91Ï㽶ÊÓƵ

En

Astudiaethau tir, Gofal anifeiliaid a Cheffylau

Mae ein cyrsiau gofal anifeiliaid, ceffylau ac astudiaethau tir, sydd wedi’u lleoli ar ein campws Brynbuga gwledig, yn cynnig digonedd o ddewis ar gyfer unigolion sydd wrth eu bodd yn yr awyr agored

Pa bynnag gwrs rydych chi’n ei ddewis, byddwch yn siŵr o gael digon o brofiad ymarferol, p’un a yw hynny yn ein canolfan anifeiliaid bychan sydd wedi’i hadeiladu’n arbennig, ein canolfan geffylau sydd wedi’i chyfarparu’n llawn, neu ar ein fferm weithio fawr. Fel Canolfan Hyfforddi ac Asesu Lefel 4 Gymeradwy BHS, gallwch fod yn sicr o dderbyn addysg o safon uchel a mynediad at y cymwysterau sydd eu hangen arnoch chi i ddatblygu yn y diwydiant ceffylau.

Bydd ein hystod o Ddyfarniadau City & Guilds hefyd yn sicrhau eich bod yn gymwys i weithio mewn ystod o swyddi sy’n ymwneud ag astudiaethau’r tir yn ddiogel, ynghyd â’r ardystiad i brofi hynny.

14 cwrs ar gael

Dyma’r unig goleg lleol a oedd yn cynnig y cwrs hwn; nid yw ysgolion chweched dosbarth yn cynnal y cwrs.

Allana Sparkes
Level 3 Animal Management

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Gwnewch gais nawr
Darganfod mwy

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau