gwahodd i ddod i mewn i gofrestru ar eich cwrs yn 91Ï㽶ÊÓƵ. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ymgyfarwyddo â’r campws cyn i chi ddechrau ym mis Medi.

Dechrau yn y Coleg

Mae’r tymor yn cychwyn ddechrau mis Medi. Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn e-bost i’ch cyfeiriad e-bost coleg yn darparu eich dyddiad cychwyn a chyfarwyddiadau ar sut i gael mynediad at eich amserlen.

Gweld dyddiad cychwyn eich cwrs yma.

Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn cael gwybod mwy am eich dosbarthiadau cyntaf ac amserlen ar gyfer mis Medi ar yr ap i fyfyrwyr, CG Connect – Lawrlwythwch yr ap nawr.