5 Gorffennaf 2022
Ddim yn siŵr a yw cymwysterau Safon Uwch yn iawn i chi? Ydych chi erioed wedi ystyried beth arall allwch chi ei wneud ar ôl gadael yr ysgol?
Mae mynd i’r coleg yn ddewis gwych i bawb! Pa un a ydych chi’n awyddus i ddilyn llwyr academaidd Safon Uwch, neu’n dymuno dod o hyd i lwybr gyrfa arall, mae yna gwrs i chi yn 91Ï㽶ÊÓƵ.
Mae Peirianneg yn un opsiwn o blith llawer y gallwch ei archwilio, felly yn ddiweddar fe wnaethon ni gynnal digwyddiad o’r enw ‘Blas ar Beirianneg’ yng Nghampws Dinas Casnewydd ar gyfer 10 disgybl o ddwy ysgol leol – sef Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Joseff ac Ysgol Basaleg.
Daeth y bobl ifanc draw i’r digwyddiad er mwyn cael cipolwg ar opsiynau amgen ar gyfer eu gyrfa os nad oedden nhw’n awyddus i ddilyn y llwybr academaidd traddodiadol. Rhoddodd gyfle iddyn nhw weld y gweithdai peirianneg a modurol o’r radd flaenaf a’r offer o safon diwydiant sydd gennym yn y coleg, tra’n cymryd rhan mewn tasgau rhyngweithiol llawn hwyl.
Cymerodd y myfyrwyr ran mewn amrywiaeth o weithgareddau a drefnwyd gan ein tiwtoriaid arbenigol, gan roi blas iddyn nhw ar amryw byd o rolau peirianneg. Roedd hyn yn cynnwys chwistrellu ceir â phaent, trwsio teiars, caboli, gloywi a weldio. Bu’n gyfle gwych iddyn nhw gael profiad ymarferol o’r byd peirianneg yn eu coleg lleol.
Hefyd, rydym yn gweithio gyda rhai o’r sefydliadau peirianneg enwocaf yn Ne Cymru. Mae gennym gysylltiadau â , , , , a mwy! Yn wir, mae nifer o’n dysgwyr yn dod o hyd i brentisiaethau gyda’r sefydliadau hyn er mwyn cael profiad gwaith tra byddan nhw’n astudio. Gall cwrs peirianneg yn 91Ï㽶ÊÓƵ agor llawer o ddrysau ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y sector, er mwyn ichi allu llwyddo yn y byd peirianneg!
Os ydych chi’n chwilfrydig ynglŷn â dilyn gyrfa yn y maes peirianneg, dyma 5 rheswm pam mae’n opsiwn gwych i’w ystyried:
Ymgeisiwch nawr i ddilyn cwrs peirianneg yn 91Ï㽶ÊÓƵ ac ymunwch â ni ym mis Medi i gychwyn ar eich siwrnai tuag at fod yn beiriannydd. Mae’r llefydd yn llenwi’n gyflym, felly peidiwch â cholli eich cyfle!