Eich Sgiliau, Eich Dyfodol!
O fis Medi 2023, caiff cymhwyster Bagloriaeth Cymru ei ddisodli gan gymhwyster newydd, Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Bydd pob dysgwr sy’n astudio ar gwrs Safon Uwch yn 91Ï㽶ÊÓƵ yn cael budd o’r rhaglen Bagloriaeth Sgiliau Uwch ochr yn ochr â’u hastudiaethau.
Yn ogystal â darparu’r sgiliau hanfodol i chi ochr yn ochr â’r llwybr o’ch dewis, mae rhaglen Bagloriaeth Sgiliau Uwch hefyd yn darparu cymhwyster ychwanegol sy’n cyfateb i un cymhwyster Safon Uwch. Bydd y cymhwyster hefyd yn darparu pwyntiau UCAS ychwanegol i chi felly bydd yn ddefnyddiol os ydych chi’n ystyried mynd i astudio yn y brifysgol!
Os ydych chi’n ystyried mynd i fyd gwaith, mae rhaglen Bagloriaeth Sgiliau Uwch yn ychwanegiad gwych at eich CV am ei bod yn dangos gallu academaidd a chymhwysedd o ran sgiliau. Mae cyflogwyr yn ei gwerthfawrogi’n fawr ac yn chwilio amdani.
Cyflwynir rhaglen Bagloriaeth Sgiliau Uwch gan gadw eich dyfodol mewn cof gan roi cyfleoedd i chi ddewis eich meysydd astudio eich hun wrth wella eich sgiliau cynllunio a threfnu; meddwl yn feirniadol a datrys problemau; creadigrwydd ac arloesedd; ac effeithiolrwydd personol (y ‘Sgiliau Hanfodol’).
Prosiect Cymunedol Byd-eang
- Asesiad di-arholiad (NEA)
- 25% o’r cymhwyster
- Bydd dysgwyr yn dangos cymhwysiad o’r sgiliau annatod wrth ystyried materion byd-eang cymhleth a chymryd rhan mewn gweithredu cymunedol lleol (o leiaf 15 awr) i hyrwyddo dinasyddiaeth mewn byd cynaliadwy a Chymru.
Prosiect Cyrchfannau'r Dyfodol
- Asesiad di-arholiad (NEA):
- 25% o’r cymhwyster
- Bydd dysgwyr yn dangos cymhwysiad o’r sgiliau annatod ac hefyd archwilio nodau cyrchfan yn y dyfodol ar gyfer bywyd, cyflogadwyedd a dinasyddiaeth mewn byd cynaliadwy a Chymru.
Prosiect Unigol
- Asesiad di-arholiad (NEA)
- 50% o’r cymhwyster
- Bydd dysgwyr yn dangos cymhwysiad o’r sgiliau annatod wrth gynllunio, rheoli a chynnal prosiect ymchwil annibynnol (prosiect ysgrifenedig estynedig neu arteffact).
Bydd y sgiliau cyflogadwyedd canlynol yn cael eu datblygu trwy gyfres o heriau ymarferol:
Llythrennedd
Dyma’r sgiliau a nodir ar gyfer, ac a gaiff eu hasesu trwy gyfrwng, TGAU Iaith Saesneg a/neu Iaith Gymraeg, a dylent gael eu datblygu hefyd trwy Brosiectau a Heriau Unigol.
Sgiliau rhifedd
Dyma’r sgiliau a nodir ar gyfer, ac a gaiff eu hasesu trwy gyfrwng, TGAU Mathemateg – Rhifedd, a dylent gael eu datblygu hefyd trwy Brosiectau a Heriau Unigol.
Llythrennedd digidol
- Deall ac ymateb yn briodol i risgiau a phroblemau er mwyn cyfathrebu’n ddiogel mewn byd digidol
- Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol!
Deall a rheoli eich ôl troed digidol eich hun - Defnyddio, trin neu greu data a gwybodaeth a’i gyflwyno’n ddigidol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd
- Y gallu i ganfod, trefnu, storio, rheoli, rhannu a diogelu gwybodaeth ddigidol
- Gwerthuso pa mor ddibynadwy yw ffynonellau gwybodaeth
- Defnyddio technegau a dulliau digidol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, yn cynnwys: cydweithredu, gweithio mewn tîm, creadigrwydd, datrys problemau a dysgu
Menter a datrys problemau
- Deall dulliau a thechnegau penderfynu a datrys problemau, a’u rhoi ar waith
- Nodi a dadansoddi problemau neu faterion
- Nodi atebion neu ymatebion posibl, ynghyd â rhesymau, yn ymwneud â barn wahanol
- Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn gallu:
- Hyfforddi a datblygu
Asesu’n feirniadol gryfderau dewisiadau a dadleuon, gan ystyried barn groes neu syniadau, dilysrwydd a dibynadwyedd amgen - Cadarn, gwydn a phragmatig
Cnoi cil ar ddulliau a thechnegau’n ymwneud â meddwl beirniadol, gwneud penderfyniadau a datrys problemau, a pha mor fedrus ydych chi wrth wneud hyn
Cynllunio a Threfnu
- Nodau ac amcanion
Y gallu i ddatblygu a chytuno ar nodau ac amcanion a phennu targedau neu gerrig milltir - Dangos eich bod yn gyfrifol ac yn ddibynadwy
- Y gallu i lunio cynllun, pennu a rheoli adnoddau, amserlenni, gweithgareddau a neilltuo cyfrifoldebau
- Dewis, trefnu a gwerthuso gwybodaeth sy’n berthnasol i’r amcan neu’r cynllun
- Rhoi’r cynllun ar waith
- Monitro a gwerthuso’r cynllun, ei newid fel bo’r angen ac addasu i newid
- Pennu risgiau ac ymateb iddynt
- Cnoi cil ar y broses gynllunio a’i chanlyniadau, a’u gwerthuso
Creadigrwydd ac arloesi
- Deall sut i gynhyrchu syniadau yn ogystal â nodi cyfleoedd a gwneud y gorau ohonynt
- Dangos meddwl gwreiddiol a’r gallu i nodi a herio tybiaethau
- Y gallu i gyfuno neu ddatblygu syniadau
- Asesu a gwerthuso syniadau, dewis opsiynau a’u rhoi ar waith
- Dangos dychymyg a blaengarwch
- Cnoi cil ar y broses a nodi sut y gellir ei gwella
Effeithiolrwydd Rhyngbersonol
- Deall, rheoli a gwella ymddygiad a pherfformiad
- Dangos blaengarwch ac annibyniaeth
- Effeithiolrwydd Rhyngbersonol
- Rheoli amser yn effeithiol
- Y gallu i ymateb yn briodol i wrthdaro
- Deall rolau a thimau
- Gweithio’n effeithlon mewn tîm
- Parchu ac ymateb i werthoedd a barn pobl eraill, gan gyflwyno eich barn eich hun yn effeithiol